For English review, see language toggle switch.
(awgrym) oed diddordeb: 11+
(awgrym) oed darllen: 13+
Genre: #ffantasiuchel #epig #gwreiddiol #ffuglen #antur
“Rhoddodd ei chorff un hyrddiad, ei phen yn cael ei daflu’n ôl. Yna gollyngodd ei gafael ar frys, gan ddisgyn ar ei chefn a brwydro’n flêr ar ei thraed. “Rhedwch!” sgrechiodd Amranwen gan ddiflannu i mewn i’r bryniau cyn gynted ag y medrai. “Rhedwch rŵan!”
Yn ôl i fyd y Copa Coch...
Os wnaethoch chi fwynhau Yr Horwth (enillydd Llyfr y Flwyddyn 2020: categori Plant a Phobl Ifanc) a’r dilyniant, Melltith yn y Mynydd, mae’n gwneud synnwyr y byddwch chi’n cael eich plesio gan y trydydd ychwanegiad i gyfres Chwedlau’r Copa Coch, Oes yr Eira. Mae’n wahanol, ond yn gyfarwydd ’run pryd.
Pwy di’r gynulleidfa?
Os ’da chi’n anghyfarwydd â’r llyfrau, cyfres ffantasi epig/high fantasy Gymraeg ydi hon. , Yr amryddawn Elidir Jones ydi’r awdur, ac mae’r darluniau gan the one and only, Huw Aaron. Gan amlaf, mae’n well gen i beidio cymharu llyfrau Cymraeg â rhai Saesneg, ond er mwyn rhoi syniad o vibes y gyfres, mi faswn i’n dweud bod y gyfres yn ymdebygu i lyfrau The Hobbit a The Lord of the Rings, gyda llawer iawn o ddylanwadau amrywiol eraill yn y pair. Er bod ’na debygrwydd i waith Tolkein, mae ’na rywbeth Cymreig iawn am y llyfrau yma, sy’n eu gwneud nhw’n wahanol ac yn unigryw.
Er bod gwefan Atebol yn nodi mai llyfrau i gynulleidfa 11-14+ yw’r rhain, dwi’n meddwl bod y ‘+’ yn bwysig iawn, achos mewn gwirionedd, does dim terfyn oedran ar gyfer pwy wnaiff fwynhau’r rhain. (Dwi’n 31, a dwi’n licio nhw).
Mi faswn i’n dweud, fodd bynnag, o’u cymharu â llyfrau eraill ar gyfer yr oedran yma, fod yr iaith mymryn yn heriol. Mae dull ysgrifennu Elidir Jones yn raenus, ac er ei fod yn llifo’n naturiol, bydd angen darllenwr go hyderus i daclo rhai o’r geiriau yn y nofelau er mwyn ‘dallt y dalltings’, heb sôn am gael y stamina angenrheidiol i ddarllen nofelau reit swmpus a phrysur.
Antur rhif 3: Oes yr Eira
Y tro hwn, rydym yn gadael y Copa Coch ac yn mynd ar drywydd gwahanol, wrth i’r criw o arwyr deithio i Deyrnas gyfagos Bryn Hir. Ar ôl teithio yno ar gais arweinydd dinas Crug y Don, daw’r criw i sylweddoli’n fuan nad ydi pethau’n iawn ym Mryn Hir. Yn ôl y sôn, mae un o’r Duwiau wedi mynd yn wallgo ac wedi troi’r tywydd yn arf yn erbyn ei bobl. Who you gonna call pan mae ’na Dduw wedi mynd yn rhonco? Arwyr y Copa Coch siŵr iawn!
Wrth ymchwilio’r dirgelwch, sylweddola’r arwyr nad yw pawb o reidrwydd yn dweud y gwir, ac efallai fod pobl Crug y Don yn cuddio rhywbeth. Dydi’r criw o arwyr erioed wedi wynebu cymaint o her.
Sut yn union mae mynd ati i goncro Duw?! Os ydych am wybod pa gyfrinachau tywyll o’r gorffennol sy’n cuddio yn y cysgodion ewch i nôl copi.
Erbyn hyn, y drydedd antur, rydym yn fwy cyfarwydd â’r cymeriadau a’u byd, ac mae’n teimlo fel bod yr awdur wedi dod i ryw fath o rythm wrth ysgrifennu ar eu cyfer. O’r diwedd, cawn weld datblygiadau yn y berthynas rhwng rhai o’r cymeriadau e.e. y will they/won’t they rhwng Nad a Sara. Wrth gwrs bod ’na le i ’chydig o ramant mewn nofelau ffantasi!
Beth nesaf?
Ar ddechrau’r stori, gofynnodd Ffion wrth Orig “fydda i rywfaint callach?” am beth ddigwyddodd i bentre’r Copa Coch (sydd bellach yn wag, gyda llaw). Chawn ni ddim atebion i hynny yn y gyfrol yma yn anffodus, ond mae’n edrych yn bur debyg y caiff hyn sylw yn y llyfr nesaf. Dwi, fel Ffion, yn ysu i gael gwybod beth aeth o’i le, a lle mae ein harwyr dewr ni erbyn hyn.
Yn ôl Elidir, mae ganddo gynlluniau mawr ar gyfer y bydysawd y mae wedi ei greu ym myd chwedlonol y Copa Coch, a does dim prinder o gymeriadau a lleoliadau amrywiol i ysgrifennu amdanynt. Digon ar gyfer sawl nofel arall dduda i.
Comments