top of page
Writer's picturesônamlyfra

Nye: Bywyd Angerddol Aneurin Bevan - Manon Steffan Ros a Valériane Leblond

Updated: Jun 8, 2023

*For English Review see language toggle switch on top of page*


♥Rhestr Fer Gwobr Tir na n-Og 2023♥

♥Enillydd Barn y Darllenwyr #TNNO23

(awgrym) oed diddordeb: 3-7+

(awgrym) oed darllen: 6+

 

Trysor Cenedlaethol

Dwi’m yn meddwl fod 'na ‘run ohonan ni’n darllen hwn sydd heb gael rhyw gysylltiad neu'i gilydd gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr NHS) ar ryw bwynt yn ein bywydau. Dwi’n cyfri fy hun yn lwcus iawn i fod yma a deud y gwir, achos mi gefais i driniaeth yn yr ysbyty pan oeddwn i’n saith oed am ddos cas o froncitis. Oni bai am driniaeth hwnnw, does wybod be fasa wedi digwydd. Dwi’n grediniol fod yr NHS wedi achub fy mywyd i, (a hynny fwy nac unwaith, go debyg!)


Mae’r NHS yn cael lot o stick yn y cyfryngau, ac mae ‘na gwyno diddiwedd amdano gan rai, yn enwedig pan ‘da chi methu cael deintydd, neu wedi bod yn disgwyl am syrjeri pen-glin ers blynyddoedd... A na, does 'na neb yn dweud ei fod yn berffaith - siŵr Dduw mae ‘na broblemau a meysydd i wella, ond y gwir ydi, ‘da ni’n anghofio weithiau pa mor bali lwcus ydan ni i gael triniaeth feddygol ddi-dâl i bawb.




Cyfres Enwogion o Fri

Yn gyntaf, dwi isio dweud gair neu ddau am y gyfres ‘Enwogion o Fri’ - sy’n enghraifft dda o sut mae cynhyrchu cyfres ddiddorol ac amrywiol tu hwnt, ac o safon uchel. Nid yn unig ei fod yn rhoi cyfle i nifer o awduron ac arlunwyr gwahanol, ond mae hefyd yn dewis a dethol y ffigyrau hanesyddol yn ofalus, fel ein bod yn cael gwybod mwy am bobl ‘da ni heb glywed digon amdanynt. Mae ‘na ôl cynllunio ar y gyfres, a dwi’n siŵr fod lot o sylw’n cael ei roi at baru awduron a dylunwyr, ac mae pob partneriaeth hyd yma wedi gweithio’n wych - a phob llyfr gyda’i vibes unigryw ei hun. Valériane Leblond (awdur Y Cwilt) sydd yn darlunio tro ‘ma, a Manon Steffan Ros sy’n awduro, felly ‘da ni mewn dwylo saff! Syniad da oedd cyhoeddi dau fersiwn hefyd - sy’n gwneud y llyfr yn hygyrch i fwy o bobl.


I Gymro mae ein Diolch

Tydi o’n anhygoel meddwl fod stori’r GIG – gwasanaeth sydd wedi achub miliynau o bobl dros y degawdau - yn cychwyn yma yng Nghymru, gyda bachgen o Dredegar, Aneurin Bevan, neu ‘Nye’ fel yr oedd yn cael ei adnabod.


Gadawodd ‘Nye’ yr ysgol yn 14 oed, ac fe weithiodd fel glöwr am flynyddoedd – gan ddysgu’r grefft o siarad yn gyhoeddus ac annerch tyrfa drwy ei waith gyda’r undeb. Mynnodd hawliau gwell i’w gyd-weithwyr. Ar ôl iddo ddod yn siaradwr cyhoeddus o fri, cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol dros yr ardal. Roedd pobl yn credu ynddo.


Gwnaeth gryn argraff tra roedd yn San Steffan. Dwi ddim am ddweud gormod, achos mae Manon Steffan yn adrodd stori ei fywyd yn llawer gwell na fi. Ond roedd gan ‘Nye’ weledigaeth – i wneud newidiadau anferth ac i greu rhywbeth wirioneddol arbennig.



Stori ryfeddol

Dwi’n dal i ryfeddu mai Cymro oedd tu ôl i’r syniad am wasanaeth cyntaf-o’i-fath i gynnig gofal meddygol am ddim i bawb. Roedd y gymuned yn bwysig iawn i Nye, ac mae hyn yn amlwg o’i waith ddiwedd dros bobl eraill ar hyd ei fywyd. Mae’r llyfr yn cyfleu’n hyfryd, sut y dylanwadwyd y dyn gan y gymuned glos yn Nhredegar, a’r gofal oedd gan bawb o’i gilydd yno.


Pan dwi’n darllen stori Nye, dwi’n llawn edmygedd, balchder ac rwyf wir yn cael fy ysbrydoli. Mae'n gwneud i mi deimlo bod unrhyw beth yn bosib. Os all mab glöwr o Dde Cymru gydag anhawster siarad gyflawni beth y gwnaeth o, mi allwn ninnau wneud unrhywbeth hefyd – does dim terfyn ar ein potensial.


Y GIG heddiw

Ydi, mae’r GIG dan bwysau enfawr, ac mae ei ddyfodol yn y fantol oherwydd y rhai sy’n ei gam-drin, yn ei gymryd yn ganiataol ac yn ei wrthwynebu, ond o ddifrif calon, mae’n rhaid i ni afael ynddo’n dynn a’i drysori. We don’t know how good we’ve got it wir i chi! Peth amhosib yw rhoi pris ar ein diolch ni fel cenedl i Nye Bevan, ac i holl staff y GIG sy’n gweithio’n ddiflino i ofalu amdanom pan fo’r angen.


Diolch i’r wasg am gyflwyno stori Nye i genhedlaeth newydd – mae’n bwysig iddynt ddeall gwreiddiau’r GIG yma yng Nghymru, achos nhw fydd ceidwaid gwasanaeth y dyfodol – a’u dyletswydd nhw fydd sicrhau ei fod yn parhau am flynyddoedd i ddod.

Mae’r NHS yn llygedyn o obaith mewn byd sy’n gallu bod yn llawn rhagfarn ac annhegwch. Esiampl wych o sut mae gofalu am ein gilydd, yn hytrach na dim ond edrych ar ôl ein hunain, yn talu ar ei ganfed yn y pen draw. Ac mae’r cyfan yn dechrau mewn tref ym Mlaenau Gwent.





 

Gwasg: Broga

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £5.99

 

UN O AREITHIAU ANEURIN:





Recent Posts

See All

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page