top of page

Mwy o Straeon o'r Mabinogi - Siân Lewis

♥Llyfr y Mis - Gorffennaf 2024♥


(awgrym) oed darllen: 10+

(awgrym) oed diddordeb: 7+ (gyda oedolyn yn darllen)

Lluniau: Valériane Leblond https://www.valeriane-leblond.eu/home.html


 


Pan gafodd y gyfrol gyntaf, Pedair Cainc y Mabinogi, ei chyhoeddi, gwnaeth tipyn o argraff. Yn wir, enillodd y Wobr Tir na n-Og yn 2016 - fedrwch chi ddim creu llawer mwy o argraff! Wel, ar ôl hir ymaros, mae’r dilyniant i’r gyfrol arobryn honno bellach ar gael, ac mae’n addo mwy fyth o’r hyn wnaeth y cyntaf mor arbennig.



I ddechrau, rhaid rhoi sylw i’r llyfr ei hun. Dyma be dwi’n ei alw’n ‘lyfr go iawn!’ Rho’r clawr caled yr ymdeimlad o sylwedd a safon uchel; nid llyfr i’w ddarllen unwaith a’i daflu ymaith mo hwn! Na, mae llyfr fel hyn yn rhywbeth i’w werthfawrogi, ei drysori a’i basio ymlaen o fewn teuluoedd. Dyma’r math o lyfr y gall plentyn (neu oedolyn) ddychwelyd ato dro ar ôl tro. A phwy well i addurno’r clawr na un o’n harlunwyr gorau- Valériane Leblond. Efallai mai o Ffrainc y daw hi’n wreiddiol, ond mae Cymru wedi ei mabwysiadau go iawn erbyn hyn. Mae lluniau Valériane yn adnabyddus iawn, ac yn cyfleu hud a lledrith hynafol Y Mabinogi i’r dim. Rhowch y lluniau gorjys yma ynghyd â geiriau Siân Lewis, ac mae gennych chi gyfuniad perffaith.


Petai chi’n gofyn i mi fynd ati i gyflwyno’r Mabinogi i genhedlaeth newydd, bur debyg na faswn i’n gwybod lle i ddechrau. Mae’r awdur, Siân Lewis, fodd bynnag, yn hen gyfarwydd â sut i wneud hyn, a hithau wedi awduro sawl llyfr arall amdanynt. Yn wir, mae’r Mabinogi wedi cael cryn dipyn o sylw gan gyhoeddwyr yn y blynyddoedd diwethaf, felly beth sy’n gwneud y gyfrol yma’n wahanol? Yn y gyfrol hon, mae’r awdur wedi cael y rhyddid a’r lle i adrodd y straeon mewn ffordd gyflawn a chynhwysfawr iawn. Mae fersiynau symlach o’r straeon yn bodoli eisoes, ond wrth symleiddio, mae’n rhaid tocio ac mae manylion yn cael eu colli. Er mai ‘dim ond’ tair stori sydd yma, sef Stori Culhwch ac Olwen, Stori Lludd a Llefelys a Stori Breuddwyd Macsen Wledig, mae digon o swmp ym mhob un i’ch cadw’n darllen am sbel dda! Mae stori Culhwch ac Olwen yn enwedig, yn un hir a rhyfedd iawn, sy’n addas i’w fwynhau dros sawl darlleniad.


syniad da, enwedig pan mae lot o gymeriadau!

Mae’r straeon eu hunain yn amrywiol ac yn fytholwyrdd, gyda rhai o’r negeseuon mor addas rŵan ac yr oeddent pan eu hadroddwyd gyntaf. Erbyn hyn fodd bynnag, mae disgwyliadau darllenwyr yn uchel iawn o ran diwyg a gwedd. Rwy’n falch o ddweud na chefais fy siomi gan y gyfrol hardd a moethus yma.


Rhamant, dial, trais, cyffro, antur, brwydro, cewri, dewiniaid a dreigiau -mae gan y Mabinogi dipyn bach o bopeth- beth mwy fasa unrhyw un eisiau?

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.






 

Cyhoeddwr: Rily

Cyhoeddwyd: 2024

Pris: £12.99

Fformat: Clawr Caled


 


Comentarios

Obtuvo 0 de 5 estrellas.
Aún no hay calificaciones

Agrega una calificación
bottom of page