top of page
Writer's picturesônamlyfra

Henriét y Syffrajét -Angharad Tomos

*Scroll down for English*


Gwasg/publisher: Gwasg Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd/released: 2018

Pris: £6.99

 

ADOLYGIAD GAN REBECCA ROBERTS

REVIEW BY REBECCA ROBERTS

Mae Rebecca yn awdur ei hun ac wedi cyhoeddi dau lyfr hyd yma, sef 'Eat. Sleep. Rage. Repeat' a 'Mudferwi'. Mae hi'n byw ym Mhrestatyn gyda'i gwr a'i phlant, ac yn ogystal ac ysgrifennu, mae hi'n gweithio fel cyfieithydd a gweinydd dyneiddiwr.


Rebecca is an author herself, and has published two novels with another on the way. These are 'Eat. Sleep. Rage. Repeat' and 'Mudferwi'. She lives in Prestatyn with her husband and two children, and as well as writing, works as a translator and a humanist celebrant.

 

“Does dim byd tebyg i gael eich parlysu gan ofn; i ofni rhywbeth mor ofnadwy fel bod eich corff wedi rhewi; a’ch traed wedi eu hoelio i’r llawr… Dwi ddim eisiau mynd ymlaen i ddweud y stori. Dwi ddim eisiau eich dychryn. Ond os na ddweda i, fyddwch chi ddim yn gwybod, ac mae’n bwysig eich bod yn gwybod.”



Dyma gychwyn prolog Henriét y Syffrajét, ac un o’r penodau agoriadol mwyaf brawychus i mi ddarllen yn y Gymraeg. Mae’r agoriad, a ysgrifennwyd o safbwynt Henrièt hŷn, yn hoelio’ch sylw yn syth ac yn mynnu eich bod yn darllen ymhellach. Yn yr ail bennod awn yn ôl i 1909 i gwrdd â Henrièt yn ifanc, a’i ffrind gorau Gladys. Cawn gipolwg ar fywyd dwy ferch ifanc yn byw yng Nghaernarfon yn nyddiau cynnar yr ugeinfed ganrif - bywyd eithaf rhwystredig a chul i ddwy ferch alluog, ac yn wir, i ferched yn gyffredinol. Er bod gan Henrièt rhieni eithaf llewyrchus a maldodus sy’n rhoi iddi’r rhyddid i holi ac addysgu ac archwilio, nid yw hyn yn wir am nifer fawr o’r merched o’i chwmpas. Yn rhan gyntaf y nofel cawn enghreifftiau o sut mae merched o bob oed yn dioddef o ganlyniad i anghydraddoldeb ac annhegwch a rhagrith y cyfnod. Yn fuan yn y stori mae Gladys ac Henriét yn dechrau ymwneud â mudiad y swffragwyr, ac mae plot yn nofel yn dilyn hynt a helynt y ffrindiau wrth iddyn nhw ddod yn rhan o’r ymgyrch i ennill y bleidlais i ferched, ac i orchfygu’r annhegwch a welir ym mhenodau gyntaf y nofel. Er mai cymeriadau dychmygol yw Henriét a Gladys, cawn gwrdd â’r merched go iawn fu’n gyfrifol am ennill y bleidlais i ferched, fel Emily Pankhurst, yn ogystal â’r rhai fu’n ei gwrthwynebu (David Lloyd George!) a dysgu mwy am yr ymgyrch a’r frwydr o safbwynt Cymraeg.



Y tro gyntaf i mi glywed y gair suffragette oedd wrth wylio Mary Poppins. Does gen i ddim atgof o ddysgu am y pwnc yn yr ysgol, a heblaw am bwt yn y Dorling Kindersley Children’s Encyclopedia, ychydig iawn o wybodaeth oedd ar gael i mi’n ifanc am y frwydr i gael y bleidlais i ferched. Mawr rwy'n gobeithio bod y sefyllfa wedi newid erbyn heddiw, ond yn ifanc, ychydig iawn o wybodaeth oedd ar gael i mi ynglŷn ag ymgyrch fu mor allweddol i ferched Prydeinig. Llwyddiant mawr Angharad Tomos yw ysgrifennu nofel sy’n cynnwys gymaint o wybodaeth ffeithiol am weithgarwch y swffragwyr, ond sydd hefyd yn chwip o nofel ddarllenadwy. Mae gwaith ymchwil trylwyr yr awdur yn amlwg ar bob tudalen, ac mae ganddi hefyd y ddawn o gyfleu gwybodaeth wleidyddol cymhleth mewn ffordd bydd yn eglur ac yn ddealladwy i bobl yn eu harddegau neu bobl sydd heb ddarllen llawer ar y pwnc. Mae’n nofel uchelgeisiol sy’n cwmpasu ystod eang o themâu a digwyddiadau niferus dros gyfnod estynedig o amser. Yn bersonol, doeddwn i ddim yn gweld bod y lluniau yn ychwanegu rhyw lawer at y profiad o ddarllen y llyfr, a’r un peth yn wir am newid safbwynt y naratif o’r person cyntaf i’r trydydd person ac yn ôl. Yn fy marn i, darnau mwyaf pwerus y nofel oedd y rhai a adroddwyd gan Henrièt ei hun, a byddwn wedi hoffi rhagor o’r rhain, neu’n well fyth, nofel gyfan o’i safbwynt hi. Ond mân gwynion yw’r rhain, ac yn bendant ddim yn rheswm i beidio â phrynu copi i’r ferch ifanc yn dy fywyd.


A dyma fi’n dod at broblem fwyaf y nofel. Gyda dwy ferch yn brif gymeriadau’r nofel rhagwelaf at ferched bydd yn apelio’n bennaf - sy’n bechod, achos mae’r stori yn berthnasol i bawb, ac yn parhau’n bwysig hyd heddiw; nid yn unig am ei bod yn addysgu am frwydr ein cyn-neiniau i gymryd cam yn agosach at gydraddoldeb, ond hefyd am ei bod yn pwysleisio bod gan bobl ifanc rôl bwysig i chwarae wrth newid y byd am y gorau. Felly na, peidiwch â phrynu copi i’ch merched yn unig - prynwch hi i’ch meibion hefyd. Athrawon - cyflwynwch y nofel i’ch dosbarthiadau. Mae hanes Henrièt a Gladys yn perthyn ac yn berthnasol i bawb!


 

“Does dim byd tebyg i gael eich parlysu gan ofn; i ofni rhywbeth mor ofnadwy fel bod eich corff wedi rhewi; a’ch traed wedi eu hoelio i’r llawr… Dwi ddim eisiau mynd ymlaen i ddweud y stori. Dwi ddim eisiau eich dychryn. Ond os na ddweda i, fyddwch chi ddim yn gwybod, ac mae’n bwysig eich bod yn gwybod.”



This is the beginning of the prologue of Henriét y Syffrajét, and one of the most frightening opening chapters that I’ve read in Welsh. The opening, written from the perspective of an older Henriét, immediately focuses your attention and demands further reading. In the second chapter we go back to 1909 to meet a young Henriét, and her best friend Gladys. We get a glimpse of the lives of two young girls living in Caernarfon in the early twentieth century- a pretty frustrating and limiting life for two able girls, and, indeed, females in general. Whilst Henriét has quite prosperous parents who give her the freedom to question, learn and explore, this is not the case for a large number of women. In the first part of the novel we have examples of how girls of all ages suffer as a result of inequality and hypocrisy of the period. Soon, Gladys and Henriét begin to get involved with the suffragettes' movement, and the plot of the novel follows their adventures as they become part of the campaign to win the women's vote, and to defeat the unfairness seen in the first chapters. Although Henriét and Gladys are fictional characters, we are introduced to real historical girls who have been responsible for winning the vote for girls, such as Emily Pankhurst, as well as those who have opposed her (David Lloyd George!) and learn more about the campaign from a Welsh perspective.



The first time I heard the word Suffragette was whilst watching Mary Poppins. I don't have a recollection of learning about the subject at school, other than a bit in the Dorling Kindersley Children's Encyclopedia, so there was very little information for me back then about the fight to win the vote for women. I hope that the situation has changed by today, but at a young age, there was very little information available to me about a campaign that was so crucial to British girls. Angharad Tomos’s great success is in writing a novel that contains so much factual information about the activities of the suffragettes, but also a highly readable and compelling novel. The author's thorough research is evident on every page, and she has the aptitude for conveying complex political information in a way that will be clear and understandable to teenagers or people who have not read a lot on the subject. It is an ambitious novel covering a wide range of themes and events over an extended period of time. Personally, I didn't think the pictures added much to the experience of reading the book, and the same applies to changing the narrative's viewpoint from the first person to the third person and back. In my opinion, the most powerful bits of the novel were those narrated by Henriét herself, and I would have liked more of these, or better still, a complete novel from her point of view. But these are minor complaints, and definitely not a reason not to buy a copy for the young women in your lives.


And now I’m coming to the novel's biggest problem. With two girls being the main characters of the novel I anticipate this novel will mainly appeal to girls-which is a shame, because the story is relevant to everyone, and remains important to this day; Not only because it teaches us about the struggle of those who came before us to take a step closer to equality, but also because it emphasises that young people have an important role to play in changing the world for the best. So no, don't just buy a copy for your daughters- buy it for your sons as well. Teachers- introduce the novel to your classes. The history of Henrièt and Gladys belongs to and applies to us all!

 

PODCAST


Mae Angharad yn cael cwmni Lleucu a Elliw i drafod nofel newydd Angharad Tomos, Henriet y Syffrajet.


 

88 views0 comments

Recent Posts

See All

Comentários

Avaliado com 0 de 5 estrelas.
Ainda sem avaliações

Adicione uma avaliação
bottom of page