top of page

Hapus/Happy - Emma Dodd [addas. Ceri Wyn Jones]

*Scroll down for English*

Disgrifiad Gwales/Gwales Description


Dwi'n gwybod dy fod ti'n hapus pan wyt ti'n fy neffro â chân. Dwi'n gwybod dy fod ti'n hapus pan wyt ti am sboncio mor lân. Beth sy'n gwneud un gwdi-hŵ yn hapusach na hapus? Wel, cwtsho a sibrwd 'Rwy'n dy garu.' Addasiad Ceri Wyn Jones o destun annwyl Emma Dodd a ddarluniwyd yn swynol ganddi.


I know that you are happy when you wake me with a song. I know that you are happy when you hop and skip along. What makes one little owl happiest of all? Why, when he cuddles close and whispers, I love you. A Welsh adaptation by Ceri Wyn Jones of Emma Dodd's text which she has charmingly illustrated.


Oed diddordeb/interest age: 1-5

 

ADOLYGIAD GAN KIMBERLEY HELLYAR

REVIEW BY KIMBERLEY HELLYAR

Mae Kim yn Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar ac yn mwynhau darllen llwyth o lyfrau Cymraeg a Saesneg gyda'i mab ifanc, Bjørn. Gallwch ddilyn ei blog, bjornsbookshelf ar Instagram.


Kim is an Early Years Foundation Phase Practitioner who enjoys reading loads of Welsh and English books with her young son, Bjørn. You can follow her blog, bjornsbookshelf on Instagram.

 

Dwi am rannu'r llyfr dwyieithog bendigedig 'ma heddiw.



Dwi'n teimlo'n gynnes wrth ddarllen y llyfr yma gyda Bjørn. Mae'n stori mor annwyl am Fam Tylluan yn gwylio ei babi.


Mae'n ein hatgoffa o'r ffyrdd mae plant yn dangos eu bod yn hapus... boed hynny'n glebran di-baid, chwarae'n uchel, actio fel petai nhw wedi tyfu i fyny neu bod yn annibynnol ac yn falch o hynny!


Mae'r cyfieithiad yn llifo gystal â'r gwreiddiol ac mae'n cyfleu'r ystyr yn hyfryd.


Mae'n dangos perthynas gefnogol, llawn cariad rhwng rhiant a phlentyn. Mae darllen y llyfr gyda'n gilydd yn gyfle da i fod yn agos a chael cwtsh gan yr un bach!



 

Sharing this lovely bi-lingual book today. I get warm and fuzzy feelings whilst reading this to Bjørn. It’s such a sweet story about a mummy owl observing her baby owl. It’s a gentle reminder of the ways in which children demonstrate that they’re happy...whether they’re being little chatter boxes, playing really loud, acting grown up, independent and proud! The Welsh translation flows just as effortlessly and conveys the same meaning as the original so beautifully. It portrays a loving and supportive relationship between parent and child. Reading this together makes for a lovely little bonding session and provides the perfect excuse to cwtch up close with the kiddo!


 

Cyhoeddwr/publisher: Dref Wen

Cyhoeddwyd/published: 2018

Pris: £5.99

ISBN: 9781784230982

 


bottom of page