top of page

Fi ac Aaron Ramsey - Manon Steffan Ros

*Scroll down for English*


Oed darllen/reading age: 10+

Oed diddordeb/interest age: 9+

 

ADOLYGIAD GAN IOLO ARFON, Bl.10



Yn dilyn llwyddiant ‘Fi a Joe Allen’ yn sôn am daith Cymru i’r rownd gynderfynol yn Ewro 2016, dydi Manon Steffan Ros heb siomi hefo ‘Fi ac Aaron Ramsey’ - nofel o safbwynt Sam, hogyn sydd yn caru pêl-droed ac yn meddwl amdano trwy’r dydd, pob dydd.


Mae’r stori yn cydio o’r bennod gyntaf un, ac yn eich gadael eisiau darllen mwy ar ôl pob pennod. Ond mae digwyddiad annisgwyl yn troi ei fywyd ben i waered, ac mae popeth yn newid. Plot sydd felly mor gyffrous ag unrhyw gêm bêl-droed dda, heb wybod byth beth sydd nesaf.


Mae’r themâu yn eang, wrth ddysgu sut mae Sam yn delio gyda heriau fel ei rieni yn ffraeo, a phres yn fyr, ac felly’n debyg o apelio at bobl o bob oed.


Ceir cymeriadau lliwgar a bywiog - Sam, ei rieni, ei chwaer fach Mati, a’i ffrind gorau Mo, a’i berthynas efo pob un yn wahanol. Cymeriadau realistig ydyn nhw, sy’n golygu bod Sam yn gymeriad hawdd i gydymdeimlo efo, a’i ddeall.


Ar ben hynny, ceir yn y nofel bortread o Gymraeg amherffaith, sydd mewn gwirionedd yn berffaith wrth i Manon Steffan Ros ddangos fod y Gymraeg yn fyw ac yn iach, sut bynnag mae pobl ‘go iawn’ yn ei siarad, gan gynnwys Aaron Ramsey, arwr Sam sydd yn ei syfrdanu ymlaen ac oddi ar y cae.


I ddefnyddio idiom y pêl-droedwyr eu hunain, ar ddiwedd y dydd mae hi’n nofel amserol, ond yn siŵr o fod yn glasur fel ‘Fi a Joe Allen.’ Gobeithio felly fe aiff Manon Steffan Ros am yr hat-trick!



 

Following the success of ‘Fi a Joe Allen' that discussed Wales' journey to the semi-finals at Euro 2016, Manon Steffan Ros hasn’t disappointed with ‘Fi ac Aaron Ramsey' - a novel from Sam's point of view about a young lad who loves football and thinks about it all day, every day.


The story was gripping from the very first chapter, and leaves you wanting to read on after each chapter. But an unexpected event turns his life upside down, and everything changes. A novel with a plot as exciting as any good football game - never knowing what is going to happen next.


The themes are broad, as we see how Sam deals with challenges such as his parents arguing and their lack of money. Therefore, this book is likely to appeal to people of all ages.


The characters are colourful and lively - Sam, his parents, his little sister, Mati, and his best friend Mo, all of whom he has differing relationships with. They are realistic characters, which means that Sam is an easy character to sympathise with, understand and relate to.


Furthermore, this novel portrays that ‘imperfect’, everyday Welsh, which is actually perfect as Manon Steffan Ros shows us that the Welsh language is alive and well, with 'real' people speaking it, including Sam's hero, Aaron Ramsey himself, who amazes him both on and off the field.


To use a footballers' own phrase, ‘at the end of the day’, it’s a very timely novel, but sure to be a classic like its predecessor, ‘Fi a Joe Allen.' I really hope Manon Steffan Ros goes for the hat-trick!
 

Gwasg/publisher: Y Lolfa

Cyhoeddwyd/released: 2021

Pris: £5.99

ISBN: 9781784615673


Synopsis:


Mae'r stori'n ymwneud â dau ffrind, gyda'r nofel yn gorffen gyda Chymru yn cyrraedd Ewro 2020. Mae perthynas y ddau fel gêm bêl-droed - yn uchafbwyntiau bendigedig, ac yn isafbwyntiau siomedig, torcalonnus. Ond drwy bêl-droed, mae'r ddau yn dod i ddeall ei gilydd, a dod i werthfawrogi mai gwahanol gryfderau a chyd-chwarae sy'n creu tîm go iawn.


This is a tale of two friends and ends as Wales reach Euro 2020. The relationship between the two is like a football game - there are spectacular highlights and heart breaking low points. However, through football the two come to understand each other and come to appreciate that it is varied strengths and working together that creates a good team.

 

Os wnaethoch chi fwynhau 'Fi ac Aaron Ramsey' ...

If you enjoyed 'Fi ac Aaron Ramsey'...


Ennillydd Gwobrau Tir na n-Og uwchradd 2019


 
Y mab wedi mwynhau 'Fi ac Aaron Ramsey' yn ofnadwy a wedi'i ddarllen mewn diwrnod! Diolch am gael o i ddarllen yn Gymraeg Manon Steffan Ros ac Y Lolfa.- Rhiannon Evans, Trydar

Recent Posts

See All
bottom of page