top of page

Ffoi rhag y ffasgwyr - Myrddin ap Dafydd



(awgrym) oed darllen: 12+

(awgrym) oed diddordeb: 15+ (ac oedolion)

 



‘Dau yn ffoi o’r Almaen ar y trên olaf cyn y Rhyfel - ond beth am y brawd mawr?’

O geiriad a dyluniad y clawr, caiff Ffoi rhag y Ffasgwyr ei chyflwyno fel nofel am deulu yn ffoi o’r Almaen a gorthrwm y Natsïaid, ond ar y clawr mewnol welwn y disgrifiad: ‘Nofel am Aberystwyth ac Urdd Gobaith Cymru yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd’. Felly ar ddechrau’r nofel doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl - stori am anturiaethau Steffan a’i deulu, neu stori am Aberystwyth ac Urdd Gobaith Cymru? Wel, fel mae’n digwydd, cawn y ddwy o fewn cloriau un llyfr! Mwy am hynny maes o law.



Ar ddechrau’r nofel cawn restr o’r prif gymeriadau - 13 ohonyn nhw! A map o dref Aberystwyth, yn nodi prif leoliadau’r nofel. Ond prif gymeriadau’r stori yw’r teulu Steinmann - tad Gerhad, a’i blant Steffan, Anton a Lotti, gan drwy eu llygaid a’u profiadau nhw cawn ein cyflwyno i Gymru ar drothwy’r Ail Ryfel Byd. Mae’n anodd i mi grynhoi’r plot yn dwt ac yn daclus, heblaw am ddweud yn fras iawn bod y stori yn ymwneud â’r teulu yn ffoi i Gymru a chreu bywyd newydd yma, a’r effaith gaiff Urdd Gobaith Cymru ar eu bywydau, a bywyd Steffan yn benodol. Ond mae hyn yn gor-symleiddio pethau – mae’n nofel llond ei chroen.


Mae’n nofel sy’n sboncio’n hyderus o un lle i’r llall, yn symud o un criw o gymeriadau at y nesaf, o’r ysgafn i’r dwys. Ar adegau mae’n darllen fel nofel antur, ar adegau eraill mae’n nofel hanesyddol.



Mae yna ddarnau wirioneddol arswydus lle wnes i ddal fy anadl wrth ddarllen a chrynu gan ofn. Ond mae yna hefyd darnau lle mae’r stori yn symud ymlaen yn hamddenol, yn tindroi hyd yn oed. Mae naws y llyfr yn newid o bennod i bennod, sy’n fy atgoffa i o nofelau Louis de Berniers (dangos fy oed rŵan - dwi’n cofio’r hype o amgylch Captain Corelli’s Mandolin!) yn y ffordd mae’r awdur fel camera yn ceisio portreadu cymdeithas gyfan yn hytrach na chanolbwyntio ar daith un arwr yn benodol. Mantais hyn yw bod yna amser a lle i archwilio pethau fyddai fel arall yn cael eu hanwybyddu - effeithiau polio, er enghraifft; neu’r ffaith fod hiliaeth a rhagfarn hefyd yn bresennol yma yng Nghymru, sefydliad addysg cyfrwng Cymraeg yn Aberystwyth, ac wrth gwrs, hanes mudiad yr Urdd. Wnes i fwynhau’r cipolwg ar sut effaith gafodd yr Ail Ryfel Byd ar fywydau pobl gyffredin, a wnes i fwynhau darnau arafach y nofel lle mae cymeriadau Caffi Lewis yn trafod y blacowt a chyfyngiadau teithio llawn cystal â’r darnau mwyaf cyffrous lle mae Steffan yn ceisio dianc o Bielefeld. Mae’r diweddglo yn glyfar iawn wrth ein hatgoffa pam fod hanes y cyfnod a chenhadaeth yr Urdd yn parhau’n bwysig hyd heddiw… ond bydd yn rhaid i chi ddarllen y llyfr eich hun i weld pam!




 


 

Gwasg: Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd: Mai 2022

Pris: £8.00

Fformat: clawr meddal

 

Recent Posts

See All
bottom of page