top of page

Cwestiynu Popeth! - Susan Martineau a Vicky Barker [addas. Llinos Dafydd]

Updated: Oct 9, 2022

*For English review, see language toggle switch on top of page*



(awgrym) oed darllen: 9-11, 11-14

(awgrym) oed diddordeb: 8+

 
“We live in an information jungle. How can we help young readers to navigate safely through it to explore the world confidently and safely? They need to be armed with some essential critical literacy skills to find their way to reliable sources of information, to ask questions and to think for themselves.” - Susan Martineau [awdur y llyfr gwreiddiol]

Peidiwch â chael eich camarwain gan faint bach y llyfr yma - mae o’n llawn dop o gyngor doeth iawn i ymchwilwyr ifanc!



Oes ddigidol

Er gwell neu er gwaeth, ‘da ni’n byw mewn oes ddigidol lle mae technoleg yn symud yn ei flaen ar gyflymder aruthrol. Does dim dadlau ein bod ni’n byw mewn oes newydd – yr oes ddigidol, ac mae hynny’n dod gyda manteision ac anfanteision. Meddyliwch cymaint y mae bywyd wedi newid ers dyfodiad y we, a pa mor ddibynnol ydym ni arno erbyn hyn. Mae o wedi treiddio i bob rhan o’n bywydau ac mae ‘na fwy o wybodaeth allan yno rŵan na fu erioed o’r blaen yn ein hanes – i gyd ar flaenau’n bysedd.



Dwi’n siŵr eich bod chi wedi clywed am ‘Fake News’ - term sydd wedi cael mwy o sylw yn y blynyddoedd diwethaf. Yn anffodus, tydi popeth sydd allan yno ddim bob amser yn wir, a rhaid gwneud dipyn o waith ditectif weithiau, i wneud yn siŵr eich bod yn gallu ymddiried yn yr hyn ‘da chi’n darllen.


Efallai nad ydi o’n swnio’n broblem fawr, ond mae newyddion ffug yn gallu bod yn beryglus. Yn enwedig pan mae pobl jest yn ‘derbyn’ pethau yn oddefol heb fod yn gritigol a chwestiynu pethau.


Sut mae’r llyfr yn helpu?

Mae’r llyfr yn ein helpu i wneud synnwyr o’r cymhlethdod. Bydd yn cyflwyno sgiliau ymchwil i ti, fydd yn dy alluogi i feddwl dros dy hun a dod i benderfyniad. Ydi’r ffynhonnell yn saff? Ydi o’n ddibynadwy? Ydi o’n gywir? Dyma ond rhai o’r cwestiynau y dylen ni gyd ofyn i’n hunain bob tro rydan ni’n darllen unrhyw beth (a dim jest ar y cyfrifiadur chwaith).


Bydd yn dy ddysgu di pa gwestiynau sydd angen i’w gofyn, a sut i bwyso a mesur y wybodaeth cyn penderfynu beth i’w wneud. Mae'r rhain yn sgiliau hanfodol ar gyfer gwaith ysgol neu ar gyfer unrhyw waith ymchwil pellach yn y brifysgol. A dweud y gwir, mae’r llyfr yma yn ddefnyddiol i unrhyw un ar gyfer bywyd bob dydd.



Be sy’n dda am y llyfr?

I gychwyn, mae’n llawn lluniau steil digidol modern, sy’n helpu i gyflwyno’r holl wybodaeth mewn ffordd hawdd i’w ddarllen. Mae’r llyfr yn ein cynghori, ond byth mewn ffordd nawddoglyd neu un sy’n ceisio codi ofn. Os am ddefnyddio’r llyfr fel gwerslyfr yn y dosbarth, mae cyfres o dasgau hefyd er mwyn ymarfer y sgiliau meddwl newydd. Byddai’r llyfr yma’n adnodd gwych i wneud darllen grŵp, gan sbarduno trafodaeth ar hyd y ffordd. Defnyddiol oedd cynnwys glossary i esbonio’r termau - yr unig beth faswn i wedi hoffi gweld yw’r geiriau Saesneg yno hefyd - ‘sa hynny wedi bod yn handi.


Athrawon- dyma lyfr defnyddiol sy'n cysylltu gyda rhai o'r 'Datganiadau o'r hyn sy'n bwysig' o'r Cwricwlwm newydd i Gymru. Gall helpu disgyblion i "Feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ddehongli’n feirniadol a diduedd yr hyn y byddan nhw’n ei glywed, ei ddarllen a’i weld er mwyn rhyngweithio’n effeithiol fel dinasyddion galluog, gwybodus yng Nghymru a’r byd."

Beth alla i wneud?

Gobeithio, erbyn i ti orffen darllen y llyfr, y byddi di’n teimlo’n fwy hyderus i feddwl dros dy hun, i gadw’n saff ar-lein a sut i lywio dy ffordd drwy’r doreth o wybodaeth neu gam-wybodaeth sydd o’n cwmpas. Cofia brif neges y llyfr - paid derbyn unrhyw beth - cwestiyna bopeth!



 

Gwasg: Rily

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £5.99

 

BLOG CILIP (saesneg yn unig) SGWRS GYDA'R AWDUR GWREIDDIOL:


 

bottom of page