top of page

Chwilio

94 results found with an empty search

  • Proffil Adolygwr | Sonamlyfra

    Proffil Adolygwr Dyma lle gallwch roi dipyn o wybodaeth diddorol am eich hun sy'n mynd gyda'ch adolygiad. Defnyddiwch y ffurflen isod i wneud hyn. Dyma sut mae o'n edrych ar eich adolygiad!

  • Elidir Jones | Sonamlyfra

    Adnabod Awdur Elidir Jones Geni: 1964 Yn wreiddiol o: Bangor Byw yn: Caerdydd Ffaith ddiddorol: Mwynhau gemau fideo ffantasi. ​ Ffeithiau Fflach Llyfrau (plant a phobl ifanc) Y Porthwll (Dalen Newydd, 2015) Yr Horwth, (Atebol, 2019) Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu’r llyfr hwn? ​ Pan o’n i’n ifanc, roeddwn i ar dân eisiau darllen llyfrau ffantasi yn Gymraeg, ond ychydig iawn o ddewis oedd ar gael bryd hynny. Rŵan fy mod i mewn sefyllfa i wneud rhywbeth am y peth, dwi’n angerddol am greu llyfrau ffantasïol y bydd plant a phobl ifanc yng Nghymru eisiau eu darllen er pleser, yn eu hamser sbâr. Roeddwn i wedi ysgrifennu nofel ffantasi i oedolion rai blynyddoedd yn ôl – sydd ddim wedi ei chyhoeddi eto, er dwi’n gobeithio’n fawr y bydd yn gweld golau dydd rywdro. Pan gefais i gynnig ysgrifennu llyfr gan Atebol, felly, roedd ysgrifennu nofel wedi ei seilio yn yr un byd dychmygol yn teimlo fel peth naturiol iawn i wneud. Doedd ’na ddim un foment fawr o ysbrydoliaeth roddodd enedigaeth i Yr Horwth – dim ond eistedd o flaen sgrîn am ddyddiau ar y tro, efo lot fawr iawn o goffi. Dyna sut mae o i mi 99% o’r amser. ​ Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu. ​ Yr Horwth ydi’r cynta mewn cyfres (gobeithio!) o straeon ffantasi i bobl ifanc o’r enw Chwedlau’r Copa Coch. Mae’r nofel yn dilyn pedwar prif gymeriad – Sara, Heti, Pietro a Nad – wrth iddyn nhw fynd ar siwrne beryglus i fynydd yng nghanol y tir gwyllt, y Copa Coch, er mwyn trechu bwystfil o’r enw’r Horwth sydd wedi bod yn ymosod ar y wlad o’i gwmpas. Yn hynny o beth, dydi’r plot sylfaenol ddim yn annhebyg i unrhyw nifer o straeon ffantasi clasurol fel The Hobbit, ond mae ’na fwy nag un tro yn y gynffon wrth i’r nofel fynd yn ei blaen. Ac, yn wahanol i nifer o straeon ffantasi (a heb sbwylio unrhyw beth, gobeithio), dydi’r cymeriadau ddim yn mynd “yno ac yn ôl eto”. Maen nhw’n aros ar y Copa Coch – a’r berthynas rhwng y cymeriadau a’u cartref newydd fydd un o’r themâu mwyaf wrth i’r gyfres barhau. ​ Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon? ​ Mae gen i obaith, wrth gwrs, y bydd darllenwyr sydd wrth eu boddau efo ffantasi yn barod yn cael blas ar Yr Horwth. Ond rydw i hefyd wir yn gobeithio y bydd y llyfr yn apelio at ddarllenwyr sydd erioed wedi darllen ffantasi o’r blaen, ac yn eu hysbrydoli digon fel eu bod yn troi at fwy o glasuron o’r genre, yn Gymraeg neu’n Saesneg. Dydi Yr Horwth yn sicr ddim yn nofel sydd wedi ei hanelu at fechgyn – mae fy hoff gymeriadau yn y llyfr oll yn ferched! Dydw i hefyd ddim wedi targedu un oed yn benodol pan mae’n dod at ddarllenwyr, ac yn gobeithio y bydd plant, pobl ifanc ac oedolion oll yn mwynhau Yr Horwth yn eu ffordd eu hunain. Yn bennaf oll, dwi’n gobeithio y bydd Yr Horwth yn agor llygaid pobl o ran llyfrau ffantasi yn gyffredinol, a rôl ffantasi mewn llenyddiaeth Cymraeg yn fwy penodol. ​ Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn? ​ Un o bleserau mawr ysgrifennu ffantasi ydi bod dim angen ymchwilio os dydych chi ddim eisiau gwneud! Yn amlwg, mae hanes, chwedl, straeon tylwyth teg, a gweithiau ffantasi eraill yn medru cael eu bwydo i mewn i’r broses o ysgrifennu ffantasi. Ond mae’n bwysig cofio mai byd dychmygol sy’n cael ei ddarlunio, a bod dim rhaid ufuddhau i unrhyw reolau, na defnyddio unrhyw ddylanwadau, os nad ydi’r awdur eisiau gwneud. Yr unig “ymchwil” sydd wir angen ei wneud ydi darllen digon o lyfrau ffantasi eraill! Ond dydi ymchwil ddim fel arfer mor hwyl… ​ Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu? ​ Ro’n i’n sgwennu ambell i stori fach wirion yn fy amser sbâr pan yn hogyn bach, a ges i gyfnod reit brysur o wneud tua diwedd fy nghyfnod yn yr ysgol uwchradd. Ond ychydig iawn ysgrifennais i wedyn tan 2010, pan gefais i fy swydd cyntaf yn ysgrifennu ar gyfer y teledu ar sail gyrfa fer fel digrifwr stand-yp. Er fy mod i wrth fy modd yn ysgrifennu ar gyfer y teledu a’r radio, mae’n rhaid cadw pethau diflas fel cyllid ac ymarferoldeb mewn cof drwy’r amser. Mae’n braf, felly, ysgrifennu nofel (yn enwedig nofel ffantasi) a gadael i’r dychymyg fynd ar grwydr. Fe gychwynnais i ysgrifennu fy nofel gyntaf, Y Porthwll, yn 2014, a prin ydw i wedi stopio ers hynny! ​ Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc? ​ Gormod i’w rhestru, mae’n siŵr! Un gyfres wnaeth argraff fawr iawn arna i oedd Fighting Fantasy gan Steve Jackson ac Ian Livingstone – llyfrau ffantasi o’r 80au (sy’n cael eu hailargraffu bob ychydig o flynyddoedd, ac yn denu dilynwyr newydd bob tro), ble mae’r darllenwyr yn fflicio yn ôl ac ymlaen drwy’r llyfr, yn creu eu hantur eu hunain, yn hytrach na darllen drwy’r llyfr o’r dechrau i’r diwedd. Nhw wnaeth fy nghyflwyno i ffantasi. O hynny, fe es i ymlaen i ddarllen y gyfres Redwall gan Brian Jacques, ac wrth gwrs, campweithiau J.R.R. Tolkien. Mae’n rhaid sôn hefyd am y llyfrau Asterix, oedd yn cael eu pentyrru wrth ymyl y gwely a’u llowcio’n awchus bob tro o’n i adre’n sâl o’r ysgol! ​ Pa brofiadau yn eich bywyd sydd wedi dylanwadu ar eich ysgrifennu fwyaf? ​ Er mai ffantasi ydw i’n ei ysgrifennu gan amlaf, mae’n berffaith naturiol i’r byd go-iawn ymyrryd o bryd i’w gilydd! Dwi’n meddwl bod ’na ran ohona i ym mhob un o brif gymeriadau Yr Horwth. Fel Pietro, dwi wrth fy modd efo darllen. Dwi’n ffan mawr o eistedd mewn cadair gyfforddus efo paned o de, yn union fel Heti. Dydi fy jôcs i ddim wastad yn cael yr ymateb maen nhw’n eu haeddu, fel Nad druan. Ac, fel Sara, dwi’n figan! Doeddwn i erioed wedi dod ar draws cymeriad figan mewn nofel ffantasi o’r blaen, ond mae ’na dro cynta i bopeth, sbo… Pe gallech ddewis fod yn gymeriad o lyfr am ddiwrnod, pwy fyddai hwnnw a pham? Mae’n ddewis braidd yn ddiflas, ond fyddwn i wrth fy modd yn profi diwrnod ym mywyd Sam o The Lord of the Rings. Gardd mewn pentre allan o’r ffordd, tŷ llawn llyfra, pantri sy’n gwegian dan bwysa bwyd a diod… perffaith. Tan bod rhaid i chi gerdded am fisoedd, drwy bob math o beryglon, er mwyn achub y byd. Fyddwn i’n medru gwneud heb hynny… ​ Pa gymeriad yn eich llyfrau ydych chi’n lleiaf tebygol o ddod ymlaen gyda hi/ef? ​ Mae’r ateb cywir i’r cwestiwn yma yn debyg o sbwylio diwedd Yr Horwth! Ateb dipyn symlach, felly: yr Horwth ei hun, wrth gwrs! ​ Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc? ​ Y peth gwych am ysgrifennu ydi bod dim angen unrhyw beth arnoch chi oni bai am ddychymyg, a rhywbeth i ysgrifennu efo fo. Wneith papur a phensel yr un mor dda, fwy neu lai, â’r cyfrifiadur mwya drud. Fe allech chi ysgrifennu unrhyw le, unrhyw bryd. Yn y bath. Ar ben mynydd. Tra’n hongian ar ben i lawr fel ystlum. Gewch chi drio rhannu eich ysgrifennu efo’r byd, neu gadw’r cyfan i chi’ch hun. Does dim otsh! Ac mae’n hwyl! Does dim math arall o “waith” dwi’n fodlon ei wneud tan oria mân y bore. Mae’n gwneud i mi deimlo fel fy mod i erioed wedi tyfu i fyny. Sy’n deimlad reit dda i ddyn sydd newydd droi’n 35. Hawlfraint y llun: Póló

  • Meleri Wyn James | Sonamlyfra

    Adnabod Awdur Meleri Wyn James Geni: 1970 Yn wreiddiol o: Llandeilo Byw yn: Aberystwyth Ffaith ddiddorol: Mae hi'n mwynhau coginio. Ffeithiau Fflach Llyfrau Mwydyn yn yr Afal (Urdd Gobaith Cymru, 1991) – cyfrol enillydd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Taf-Elái 1991 Stripio (Y Lolfa, 1994) Diwrnod Da o Waith (Y Lolfa, 1999) Gwendolin Pari P.I. , Nofelau Nawr (Gwasg Gomer, 2001) Catrin Jones yn Unig (Gwasg Gomer, 2001) Catrin Jones a'i Chwmni (Gwasg Gomer, 2001) Tipyn o Gamp 1, Cyfres Hoff Straeon (Gwasg Gomer, 2003) Stori a Mwy (Gwasg Gomer, 2003) Gwenynen Bigog (Gwasg Gomer, 2003) Tipyn o Gamp 2 (Gwasg Gomer, 2003) Mrch Dd@ , Cyfres Whap! (Gwasg Gomer, 2005) Y We, Cyfres i'r Byw (Gwasg Gomer, 2005) Wyneb Rwber , Cyfres i'r Byw (Gwasg Gomer, 2005) St@fell , Cyfres Whap (Gwasg Gomer, 2005) Parti Ann Haf , Stori Sydyn (Gwasg Gomer, 2006) Rhyfel Cartre , Cyfres Lleisiau (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2006) Hlo Bri@n! :) , Cyfres Whap! (Gwasg Gomer, 2006) Fyny Lawr (Gwasg Gomer, 2006) Dw i Eisiau Bod yn Enwog (Atebol, 2010) Na, Nel! (Y Lolfa, 2014) Na, Nel!: Ha, ha! (Y Lolfa, 2015) Na, Nel!: Ho, ho! (Y Lolfa, 2015) Na, Nel!: Aaaa! (Y Lolfa, 2016) Na, Nel!: Shhh! (Y Lolfa, 2016) Dyddiadur Nel (Y Lolfa, 2017) Na, Nel!: Wps! (Y Lolfa, 2017) Na, Nel!: Ha, Ha! (Y Lolfa, 2017) Na, Nel!: Un Tro (Y Lolfa, 2018) Gwobrau Mwydyn yn yr Afal (Urdd Gobaith Cymru, 1991) – cyfrol enillydd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Taf-Elái 1991 ​ ​ ​ Cyfweliad diddorol gyda Meleri Wyn James, awdur y gyfres hynod o boblogaidd 'Na, Nel!' ​ Cliciwch yma ! Hawlfraint y llun: Póló

  • Gwybodaeth i Rieni | Sonamlyfra

    Rhieni Beth ydi Sôn am lyfra? Yn bennaf, gwefan sy'n cynnwys adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc yw Sôn am Lyfrau. Mae hefyd yn ofod ar-lein i gael sgwrs am lyfrau. Mae gwybodaeth am awduron Cymraeg ar gael yma yn ogystal. Sut fydd o'n ddefnyddiol i mi? Bydd adolygiadau cynhwysfawr yn rhoi digon o wybodaeth i chi am lyfrau hen a newydd er mwyn eich helpu i benderfynu os yw llyfr yn addas. Gallwch glywed am y llyfrau mwyaf diweddar trwy'r wefan, ein cyfrif Twitter, Facebook ac Instagram! Dwi ddim yn siarad Cymraeg... Dim problem! Mae'r wefan yn berffaith i chi - yn enwedig os yw eich plentyn/plant yn mynd i ysgol Gymraeg. Mae 100% o'n hadolygiadau yn ddwyieithog ac mae 87% o'r wefan ar gael yn Saesneg (heblaw am gynnwys a grëwyd yn allanol). Pa wybodaeth sydd yn yr adolygiadau? ⦾⦾⦾⦾⦾ dim o gwbl ⦿⦾⦾⦾⦾ ychydig bach bach ⦿⦿⦾⦾⦾ ychydig ⦿⦿⦿⦾⦾ dipyn ⦿⦿⦿⦿⦾ dipyn go-lew ⦿⦿⦿⦿⦿ llawer iawn ​ ☆☆☆☆☆ gwael iawn ★☆☆☆☆ gwael ★★☆☆☆ gweddol ★★★☆☆ da ★★★★☆ da iawn ★★★★★ Ardderchog/ffantastig!! Rydym yn defnyddio system raddfa dotiau 0-5 i roi gwybodaeth i chi am gynnwys y llyfr. Os nad oes dotiau wedi'u lliwio, yna nid yw'n berthnasol. ​ Mae 1-2 dot yn golygu ychydig bach iawn ac ychydig yn ôl eu trefn. Mae 3 dot yn golygu dipyn. Mae 4-5 dot yn golygu fod dipyn go-lew a llawer. ​ Ar gyfer her darllen, mae hyn wedi'i seilio ar farn yr adolygwr yn unig ac yn cael ei gymharu ag oed darged y llyfr. (llai o dots- haws, mwy o dots - anoddach) ​ Ar hyn o bryd nid ydym yn darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol ar gyfer y categorïau hyn e.e. pa air rheg â ddefnyddir, pa ddarnau sy'n anodd, beth yw'r cyfeiriadau at ryw. ​ Cysylltwch os ydych yn meddwl fod rhywbeth ar goll. Dwi'n dysgu Cymraeg! Gwych! Da iawn chi! Mae llyfrau plant a phobl ifanc yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i bobl sy'n dysgu Cymraeg oherwydd fod y llyfrau'n fyrrach ac mae'r iaith yn haws. Ewch at y dudalen adolygiadau ac edrychwch am lyfrau 12-14 neu 14+ i weld os oes un yn denu'ch sylw.

  • Bethan Gwanas | Sonamlyfra

    Adnabod Awdur Bethan Gwanas © Iolo Penri Geni: 1962 Yn wreiddiol o: Brithdir, ger Dolgellau Byw yn: Rhydymain,ger Dolgellau Ffaith ddiddorol: Mae hi'n cadw gwenyn mêl. Ffeithiau Fflach Llyfrau (plant a phobl ifanc) Coeden Cadi (2015) Cadi Dan y Dŵr (2017) Cadi a'r Celtiaid (2019) Cadi a’r Deinosoriaid Popeth am ... Gariad (2001) add. Sgôr (2003) Ceri Grafu (2003) Pen Dafad / Ramboy (2005) Dwy Stori Hurt Bost (2010) Gwylliaid (2014) Gwrach y Gwyllt (2003) Llwyth (2013) Efa (2017) Y Diffeithwch Du (2018) Edenia (2019) Gwobrau Gwobr Tir na n-Og 2001 Llinyn Trôns ​ Gwobr Tir na n-Og 2003 Sgôr Rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2005 Hi yw fy Ffrind ​ Gwobr Goffa T Llew Jones 2014 Gwylliaid

  • Heiddwen Tomos | Sonamlyfra

    Adnabod Awdur Heiddwen Tomos Geni: Awst 15 Ganwyd yn: Caerfyrddin Byw yn: Pencarreg Ffaith ddiddorol: Fy arwr yw Wim Hof (The Iceman) Ffeithiau Fflach Llyfrau (plant a phobl ifanc) Heb Law Mam (Lolfa) 2020 Ar ôl derbyn clod am ei nofelau i oedolion, mae’r awdures boblogaidd o ardal Llanbedr Pont Steffan yn troi ei llaw at nofel i’r arddegau ac yn cyhoeddi ei nofel gyntaf. Mae Heb Law Mam yn llawn hiwmor, problemau teuluol a charwriaethol, a chyfeillgarwch ffug. Cwestiwn ac Ateb Heiddwen Tomos Mae Heiddwen Tomos, awdur ac athrawes, wedi ateb rhai o'n cwestiynau... Beth yw eich cefndir a/neu beth ydych yn ei wneud ar hyn o bryd? ​ Rwy’n athrawes Ddrama a Chymraeg yn Ysgol Bro Teifi ac yn fam i dri. Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu llyfrau? Fy mhrif ysbrydoliaeth i ddechrau ysgrifennu oedd fy awydd i greu. Pan rwy’n hapus rwy’n mwynhau paentio. A dyna yw ysgrifennu mewn ffordd, sef creu llun ond gyda geiriau. Pa lyfrau wnaeth ddylanwadu arnoch fel darllenwr ifanc? Pam? Yn ifanc, roeddwn yn casáu darllen. Roedd yn well gyda fi dynnu lluniau, a byddai Mam rownd a bowt yn pregethu wrtha i roi fy mhen mewn llyfr. Ond ar ôl cyrraedd oed TGAU fe ges afael mewn llyfrau oedd at fy nant, ac ar ôl hynny, wnes i ddim troi nol. Beth sydd bwysicaf – y cymeriadau neu’r plot? Hynny yw – beth sy’n gwneud llyfr da? Yr hyn sy’n gwneud llyfr da yn fy marn i yw’r gallu i uniaethu gyda’r cymeriad. Mae pethau fel plot a deialog yn allweddol hefyd. Mae hiwmor hefyd yn help i gyfleu sefyllfa drwm a chadw’r darllenydd yn rhan o’r profiad. Beth yw eich llyfr diweddaraf i blant? Beth ydych chi’n gobeithio i ddarllenwyr ei gael o ddarllen y stori? Pam ei ‘sgwennu? Heb law mam yw fy llyfr cyntaf i bobl ifanc. Fel athrawes rwy’n cael lot o sbort yng nghwmni disgyblion a fy mhlant fy hunan. O ddarllen y llyfr rwy’n gobeithio bydd y darllenydd yn gweld bod adegau anodd ym mywyd pob un ohonom, ond wrth gael teulu a ffrindiau a chariad mae modd dod drwyddi. Un dydd ar y tro ac fe welwch yr haul unwaith eto. Pa neges sydd gennych i ysbrydoli darllenwyr/ysgrifenwyr ifanc? Y neges yw i gredu yn eich hunan. Byddwch yn bositif. Rhannwch eich gofidiau a byddwch garedig. Wrth ysgrifennu, gwrandwch ar eich llais eich hun a rhowch lwyfan iddo fe. Oes yna gymeriad rydach chi’n ei garu neu’n ei gasáu? Mae’n rhaid cael bach o wrthdaro er mwyn cyfleu drama’r nofel. Mae’n siŵr ein bod ni gyd yn adnabod ambell i hen sythan. Yn anfoddus mae nhw ymhob man. Ond mae hefyd modd ichi ddygymod â nhw wrth wneud pethau positif fel ymarfer corff, bod yn rhan o dîm, trafod. Oes llyfr newydd ar y gorwel? Nofel i oedolion sydd fod nesaf. Ond ar hyn o bryd rwyf ynghanol adroddiadau diwedd blwyddyn. Ac yn olaf... Llyfr go iawn neu e-lyfr? ​ Llyfr go iawn!!!!! Diolch Heiddwen ​ am fod mor barod i ateb ein cwestiynau. ​ Rydan ni'n edrych ymlaen at y straeon newydd!

  • Y Wefan | Sonamlyfra

    Amdanon ni Rydym ni gyd yn gwybod pa mor bwysig yw darllen, a pha mor bwysig yw cael llyfrau addas sy'n apelio. Mae pawb yn llawer fwy tebygol o ddarllen llyfrau y maen nhw'n eu mwynhau. ​ Pwrpas Sôn am Lyfra'n yw i ddarparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. ​ Y gobaith yw y bydd y wefan yn help i blant, rhieni ac athrawon wrth ddod o hyd i'r llyfrau gorau. “Mae'r byd llyfrau Cymraeg yn gallu bod yn ddryslyd, yn enwedig os ydych chi'n riant sydd ddim yn siarad Cymraeg. Gobeithio y bydd Sôn am Lyfra o gymorth i'r rheiny sydd eisiau cefnogi darllen eu plant.” — Morgan Dafydd, cyn-athro a sefydlydd y wefan “Bydd pob adolygiad ar Sôn am Lyfra ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg achos mae Cymru yn wlad ddwyieithog. Mae 'na gymaint o lyfrau gwych yn cael eu cyhoeddi yng Nghymru, a rydym ni'n awyddus i rannu'r rhain gyda chi." — Llio Mai, Sôn am Lyfra ANGEN HELP? Dim yn siwr pa lyfr fasa'n gwneud y tro? Gallwn ni gynnig arymhellion i chi. ​ Gyrrwch neges! LLYFRAU Fe fyddwn yn postio adolygiadau'n rheolaidd am lyfrau newydd a rhai o'r clasuron! Dilynwch ni ar ein sianelau! ADOLYGU Os ydych chi wedi darllen llyfr da yn ddiweddar- rydym eisiau clywed gennych chi! ​ Cyfrannwch adolygiad! CYSYLLTWCH Rydym wastad yn chwilio am gyfleoedd i gyd-weithio ac i wella'r wefan. ​ Cysylltwch os oes gennych syniad!

  • Rhestr Llyfrau | Sonamlyfra

    Rhestrau Llyfrau Y GOREUON Rhestr o rai o'r clasuron sydd wedi cael eu cyhoeddi dros y blynyddoedd. Pigion Disglair Blwyddyn 5 a 6 Lawrlwytho Uwchradd Lawrlwytho Blwyddyn 3 a 4 Lawrlwytho Blwyddyn 1 a 2 Lawrlwytho Adnoddau Dysgu Adref Lawrlwytho

  • Rhoddi | Sonamlyfra

    DIOLCH!! ...am ein cefnogi Gwefan ar-lein di-elw yw 'Sôn am Lyfrau' sy'n cynnig gwasanaeth am ddim ar gyfer plant, pobl ifanc a rieni Cymru. Ein prif bwrpas yw cynnig adolygiadau o lyfrau hen a newydd er mwyn rhoi mwy o wybodaeth i chi. Drwy annog pobl i ddarllen llyfrau, rydym hefyd yn helpu'r diwydiant llyfrau yng Nghymru (sy'n bwysig iawn i ni gyd). Rydym yn awyddus iawn i helpu rhieni di-Gymraeg i ddarganfod mwy am lyfrau Cymraeg - mae'r adolygiadau'n cynnig mwy o wybodaeth na beth sydd i'w gael ym mroliant y llyfr. Yn bennaf mae'r wefan ar gyfer: ​ ​ • Plant • Pobl ifanc • Rhieni • Athrawon • Unrhyw un sydd â diddordeb mewn llyfrau plant/pobl ifanc Pam fod angen arian arnoch? Cwestiwn da! Mae creu a chynnal gwefan yn gallu bod yn ddrud. Rhaid talu 'rhent' am gael defnddio'r gofod ar-lein ac mae costau blynyddol tanysgrifio er mwyn cadw'r wefan ar y we. Mae hefyd angen talu am gael defnyddio'r enw parth sonamlyfra.cymru. ​ Meddylwich am yr oriau o waith sy'n mynd i mewn i gynnal y wefan, boed hynny'n ysgrifennu adolygiadau neu ychwanegu cynnwys newydd i'r wefan. Mi fyddai hyn, fel arfer, yn costio lot o bres ac yn swydd i rywun, ond mae staff Sôn am Lyfra yn gwneud popeth yn wirfoddol (yn eu hamser eu hunain) felly mae hyn yn helpu i gadw'r costau'n isel. Iawn... ocê... ond... sut fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio? Dyna i chi gwestiwn da arall! Fel y nodwyd uchod, tydi 'staff' Sôn am Lyfra ddim yn cael eu talu o gwbl am edrych ar ôl y wefan. Bydd yr arian yn mynd tuag at dalu am gael cadw'r wefan ar y we yn unig. Mae hyn yn costio tua £100 y flwyddyn. Pe bai arian dros ben, bydd yn cael ei ddefnyddio i dalu am wobrau (copi o lyfr newydd) ar gyfer cynnal cystadlaethau fel ein bod yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl i'n dilynwyr. Oes rhaid i mi gyfrannu? Ddim o gwbl! Mae Sôn am Lyfra a'r holl adnoddau ar gael ichi AM DDIM! Fe gewch ei ddefnyddio gymaint ag ydach chi isio, heb dalu ceiniog..... OND..... ​ OS ydach chi'n meddwl fod y wefan yn ddefnyddiol AC yn teimlo'n glên iawn... byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad, boed fawr neu fach, mae pob ceiniog yn help i sicrhau dyfodol Sôn am Lyfra! ​ Iawn ta... mi wna i helpu... Brill - diolch o galon! Help a chymorth pobl hael fel chi sy'n ein cadw i fynd. ​ Cliciwch ar y botwm melyn isod i wneud cyfraniad o unrhyw faint, neu ewch i'n tudalen Ko-fi lle gallwch gyfrannu hyd at £3 (pris un paned o goffi). Ewch i'n tudalen Ko-fi i ddarnganfod sut allwch chi wneud rhodd. https://ko-fi.com/sonamlyfra

  • News02 | Sonamlyfra

    Nôl Newyddion DYDDIAD DYMA'R TEITL GALLWCH NEWID HWN UNRHYW BRYD, COFIWCH! I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. It's easy. I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. It's easy.

  • Gareth F Williams | Sonamlyfra

    Adnabod Awdur Gareth F. Williams Geni: 1955 Marw: 2016 Yn wreiddiol o: Porthmadog Byw yn: Y Beddau, De Cymru Enwog am: Ennill gwobr Tir na n-Og 6 gwaith!! Ffeithiau Fflach Llyfrau (plant) Ysgrifennu a Darllen, Cyfres Di-Ben-Draw: (BBC, 1993) Dirgelwch Loch Ness (Y Lolfa, 1996) O Ddawns i Ddawns (Y Lolfa, 2996) Pen Cyrliog a Sbectol Sgwâr, (Y Lolfa, 1999) Jara (Gwasg Gomer, 2004) Dial, (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2006) Adref heb Elin, (Gwasg Gomer, 2006) Y Sifft Nos, Cyfres Tonic 5 (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2007) Bethan am Byth, Cyfres Tonic 5 (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2007) Eira Mân, Eira Mawr, (Gwasg Gomer, 2007) Nadolig Gwyn (Gwasg Gomer, 2007) Tacsi i'r Tywyllwch, Stori Sydyn (Y Lolfa, 2007) Ffrindiau, Cyfres Whap! (Gwasg Gomer, 2008) Mr Petras, Cyfres Tonic (CAA Cymru, 2008) Curig a'r Morlo (Gwasg Gwynedd, 2009) Rhyfedd o Fyd (Gwasg Gwynedd, 2009) Gwaed y Gwanwyn (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2010) Y Ddwy Lisa: Cysgod yr Hebog (Y Lolfa, 2010) Y Ddwy Lisa: Sgrech y Dylluan (Y Lolfa, 2010) Y Dyn Gwyrdd, Cyfres Pen Dafad (Y Lolfa, 2012) Yr Ochr Draw/Yr Eneth Gadd ei Gwrthod, Cyfres y Fflam (CAA Cymru, 2012) Hwdi (Y Lolfa, 2013) Cwmwl dros y Cwm (Gwasg Carreg Gwalch, 2013) Anji, Cyfres Copa (Y Lolfa, 2014) Y Gêm (Gwasg Carreg Gwalch, 2014) Gwobrau Enillydd Gwobr Tir na n-Og 1991 (ffuglen), O Ddawns i Ddawns ​ Enillydd Gwobr Tir na n-Og 1997 (ffeithiol), Dirgelwch Loch Ness ​ Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2007 (sector uwchradd), Adref heb Elin ​ Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2008 (sector uwchradd), Eira Mân, Eira Mawr ​ Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2014 (sector cynradd), Cwmwl dro y Cwm ​ Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2015 (sector uwchradd), Y Gêm ​ Enillydd Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2015 Awst yn Anogia ​ Gwobr BAFTA am ei sgript ffilm o Siôn a Siân ​ Gwobr yr ŵyl yn yr Ŵyl Ffilmiau Celtaidd am ei gyfres Pen Tennyn

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page