top of page

Adnabod Awdur

Heiddwen

Tomos

IMG_20200601_100542 - Copy.jpg

Geni:

Awst 15

Ganwyd yn:

Caerfyrddin

Byw yn:

Pencarreg

Ffaith

ddiddorol:

Fy arwr yw Wim Hof 

(The Iceman)

Ffeithiau Fflach

Llyfrau

(plant a phobl ifanc)

Ar ôl derbyn clod am ei nofelau i oedolion, mae’r awdures boblogaidd o ardal Llanbedr Pont Steffan yn troi ei llaw at nofel i’r arddegau ac yn cyhoeddi ei nofel gyntaf. Mae Heb Law Mam yn llawn hiwmor, problemau teuluol a charwriaethol, a chyfeillgarwch ffug.

Cwestiwn ac Ateb

Heiddwen Tomos

IMG_20200601_100542 - Copy.jpg

Mae Heiddwen Tomos, awdur ac athrawes, wedi

ateb rhai o'n cwestiynau...

Beth yw eich cefndir a/neu beth ydych yn ei wneud ar hyn o bryd?

​

Rwy’n athrawes Ddrama a Chymraeg yn Ysgol Bro Teifi  ac yn fam i dri.

professional developmnet training sessio

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu llyfrau?

 

Fy mhrif ysbrydoliaeth i ddechrau ysgrifennu oedd fy awydd i greu. Pan rwy’n hapus rwy’n mwynhau paentio. A dyna yw ysgrifennu mewn ffordd, sef creu llun ond gyda geiriau.

Pa lyfrau wnaeth ddylanwadu arnoch fel darllenwr ifanc? Pam?    

 

Yn ifanc, roeddwn yn casáu darllen. Roedd yn well gyda fi dynnu lluniau, a byddai Mam rownd a bowt yn pregethu wrtha i roi fy mhen mewn llyfr. Ond ar ôl cyrraedd oed TGAU fe ges afael mewn llyfrau oedd at fy nant, ac ar ôl hynny, wnes i ddim troi nol.

Little Girl Reading in Bed
Annotation 2020-06-10 020131.jpg

Beth sydd bwysicaf – y cymeriadau neu’r plot? Hynny yw – beth sy’n gwneud llyfr da?

 

Yr hyn sy’n gwneud llyfr da yn fy marn i yw’r gallu i uniaethu gyda’r cymeriad. Mae pethau fel plot a deialog yn allweddol hefyd. Mae hiwmor hefyd yn help i gyfleu sefyllfa drwm a chadw’r darllenydd yn rhan o’r profiad.

Beth yw eich llyfr diweddaraf i blant?

 

Beth ydych chi’n gobeithio i ddarllenwyr ei gael o ddarllen y stori?

Pam ei ‘sgwennu?

 

Heb law mam yw fy llyfr cyntaf i bobl ifanc. Fel athrawes rwy’n cael lot o sbort yng nghwmni disgyblion a fy mhlant fy hunan. O ddarllen y llyfr rwy’n gobeithio bydd y darllenydd yn gweld bod adegau anodd ym mywyd pob un ohonom, ond wrth gael teulu a ffrindiau a chariad mae modd dod drwyddi. Un dydd ar y tro ac fe welwch yr haul unwaith eto.

Pa neges sydd gennych i ysbrydoli darllenwyr/ysgrifenwyr ifanc?

Y neges yw i gredu yn eich hunan. Byddwch yn bositif. Rhannwch eich gofidiau a byddwch garedig. Wrth ysgrifennu, gwrandwch ar eich llais eich hun a rhowch lwyfan iddo fe.

Girl Writing on Notebook
Love
Person Writing

Oes yna gymeriad rydach chi’n ei garu neu’n ei gasáu?

Mae’n rhaid cael bach o wrthdaro er mwyn cyfleu drama’r nofel. Mae’n siŵr ein bod ni gyd yn adnabod ambell i hen sythan. Yn anfoddus mae nhw ymhob man. Ond mae hefyd modd ichi ddygymod â nhw wrth wneud pethau positif fel ymarfer corff, bod yn rhan o dîm, trafod.

Oes llyfr newydd ar y gorwel?

 

Nofel i oedolion sydd fod nesaf. Ond ar hyn o bryd rwyf ynghanol adroddiadau diwedd blwyddyn.

Ac yn olaf...

1_wnqZYEqhzdmJ63svveymfQ.jpeg

Llyfr go iawn neu e-lyfr?

​

Llyfr go iawn!!!!!

Pile of Books

Diolch Heiddwen

​

am fod mor barod i ateb ein cwestiynau.

​

Rydan ni'n edrych ymlaen at y straeon newydd!

Heiddwen Tomos.jfif
bottom of page