top of page

Y Ddraig yn y Cestyll - Myrddin ap Dafydd

*Scroll down for English*


Dysgwch am 20 o gestyll Cymru!

Learn about 20 of Wales' castles!



Genre: ffeithiol, hanes Cymru / factual, Welsh history Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◎ Negeseuon positif/positive messages: ◎◎◎◎ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎ Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Hiwmor/humour: ◎◎◎◎◎ Her darllen/reading difficulty: ◉◉◉◎◎ Dyfarniad/Rating: ★★★★☆

 

Adolygiad gan Sioned Lleiniau




Heb os nac oni bai, does neb wedi gwneud mwy i agor llygaid plant Cymru i gyfoeth hanes eu gwlad na’r Prifardd Myrddin ap Dafydd, boed hynny drwy lyfrau ffeithiol neu chwedlau, cerddi neu nofelau. Yn y gyfrol hynod ddifyr hon, Y Ddraig yn y Castell, mae’r awdur yn rhoi cyfle arall i ni fynd ar antur gyda’r efeilliaid 11 oed, Gruff a Gwen, o gwmpas cestyll Cymru. Ac mae’r ffaith mai ar ffurf casgliad o flogiau ac ymatebion y cyflwynir yr holl wybodaeth am y cestyll dan sylw’n rhoi agwedd ffres, cyfoes ac atyniadol iawn i’r gyfrol.

Wrth gwrs, mae ambell ddarllenydd eisoes yn gyfarwydd â’r efeilliaid ac wedi dilyn eu hanturiaethau cynharach yn Carafanio dros Gymru. Dilyn yr un patrwm y mae’r gyfrol hon hefyd, wrth i ni gael ein cyflwyno i hanesion a nodweddion ugain o gestyll Cymru, gan amrywio o’r cyfarwydd, megis castell Caerdydd, Aberteifi, Caernarfon a Biwmares, i’r llai cyfarwydd, megis Castell Coety, Y Fflint, Dinefwr a’r Fenni. Ac yn gwmni i Gruff a Gwen ar hyd y daith mae clustog arbennig a roddwyd iddynt gan eu mam-gu ac arno lun traddodiadol o’r Ddraig Goch, fel symbol ychwanegol o’n treftadaeth a’n Cymreictod.


Ond mae yna fwy o fewn cloriau’r gyfrol na dim ond ffeithiau moel a gwybodaeth am gestyll. Mae arddull storïol, ddyddiadurol y blogiau’n rhoi cyfle i’r awdur osod yr holl leoliadau mewn cyd-destun mwy cyfoes. Wrth ymweld â Chastell Dolwyddelan, er enghraifft, ceir sôn am ymweliad â ZipWorld, cyn mynd ati i gyfeirio at nodweddion y dirwedd, gan gynnwys y gwahanol gribau a mynyddoedd sydd i'w gweld, cyn ein harwain ymlaen at y castell ei hunan. Dyma roi cyfle, felly, i’r darllenydd ddod i wir adnabod y cestyll a’r ardal o’u cwmpas, gan ddangos i unrhyw oedolyn sy’n darllen y gyfrol sut mae modd cyfuno gweithgaredd hwyliog gydag elfen o hanes, a thicio pob bocs wrth geisio cynnal diddordeb eu plant.

Mae diwyg y gyfrol yn denu’r llygad hefyd, gyda chyfuniad o ffotograffau a gwaith celf gan Chris Iliff yn ychwanegu at yr elfen weledol, ochr yn ochr â sylwadau difyr dilynwyr ar-lein Gruff a Gwen – sy’n cynyddu wrth i’r gyfrol fynd yn eu blaen – sy’n cynnig eu syniadau hwythau. Mewn oes lle mae hi’n gynyddol anodd i gadw diddordeb y genhedlaeth iau am gyfnodau hir, mae arddull gryno a lled bytiog y gyfrol hon yn bendant yn ffordd hwyliog o gyflwyno gwybodaeth mewn modd diddorol ac ysgafn, ond ar yr un pryd yn llwyddo i fod yn gyfrol ffeithiol werthfawr. A pheidiwch anghofio am glustog Draig Goch Mam-gu!


Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru


 

Yn y blog maen nhw'n ei gofnodi ar eu teithiau, cawn gip ar arwyddocâd y cestyll yn hanes Cymru a thipyn o'r hwyl sy'n codi o droeon trwstan ac o gyfarfod cymeriadau arbennig yn ystod y teithiau. Ceir ymateb i'r blog gan Nain/Taid/Tad-cu/Mam-gu a mêts y ddau blentyn.

Cestyll Cymru

Mae pob castell yng Nghymru yn destun rhyfeddod – ac yn llawn dirgelwch a hanesion. Mae rhai ohonynt yn rhan o Safle Treftadaeth Byd cyntaf Cymru – cestyll Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech. Daeth penseiri a pheirianwyr gorau Ffrainc yma i greu campweithiau mewn cerrig yn y cyfnod Normanaidd. Bu bron i’r hwch fynd drwy siop Edward I gan eu bod yn godro cymaint o arian o’i bwrs brenhinol. Mae cestyll eraill wedi’u codi gan dywysogion Cymreig i amddiffyn eu tiroedd a’u pobl yn eu rhyfel 200 mlynedd yn erbyn y Normaniaid.

Mae 800 mlynedd o hanes Cymru yn y cestyll hyn. Mae gan bob un ei stori ei hun yn ogystal. Yn y gyfrol hon, mae lluniau a darluniau lliw a naratif sy’n troi o amgylch ymweliadau un teulu ag 20 o gestyll Cymreig yn cyflwyno rhyfeddodau’r safleoedd a hefyd yn adrodd yr hanesion sy’n perthyn iddyn nhw. Mae nodweddion pensaernïol y cestyll yn cael eu dangos a’u hesbonio – e.e. barbican, garderobe, tourelle. Cawn hanes y brenhinoedd a’r arglwyddi Normanaidd oedd yn gymaint rhan o bresenoldeb y cestyll yng Nghymru. Ond yn ogystal, mae’r plant, wrth ymweld â’r cestyll, yn dod ar draws hanesion coll a thraddodiadau cudd am y Cymry a’r gymdeithas leol.

 

Review by Sioned Lleiniau


Without a doubt, no-one has done more to open the eyes of Welsh children to the richness of their country's history than that of Archdruid Myrddin Ap Dafydd, whether through fact books or legends, poems or novels. In this hugely entertaining volume, the Dragon in the castle, the author gives us another opportunity to go on an adventure with the 11-year-old twins Gruff and Gwen around the castles of Wales. And the fact that all the information about the castles in question is presented in the form of a collection of blogs and responses gives the volume a very fresh, contemporary and attractive aspect.


Of course, a few readers are already familiar with the twins and have followed their earlier adventures in Carafanio dros Gymru. This volume also follows the same pattern, as we are introduced to the stories and features of twenty castles in Wales, ranging from the familiar, such as Cardiff Castle, Cardigan, Caernarfon and Beaumaris, to the less familiar, such as Coety Castle, Flint, Dinefwr and Abergavenny. Gruff and Gwen's company along the way is a special cushion given to them by their grandmother and a traditional photograph of a Red dragon, as an added symbol of our heritage and Welshness.


But there are more within the volume's covers than just artifacts and factual information. The story/diary-like style of the blogs provides an opportunity for the author to place all venues in a more contemporary context. When visiting Dolwyddelan Castle, for example, there is mention of a visit to ZipWorld, before going on to refer to landscape features, including the different arêtes and mountains that can be seen, before we go to the castle itself. This provides an opportunity, therefore, for the reader to come to truly identify the castles and their surroundings, showing any adult reading the volume how it is possible to combine a fun activity with an element of history, and to tick each box when trying to maintain the interest of their children.

The volume is also pleasing to the eye, with a combination of photographs and artwork by Chris Iliff adding to the visual element, alongside the fascinating comments by Gruff and Gwen’s on-line fans – which increase as the volume progresses and they even suggest ideas. In an age where it is increasingly difficult to maintain the interest of the younger generation for long periods of time, the concise style of this volume is definitely a fun way of presenting information in an interesting and light-hearted manner, while at the same time proving to be a valuable factual volume. And don't forget about grandmother's red dragon cushion!


A review from www.gwales.com, with the permission of the Books Council of Wales.

 

Cyhoeddwr/publisher: Gwasg Carreg Gwalch

Rhyddhawyd/released: 2019

Pris: £7.50

 

65 views0 comments
bottom of page