*For English review, see language toggle switch on top of page*
Gwledd o luniau arbennig a stori hyfryd.
A treasure trove of pictures and a lovely story.
*Gwreiddiol Cymraeg - Welsh Original*
Yn aml, y geiriau sy’n bwysig mewn llyfr, ond yn sicr y lluniau sy’n hawlio’r sylw yn y stori yma. Llyfr hyfryd, sy’n cynnwys arlunwaith bendigedig gan Valériane Leblond. Fel arfer, gwneud lluniau ar gyfer eraill mae hi, ond dyma’r llyfr cyntaf iddi fod yn gyfrifol am y stori a’r lluniau ei hun.
Stori yw hon am deulu tlawd sy’n gadael Cymru er mwyn chwilio am fywyd gwell yn America bell. Wrth i hiraeth godi a’r plentyn yn dyheu am ei hen gartref, mae’r cwilt y gwnïodd ei Fam yn dod a chysur mawr iddo.
Yn ogystal â mwynhau’r stori, oedd yn gynnil a chain, cymerais oes i ddarllen y llyfr byr gan i mi fod yn edrych ac yn astudio’r lluniau hardd yn fanwl. Ar ei gwefan, soniai’r awdur/arlunydd am ei gwaith: “Yn aml, bydd fy ngweithiau’n trafod y perthynas sy rhwng pobol â’u cartref, y lle alwan nhw’n gartre. Mae i’r rhan fwyaf o’m gweithiau fanylion ac hanesion cyfochrog a welir wrth inni graffu’n fwy ofalus arnyn nhw.” Dwi’n tueddu i gytuno â hi – mae ei defnydd o batrymau yn glyfar iawn, ond i chi edrych yn ddigon agos.
Drwy'r oesoedd, mae pobl Cymru wedi ymfudo dros y môr wrth chwilio am fywyd newydd. Mae nhw’n wynebu siwrne faith, a heriau di-ri wrth frwydro i sefydlu bywyd newydd mewn tir estron. Mae’r llyfr yn sôn am hyn mewn ffordd hyfryd, sy’n gwbl addas i blant ifanc. (Nid yw’r geiriau cweit mor syml a mae’r llyfr yn awgrymu i ddechrau – efallai bydd angen help oedolyn i’w ddarllen ar blant ifanc iawn.)
Clawr caled ydi o sy’n gweddu’r llyfr i’r dim. Bargen am £5.99!
ADOLYGIAD GWALES:
Dyma drysor. Wir i chi, mae ’na rywbeth am y gyfrol hon yr ydw i, fel oedolyn, eisiau ei drysori. Mae hyd yn oed ansawdd y tudalennau’n teimlo’n werthfawr. Rydan ni wedi arfer gweld gwaith arbennig yr artist Valériane Leblond mewn gweithiau celf o bob math, gan gynnwys lluniau mewn llyfrau, ond yma mae hi’n troi ei llaw at yr ysgrifennu hefyd. Stori teulu sy’n ymfudo gan fynd â'u cwilt gyda nhw a geir yma. Mae hi’n darllen fel cerdd i mi, ac mae’r darluniau yn hynod annwyl ac yn creu awyrgylch unigryw. Darllenais drwyddi ac yna mynd o glawr i glawr eto, gan edrych ar y lluniau yn unig. Mae’r stori’n cael ei hadrodd ddwywaith yn hyn o beth. Wnes i ddim ei darllen i fy merch – mae hi’n rhy ifanc, dwi’n credu (nid yw eto'n ddwy oed). Ond bydd hon yn gyfrol y byddwn ni’n troi ati gyda’n gilydd ac yn sicr yn gyfrol y bydd Martha’n gallu ei mwynhau wrth ei darllen ar ei phen ei hun pan fydd hi'n hŷn. Mi faswn i’n awgrymu ei bod hi'n addas i blentyn ym mlynyddoedd olaf yr ysgol gynradd. Mae hi’n stori dawel ac annwyl sy’n rhoi rhyw deimlad personol iawn iddi. Mae'n llyfr perffaith i blentyn tawel sy’n hoff o gael pum munud o lonydd i ymgolli mewn llyfr. Mae Valériane yn profi ei bod hi’n feistres ar ddarlunio gyda phaent a geiriau yn y gyfrol fendigedig yma. Anni Llŷn Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Comentarios