top of page

Weithiau Dwi’n Gandryll / Sometimes I am Furious -Timothy Knapman [addas. Casia Wiliam]

*For English review see language toggle switch*


(awgrym) oed diddordeb: 1+

(awgrym) oed darllen: 5/6+

Lluniau: Joe Berger

 

A ninnau ar ganol gwyliau’r haf, dwi’n siŵr y bydd sawl rhiant ar hyd a lled Cymru’n hen gyfarwydd ag wynebau pwdlyd, blin fel sydd ar y clawr, yn enwedig os ’da chi’n rhiant i blentyn bach!


Temper tantrums. Cranky pants. Llyncu mul. Colli’ch limpyn. Gwylltio. Mynd yn grac. Cael mỳll. Strancio. Troi’n wallgo – mae ’na gymaint o ffyrdd gwahanol o ddweud bod rhywun yn flin!


Mae bywyd yn braf pan mae petha’n mynd yn iawn tydi. Ond weithia, tydi bywyd jest ddim yn deg nadi? Dio’m ots pa mor ‘calm’ a ‘chilled’ ’da chi’n meddwl ydach chi, mae ’na rhywbeth sy’n siŵr o wylltio pawb yn y pen draw, o bryd i’w gilydd.


Weithia, pethau sy’n mynd o chwith, neu ar adegau eraill mae pobl yn gwneud pethau sy’n eich gwneud chi’n GANDRYLL! I mi, mae’r ‘anghenfil’ neu’r ‘red mist’ yn dod pan dwi’n dreifio. Jest weithiau. Daw’r road rage i’r golwg pan mae gyrwyr eraill yn gwneud pethau hollol dwp a gwirion ar y lôn.


Wrth gwrs, tra mae’r rhan fwyaf o oedolion a phlant hŷn wedi dysgu sut i reoli eu teimladau, tydi pawb ddim mor ffodus. Mae plant bach yn enwedig, yn ei chael hi'n anodd rheoli a mynegi'r teimladau pwerus yma. Ac wrth gwrs, mae 'na rai sydd yn tyfu i fyny ac yn dal i gael trafferh gyda'r teimladau overwhelming.



Dyma lyfr, ar ffurf mydr ac odl, sy’n cadarnhau fod bywyd yn gallu bod yn anodd weithiau, a’i bod hi reit naturiol i fod yn flin o dro i dro.


Drwy stori ysgafn, fe welwn ferch fach sy’n cael trafferth rheoli ei thymer pan nad yw pethau’n plesio. Mae yma gyfle da i gynnal trafodaeth ar deimladau cymysglyd fel ‘bod yn flin.’ Gallaf weld y llyfr yma fel arf defnyddiol yn y dosbarth ac yn y cartref, nid yn unig gyda phlant yn y Cyfnod Sylfaen, ond gyda disgyblion hŷn fyddai’n buddio o’r cyfle i drafod yr emosiynau hyn. Yn sicr mae hwn yn adnodd defnyddiol i unrhyw riant sy’n ceisio cynnal sgwrs am y teimladau hyn.



Er bod y llyfr yn ddefnyddiol, dwi’n meddwl ei fod o’n colli’r cyfle i gynnig mwy o strategaethau defnyddiol ar gyfer rheoli’r tymer. Mi faswn i wedi hoffi gweld mwy am fy £12.99 os dwi’n bod yn onest. llyfr i’w fenthyg o’r llyfrgell fydd hwn i mi, debyg.


Un peth yn y llyfr sy’n hollol wir – mae cwtsh neu ‘hyg’ gyda rhywun annwyl yn gallu gwneud gwyrthiau. Does ’na ddim byd gwell na chofleidiad mawr er mwyn tawelu’r dyfroedd nagoes!



Nodyn:

Fel a nodir ar y clawr, rhaid cofio fel nifer o lyfrau dwyieithog, mai addasiad o’r gwreiddiol yw’r llyfr, ac er bod y testun Cymraeg a’r Saesneg wrth ymyl ei gilydd, tydyn nhw ddim bob amser yn dweud yr un peth gan nad ydynt yn gyfieithiad uniongyrchol.

 

Gwasg: Atebol

Cyhoeddwyd: 2021

Pris: £12.99

Clawr: Caled

 


bottom of page