top of page

Tyllau - Louis Sachar [addas. Ioan Kidd]

Ar restr BBC Big Read Top 100



(awgrym) oed darllen: 11+

(awgrym) oed diddordeb: 10+

 
Mae yna ambell i nofel sy’n serio ar y cof gan ddylanwadu ar y darllenydd. Un o’r rheiny yw Holes gan yr Americanwr Louis Sachar, teitl a bleidleisiwyd rai blynyddoedd yn ôl ymysg llyfrau dethol y BBC Big Read Top 100.
 


ADOLYGIAD CATRIN DAFYDD


Mae Stanley Yelnats wedi'i gyhuddo ar gam o ddwyn pâr o sgidiau. Oherwydd hyn, mae e’n cael ei anfon i Wersyll Glaslyn. Nid Stanley sydd ar fai, mae e a’i deulu wedi bod yn anlwcus ers blynyddoedd lawer. Ond, mae ymweliad â’r gwersyll rhyfedd hwn yn atgyfnerthu cymeriad Stanley ac yn newid ei fywyd am byth.


Mae addasiad Ioan Kidd o nofel Louis Sachar yn dal sylw’r darllenydd o’r dechrau un. Mae’r dirgelwch a berthyn i Wersyll Glaslyn yn eich gyrru i wibio drwy’r penodau. Caiff y darllenydd gyfle i ddeall teithi meddwl y prif gymeriad ac ymdreiddio’n llwyr i’w fyd. Mae cyfosod realiti bob dydd a straeon swreal yn cynnig cydbwysedd braf i’r nofel.


Yr hyn sydd fwyaf trawiadol am y nofel yw ei symlrwydd hi. Mae yma weledigaeth lân a thwt gydag uniongyrchedd y dweud yn taro dyn dro ar ôl tro. Mae’r stori'n dynn, yn debyg i hen alegorïau, ac eto’n gwbl fodern.


Yn ddi-os, dyma nofel sy’n dangos datblygiad cymeriad, yn dangos mewn modd cynnil sut mae cyfeillgarwch yn cael ei ffurfio a sut mae modd gwneud y gorau o sefyllfa wael. Nofel sy’n tanlinellu anghyfiawnderau yn ogystal â dangos sut mae dycnwch a dyfalbarhad yn gallu sicrhau canlyniadau. Yn fwy na dim, er mai nofel gryno a phwrpasol yw hon, heb unrhyw emosiwn, bron; dyma lyfr fydd yn gadael ei ôl ar bob un darllenydd am ei fod yn cyffwrdd â’r gwirionedd.


Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

 

GWYBODAETH YCHWANEGOL GAN Y CYHOEDDWR:



Twll o le!


Wedi ei throsi i ffilm Disney a’i chyfieithu i nifer o ieithoedd, mae Gwasg Gomer newydd gyhoeddi Tyllau, y fersiwn Cymraeg gan Ioan Kidd.


Texas chwilboeth ganol haf sbardunodd yr awdur i greu’r nofel hon nid sefyllfa, plot a chymeriadau arbennig. Yng ngeiriau Louis Sachar, mae’r lle fel uffern ar y ddaear ym mis Gorffennaf, felly dychmygwch balu twll yn yr haul tanbaid! Er y cefndir estron, syniad Gwersyll Glaslyn oedd y byddai bachgen drwg yn troi yn fachgen da wrth ei orfodi i wneud twll yn y ddaear bob dydd.


Y bachgen dan sylw yn y nofel hon yw Stanley Yelnats ac mae ei deulu ef wedi bod yn anlwcus ers cenedlaethau. Dyw hi ddim yn syndod felly ei fod yn cael ei gyhuddo ar gam o ddwyn a’i ddanfon i Wersyll Glaslyn. Rhaid i’r bechgyn sydd yno balu twll bob dydd yn y pridd sych a chaled sydd ar wely llyn Glaslyn. Rhaid i’r twll fesur pum troedfedd o led a phum troedfedd o ddyfnder. ‘Adeiladu cymeriad’ yw’r nod yn ôl y Warden. Ond cyn hir, sylweddola Stanley fod llawer mwy i’w ddarganfod o dan yr wyneb.


Goroesi yw’r prif thema ac fe blethir hanesion am gyn-deidiau’r prif gymeriad i’r nofel. Daw’r melltith a roddwyd ar y teulu hwn i’w uchafbwynt ganrif yn ddiweddarach yn hanes Stanley a Zero.

Gall darllenwyr o bob oed gael eu llyncu i mewn i’r stori hon sy’n llawn cynnwrf, difrifoldeb a digrifwch wedi ei hadrodd mewn brawddegau byrion, bachog.


Tan yn ddiweddar, roedd Ioan Kidd o Gaerdydd yn olygydd Ffeil, y rhaglen newyddion i blant ar S4C ac mae ef bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun. Tipyn o dasg felly oedd addasu’r nofel enwog hon i’r Gymraeg, sydd yn ôl un cylchgrawn yn

“un o lyfrau gorau’r ddeng mlynedd diwethaf”.

Byd lle mae cyfeillgarwch a chariad yn trechu popeth yw byd Tyllau, ond a fydd darllenwyr yn darganfod eu hunain a chanfod gwell byd wedi ei ddarllen? Pwy a ŵyr? Dyna ddirgelwch a grym nofel dda!



 

Gwasg: Gomer@Lolfa

Cyhoeddwyd: 2007

Pris: Gostyngiad i £2 ar Gwales (bargen!)


 



bottom of page