top of page

'Tydi Bywyd yn Boen! - Gwenno Hywyn

*Scroll down for English*


Enillydd Gwobr Tir na n-Og 1988

Tir na n-Og Award winner 1988


Pan mae'r byd yn mynd ar eich nerfau...

When the world's getting on your nerves...


Genre: harddegau, hiwmor / teenage fiction, humour, funny

Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◎◎

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◎◎

Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◎◎◎◎

Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎

Iaith gref/language: ◉◎◎◎◎

Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎

Hiwmor/humour: ◉◉◉◉◎

Her darllen/reading difficulty: ◉◉◉◎◎

Dyfarniad/Rating: ★★★★☆

 

Adolyigiad gan Llio Mai Hughes Review by Llio Mai Hughes










 

Dyma lyfr sydd wedi’i alw’n glasur gan nifer o bobl, ond doeddwn i ddim wedi dod ar ei draws yn yr ysgol nac am sbel go hir wedyn. Felly, a ninnau’n gorfod aros adref, dyma archebu copi i weld a yw’r ‘clasur’ yn glasur wedi’r cwbl.


Llyfr ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau ydi Tydi Bywyd yn Boen, ac wedi’i anelu at ferched. Tydw i bellach ddim yn fy arddegau yn anffodus, (wel dwnim am hynny!) ond mi wnaeth profiadau Delyth, y prif gymeriad, brocio sawl atgof yr oeddwn i wedi’u claddu ymhell yng nghefn fy meddwl, fel llafurio dros fynydd o waith cartref, paratoi at y disgo ysgol, trio edrych yn ‘ddeniadol’ a bod yn genfigennus o’r ferch oedd yn gariad i’r hogyn oeddwn i’n ei ffansïo - we’ve all been there.


Sgribls Hogan Flêr gan Gwen Lasarus dw i’n cofio ei ddarllen yn yr ysgol uwchradd, ac yr un math o lyfr ydi Tydi Bywyd yn Boen. Llyfr coming of age ydi o yn ei hanfod – dyddiadur merch ifanc sy’n trafod ei bywyd yn yr ysgol, ei bywyd adref gyda’i rhieni, ei pherthynas gyda’i ffrindiau, ac wrth gwrs, bechgyn, ac yn benodol yn achos Delyth, Trystan Jones.



O’i gymharu â Sgribls Hogan Flêr, dw i yn credu fod y llyfr, yn anochel, wedi dyddio rhyw fymryn erbyn hyn. Mae bywyd merched yn eu harddegau wedi newid hyd yn oed ers cyfnod Sgribls Hogan Flêr. Tydi bywyd yn llawn prysurdeb diolch i dechnoleg a’r cyfryngau cymdeithasol – prin y mae siawns i unrhyw un fod yn bored efo cymaint ar gael ar flaenau eich bysedd bellach, a gyda hynny daw cymaint mwy o bwysau i ddilyn y bywyd ‘perffaith’ sy’n cael ei bortreadu gan nifer ar Facebook neu Instagram. Wedi dweud hynny, mae hi hefyd yn syndod pa mor debyg ydi rhai agweddau o fywyd merched yn eu harddegau, boed yn y 1980au, y naughties, neu heddiw. Yr un ydi’r insecurities, yr un pethau sy’n ein poeni, a’r un pethau rydan ni’n dymuno amdanyn nhw yn y pen draw.


Dw i’n hoff o’r ffaith fod nifer o is-themâu yn cael eu plethu i mewn i’r stori, fel arfau niwclear, colli gwaith a mabwysiadu. Dw i hefyd yn hoff o onestrwydd y dyddiadur. Mae Trystan Jones yn cael cariad, sy’n siom mawr i Delyth, ac mae hi’n gwneud sylwadau reit bitchy yn ei dyddiadur am ei gariad newydd. Tydw i ddim yn dweud fod hyn yn iawn wrth gwrs, ond os ydan ni’n onesd efo’n hunain, mae’r mwyafrif ohonon ni wedi rhoi rhywun arall i lawr er mwyn teimlo’n well amdanom ni ein hunain ar ryw adeg, boed ar lafar, yn ein meddyliau, neu mewn dyddiadur. Beth sy’n gwneud Delyth yn gymeriad mor hoffus ydi ei bod hi amherffaith.


Mae’r llyfr yn un hawdd iawn ei ddarllen, yn trafod themâu reit ddwys a difrifol ar brydiau ond ar adegau eraill yn ddoniol ac yn reit heartwarming, yn enwedig y diweddglo. Roedd o’r llyfr cyntaf o’i fath yn y Gymraeg ar y pryd. Bu’n llwyddiant mawr a chafodd ei drosi yn gyfres deledu hefyd - sydd wedi bod ar gael yn ddiweddar trwy S4C Clic.


Felly, ydi’r llyfr yn glasur?


Dw i’n meddwl ei fod yn fwy o glasur i’r rheiny oedd yn darllen y math yma o lyfr am y tro cyntaf yn y Gymraeg ar y pryd, yn y 1980au, ond mi fysa hi’n ddifyr iawn clywed beth ydi barn merched yn eu harddegau heddiw. Mynnwch gopi a gadewch ni wybod!


Clip fideo o'r rhaglen...

 

This book is often touted as a recent classic by a number of people, but somehow, I didn't come across it in school or for quite a long time afterwards. So, as we are all in lockdown, I ordered a copy to see for myself if it lies up to all the hype.


Tydi Bywyd yn Boen [Life’s a pain] is a book for teenagers and is aimed at girls. Unfortunately I'm no longer a teenager (well, I’m actually quite glad!) but yes, reading about Delyth, the main character’s experiences brought back several memories I had buried deep in the back of my mind, such as labouring over a mountain of homework, preparing for school discos, trying to look 'attractive' and being envious of the girl who went out with the boy that I fancied- We've all been there.



The teenage-angsty book I remember reading in school was Sgribls Hogan Flêr by Gwen Lasarus and it’s got the same kind of feel as Tydi Bywyd yn Boen. It’s a sort of coming of age book – a girl’s diary where she pours out all her worries about school life, home life with her parents, friends and relationships and of course, boys – specifically in Delyth’s case, Trystan Jones.


In comparison to Sgribls Hogan Flêr, I think this book has aged quite considerably. Teenage girls’ lives have changed so much even in the last couple of years. Life is so busy thanks to social media – you hardly get the chance to be properly bored these days with so many things available at the touch of a button. With this new instant-culture, there’s more pressure to lead that ‘perfect’ life that is portrayed by so many Facebook and Instagram accounts. Having said this, it is surprising how many aspects of teenage girls’ lives are the same nowadays as they were in the noughties or indeed the late 80s when this book came out. We essentially still have the same sort of worries, insecurities, hopes and dreams now as we did back then.



I like the fact that a number of sub-themes are woven into the story, such as nuclear weapons, redundancy and adoption. I also like the honesty of the diary. The object of her desires, Trystan Jones, gets a girlfriend which is a huge big deal disappointment to Delyth, and she makes some rather bitchy comments about this new girl – and indeed a few others- in her diary. I’m not saying this is okay of course, because we girls need to show a bit of solidarity, but if we are truly honest with ourselves, most of us have put somebody else down at one time or another in order to feel better about ourselves, whether out loud, in our minds, or in a diary. What makes Delyth such a likeable character is that she’s not perfect by a long shot.


The book is very easy to read, discusses some serious themes at times but does this with a funny outlook from a teenager’s perspective. It is rather heartwarming at times, especially the ending. This was one of the first books of its kind in Welsh at the time. It was a great success – so much so that it was adapted into a popular TV series that has recently been made available as a box set through S4C Clic.


So, is the book a classic?


Overall, I think it’s more of a classic for those who read it for the first time when it was published, but I think it’s definitely got some mileage left in it and it’s worth a read. I’d love to hear the views of today’s teenage girls on this novel and compared it with some newer ones.


 

Gwasg/publisher: Gwasg Gwynedd

Rhyddhawyd/released: 1987

Ar gael/available: Ar gael ar gwales.com

107 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page