top of page

Tami [Y Pump] -Mared Roberts gyda Ceri-Anne Gatehouse

*Scroll down for English* - English to follow soon

Oed diddordeb/interest age: 14+ (KS3/4)

Oed darllen/reading age: 14+

Rhybydd cynnwys: Yn ogystal â themâu ac iaith gref a all beri gofid i rai, ceir cyfeiriadau at ableddiaeth (ableism) ac awgrym o gamfanteisio rhywiol drwy ffotograffau yn y nofel hon.


Content warning: mature themes and language, and reference to some topics that could cause distress for some.

 

CYNNWYS YCHWANEGOL AR


 

Tami ydi’r ail nofel yng nghyfres newydd Y Pump: ‘cyfres o bum nofel am bum ffrind gan bump awdur a phum cydawdur ifanc’. Y weledigaeth sydd y tu ôl i’r gyfres yw rhoi llais i bobl ifanc sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli. Yn ogystal â hynny, mae’r gyfres yn rhoi’r cyfle i’r bobl ifanc weithio gyda’r awduron, ac yn rhoi’r cyfle i bawb gydweithio i roi’r gyfres at ei gilydd - sy’n swnio fel profiad gwych yn fy marn i.


Mae’n anodd credu mai hon yw nofel gyntaf Mared Roberts. Mae’r iaith lafar naturiol mor hawdd ei darllen ac mae rhai o’r sylwadau craff a’r disgrifiadau gwreiddiol yn aros y cof, er enghraifft:


‘Cyd-ddigwyddiad bod ’na ‘laeth’ mewn ‘sosialaeth’? I think not.’


‘Dyw e ddim yn boen arwynebol, ond yn boen sy’n dod reit, reit o’r tu fewn. Poen gwacter, bron nag yw e’n teimlo fel poen o gwbl. Fel cwdyn Capri-Sun pan mae rhywun yn llowcio pob daioni mas ohono fe, ac yna’n llenwi fe’n ôl gydag aer a’i adel e’n wag.’


Mae Mared, ynghyd â Ceri-Anne, wir wedi llwyddo i greu cymeriad byw ac mae personoliaeth Tami yn bownsio oddi ar y tudalennau. Yn sicr, mae hi’n gymeriad sy’n teimlo fel ffrind erbyn i chi gyrraedd y tudalennau olaf, ac mae hi wedi aros efo fi ymhell ar ôl i mi gau’r clawr.



Person anabl ydi Tami, ac wrth drafod y broses o greu Y Pump mae Ceri-Anne yn nodi bod rhan o stori Tami yn ‘delio gyda’r rhwystrau sy’n gallu codi o fod yn berson anabl’. Yn sicr, caiff hynny ei gyfleu’n gelfydd yn y nofel, gan amlygu’r heriau ychwanegol sy’n wynebu person anabl, a sut y gall hyn arwain at deimlo’n unig iawn ar adegau. Ond nid yw stori Tami’n troi’n gyfan gwbl o gylch y rhwystrau hyn. Llwyddir i gyfuno’r rhwystrau yma gyda rhai o’r heriau cyffredinol sy’n wynebu merch ifanc, fel ysgol, arholiadau, a chariad. Dw i’n credu fy mod wedi cymryd at stori Tami gymaint gan ei bod hi’n ferch sy’n ceisio canfod ei lle yn y byd.


Mae hi’n trio canfod ei rôl o fewn criw Y Pump, yn dal i geisio addasu i’w sefyllfa deuluol ac yn ansicr ynghylch y dyfodol. Mi fedra i’n sicr uniaethu gyda hynny. Wedi blynyddoedd o ddelio gyda’r heriau a’r rhwystrau ychwanegol o fod yn berson anabl, mae Tami wedi canfod ambell ffordd o amddiffyn ei hun a’i theimladau, ac yn llwyddo’n aml i ymddangos fel bod popeth yn iawn. Mae’r nofel yn bendant wedi tanlinellu pa mor bwysig ydi hi i roi’r amser i holi sut mae rhywun go iawn.

Dw i’n hoff iawn o’r ffaith fod Tami’n gymeriad mor aml haenog. Ar un llaw mae hi’n hyderus, yn witty ac yn annwyl, ac ar y llaw arall mae hi’n ansicr, yn swil ac yn unig. Tydi hi chwaith ddim yn cael ei phortreadu fel ei bod hi’n berffaith - mae hi’n gwneud camgymeriadau fel ydan ni i gyd. Fe wnes i wir fwynhau dilyn rhan fechan o daith Tami wrth iddi geisio canfod pwy ydi hi a cheisio bod y fersiwn gorau ohoni hi ei hun. Mae Ceri-Anne yn sôn y byddai wedi gallu parhau i ddatblygu cymeriad Tami am o leiaf pum nofel arall ac mi rydw i’n sicr yn credu ei bod hi’n gymeriad fyddai’n gallu cynnal ei chyfres ei hun! Yn bendant, mi fyswn i yn nhu blaen y ciw i gael gafael ar gopi o ddilyniant i’r nofel hon, yn enwedig am fy mod i’n torri fy mol isio gwybod mwy am sut y bydd perthynas Tami a Sam yn datblygu.


O fod wedi darllen Tami dw i wir yn credu fod y syniad y tu ôl i’r gyfres yma wedi llwyddo. Mae’r arddull, y cynnwys a’r cymeriadau’n gyfoes, yn berthnasol ac yn gredadwy. Yn bwysicach na dim, dw i’n credu fod y gyfres yn llwyddo i gynrychioli bywydau pobl ifanc heddiw gan hefyd roi llais i’r rheiny a gaiff eu hesgeuluso a’u tangynrychioli fel rheol, ac fe wneir hynny’n gelfydd ac yn naturiol iawn. Dw i’n sicr yn credu ei bod hi’n hollbwysig fod pobl ifanc yn cael y cyfle i gyfrannu a rhoi barn ar yr arlwy llenyddol sydd ar gael iddyn nhw a bod cyfleoedd ar gael i awduron ifanc a newydd ddatblygu eu gwaith. Pwy well nag awdur ifanc i ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa ifanc! Does dim dwywaith bod lle ac angen am gyfres fel hyn, a dw i’n mawr obeithio fod Y Pump wedi gosod sail ar gyfer datblygu mwy o gyfresi uchelgeisiol tebyg at y dyfodol.

 

ENLISH TRANSLATION TO FOLLOW

 

Gwasg/publisher: Y Lolfa

Cyfres: Y Pump

Cyhoeddwyd/published: 2021

Pris: £5.99 am un neu £25 am bocs-set

ISBN: 978-1-80099-062-3

 

WEDI MWYNHAU TAMI?

DARLLENWCH WEDDILL Y GYFRES...


AR GAEL NAWR AM £5.99 yr un

NEU


£25 am becyn o 5




Recent Posts

See All
bottom of page