top of page

Sedna a'i neges o'r Arctig - Jess Grimsdale [addas. Mari huws]

*For English review, see language toggle switch on top of webpage*



(awgrym) oed darllen: 7+

(awgrym) oed diddordeb: 5+

 

Effaith dyn ar yr amgylchedd

A ninnau wedi mwynhau (neu ddioddef, yn dibynnu ar eich safbwynt) cyfnod o dywydd braf iawn yn ddiweddar, fe dorrwyd record yng Nghymru, gyda’r tymheredd uchaf erioed yn cael ei gofnodi – 37.1°c ym Mhenarlâg, Sir y Fflint. Er bod nifer yn mwynhau’r cyfnod o dywydd braf, does dim amheuaeth fod ein hinsawdd yn newid...


Yndi, mae dylanwad dyn bellach yn ymestyn ar draws pob cwr o’r blaned, ac os nad yw llygru’r ddaear yn ddigon drwg, ‘da ni wedi cychwyn gadael ein llanast yn y gofod hefyd! (ta waeth, stori arall yw honno!)

Dyma felly gyflwyno llyfr newydd Jess Grimsdale, sy’n trafod mater amgylcheddol hynod o bwysig, ac un fydd yn dod yn gynyddol bwysicach, llygredd plastig yn y môr.


Cafodd y llyfr ei ysbrydoli yn dilyn taith yr awdur fel rhan o griw Sail Against Plastic (@amessagefromthearctic), casgliad o ymchwilwyr sy’n edrych ar fygythiad micro blastigion yn y môr o amgylch Svalbard. Mari Huws, yr ymgyrchwyr amgylcheddol a warden presennol Ynys Enlli sydd wedi darparu’r geiriau Cymraeg – alla i ddim meddwl am neb mwy addas i wneud y gwaith addasu.


Beth yn y byd yw’r peli bach rhyfedd?

Ar gychwyn y stori, mae pobl mewn pentref yn yr Arctig yn rhyfeddu wrth i’r peli bach lliwgar ymddangos yn y dŵr a ger y lan. I ddechrau, chwilfrydedd ynglŷn â’r gronynnau bach sydd gan bawb, ond buan iawn aiff pethau’n sur wrth i rai o’r trigolion ddechrau teimlo’n sâl.


Rhaid i Sedna a’i chriw fynd ar fordaith anturus a pheryglus i ffeindio tarddiad y peli bach, ac unwaith y dônt i wybod y gwir, mae Sedna’n cymryd y baich o geisio lledaenu’r neges ar draws y byd.




nurdles - math o ficroblastig

Dwi’n siŵr eich bod chi wedi clywed am ficro-blastigion ar y telibocs, a’r effaith andwyol maen nhw’n ei gael ar fywyd gwyllt. Yn wir, mi glywais i ar bodcast yn ddiweddar, fod nhw wedi ffeindio microplastics yn ein cyrff ni erbyn hyn!!


Dwi wrth fy modd yn dysgu pethau newydd wrth ddarllen, ac mi wnes i ddysgu dipyn o bethau, a dweud y gwir. Nurdles ‘da chi’n galw’r peli bach ‘na. Darnau reit fach o blastig ydyn nhw, yn mesur tua maint lentil. Y peth gwaethaf am y rhain yw, nid plastig sydd wedi cael ei dorri’n fan gan donnau’r môr yw Nurdles, ond peledi bach sydd wedi cael eu creu’n fwriadol ydi’r rhain! BETH?!?!?! Os am wybod mwy, mae’r awdur wedi cynnwys darn hynod o ddiddorol ar ôl y stori.



waw!

Gwaith celf sy’n cydio

Rŵan ta, rhaid sôn am y gwaith celf. Anhygoel. Yn sicr mae hwn yn un o’r llyfrau deliaf i gael ei gyhoeddi ‘lenni. Mae safon yr arlunio yn uchel iawn, ac mae ‘na ôl gwaith go iawn yma. Dwi’n meddwl fod pob llun wedi cael ei wneud gyda darnau bach o bapur wedi eu rhwygo a’u gludo.


Tydi darlunio llyfrau plant ddim yn jôc - mae o’n dalent, ac yn waith caled iawn o be wela i. Dwi’n siŵr i mi weld ar ei chyfrif Instagram (@jessgrimsdale) fod y broses gyfan wedi cymryd sawl blwyddyn! I mean, jest ‘sbiwch ar y llun yma – mi faswn i’n prynu hwn fel print i’w fframio adref, mae o mor dda.


Wrth wisgo fy het athro, dwi’n gweld sut y byddai hwn yn llyfr ardderchog i’w astudio yn yr Ysgol – digon o gyfleoedd i wneud gwaith ar yr amgylchedd a newid hinsawdd, a’i gysylltu hefo gwaith celf yn efelychu’r arddull.


Heb os, mae hwn yn ychwanegiad pwysig i’r stôr o lyfrau am argyfwng amgylcheddol yr oes sydd ohoni. Dwi ond yn gobeithio y bydd y llyfr yn ysbrydoli ‘arwyr amgylcheddol’ y dyfodol i daclo’r llanast mae ein cenhedlaeth ni wedi ei greu! *cywilydd*



 

Gwasg: Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd: Mehefin 2022

Pris: £6.95

 

LLYFRAU ERAILL YN SÔN AM LYGREDD PLASTIG:

Adolygiad ar ein gwefan:


bottom of page