top of page

Pwy sy wedi llyncu Llŷr? - Sarah Roberts (adds. Gwynne Williams)

*Scroll down for English & comments*


Llyfr perffaith i sôn am lygredd plastig.

Ideal book to discuss plastic pollution.


❤❤Llyfr y mis Ebrill 2020❤❤

❤❤Book of the Month April 2020❤❤



Genre: llyfr lluniau amgylcheddol / environmental picture book Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉ Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◉◎ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes:◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎ Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Hiwmor/humour: ◎◎◎◎◎ Her darllen/reading difficulty: ◉◉◎◎ Dyfarniad/Rating: ★★★★☆

 

Dwi’n falch o weld mwy o lyfrau ‘amgylcheddol’ yn cyrraedd y farchnad Gymraeg, ac mae hwn yn enghraifft dda iawn o lyfr ideal i drosglwyddo neges hollbwysig i blant ifanc. Ers i David Attenborough a’i raglen Blue Planet II fod ar ein sgriniau, dwi’n meddwl fod agwedd y byd wedi newid dros nos tuag at fagiau plastig. (er, mae lle i wella wrth gwrs!)



Mae pobl dylanwadol fel Greta Thunberg hefyd wedi bod yn brysur yn tynnu sylw pobl ifanc at faterion amgylcheddol sy’n peryglu ein byd ac wedi tanio ymwybyddiaeth ac angerdd ynddynt i geisio goresgyn rhai o’r problemau.


Mae’r llyfr yma’n grêt achos ei fod yn cyflwyno’r broblem o lygredd plastig i oedran ifanc iawn mewn ffordd ddealladwy. Portreadir y bag plastig fel cymeriad o’r enw Llŷr sy’n mynd ar dipyn o antur ar ôl syrthio i’r môr. Yn anffodus, mae ei antur yn creu nifer o drafferthion i rai o greaduriaid y môr sy’n ei gam-gymryd am slefren fôr flasus.



Mae’r morfil, y wylan a’r crwban yn cael trafferth gyda Llŷr ar ôl ei fwyta a lwcus iawn bod bachgen caredig yn gallu helpu’r crwban cyn bod hi’n rhy hwyr. Dwi’n meddwl fydd plant ifanc wirioneddol yn poeni am y crwban druan, ond diolch byth fod 'na ddiweddglo hapus y tro hwn. Mae’r neges yn effeithiol iawn heb fod yn rhy frawychus i blant bach.


Mae yna hyd yn oed ddiweddglo hapus i Llŷr ei hun, sy’n cael ei uwch-gylchu i mewn i rywbeth newydd sy’n saffach i anifeiliaid! Yn wir, mae hyn yn bwynt trafod gyda plant ifanc - a ddylen ni fod yn flin gyda Llŷr y bag am fod yn gymaint o broblem? Na, siŵr iawn! Rhaid i NI sicrhau nad ydy’r bagiau’n cyrraedd y môr yn y lle cyntaf!



Ysgrifennwyd y llyfr yn wreiddiol gan Sarah Roberts, sy’n animal behaviourist (beth bynnag ydi un o’r rheina!) ac yn ymgyrchwr dros yr amgylchedd. Mae’r llyfr yn gweithio fel llyfr stori gyda’r nos gartref, ond yn fwy na hyn, yn sbardun i gychwyn trafodaeth/ymchwil pellach ar y thema o lygredd. O fewn dosbarth Cyfnod Sylfaen, byddai modd llunio uned o waith amgylcheddol o gwmpas y llyfr yma. Yn wir, mae’n ffitio’n berffaith gyda rhai o agweddau’r cwricwlwm newydd.


Bonws i’r llyfr yw fod na luniau liwgar, cyffrous a gellir cychwyn sôn am fudr ac odl hefyd. Llyfr delfrydol i’w ddarllen ar goedd fel dosbarth yn ystod amser mat.

 

I am very pleased to see more environmental books reaching the Welsh market, and this is a good example of an ideal book to convey the message to young children. Since David Attenborough and his Blue Planet II documentary programme aired, I think that the world's attitude has changed overnight towards plastic bags. (although, of course, there is room for improvement!)


Influential people like Greta Thunberg have also been busy drawing young people's attention to environmental issues that endanger our world and have ignited an awareness and passion in them to try to overcome some of the problems.



This book is great because it introduces the problem of plastic pollution to a very young audience in a way that is understandable. The plastic bag is portrayed as a character named Llŷr who goes on a bit of an adventure after falling into the sea. Sadly, his adventure creates a few issues for some of the sea creatures who mistake him for a tasty jellyfish!


The whale, the gull and the turtle all have trouble with Llŷr after eating him and it’s very good luck that a kind boy is able to help the sea turtle before its too late. The book builds up a real sense of concern for the sea creatures and young children will be genuinely worried about the poor turtle, although thankfully we get a happy ending this time. The message is very effective and creates impact without being too frightening for small children. This is a fine balancing act, because the book must get across the important and serious message, without traumatizing it’s young readers!



There’s even a happy ending for Llŷr himself, who is up-cycled into something new that just so happens to be safer for animals! Indeed, this is a discussion point with young children - should we be angry with Llŷr the bag for being such a problem? No, of course not! WE must ensure that the bags do not get to ocean in the first place!


The book was originally written by Sarah Roberts, an animal behaviourist (not quite sure what that is!) and an environmental campaigner. The book works as a bedtime story book, but more than this, as a springboard to initiate further discussions/research on the topic of pollution. Within a foundation phase classroom, it would be possible to form an unit of environmental work around this book. Indeed, it fits perfectly with aspects of the new curriculum.


A bonus for the book is that there are colourful, exciting pictures and rhyming couplets that can also be discussed in passing. An ideal book to be read aloud as a class during on-the-mat time.

 

Gwasg/publisher: Dref Wen

Rhyddhawyd/released: 2020

Pris: £5.99

 

115 views0 comments
bottom of page