top of page

Prism - Manon Steffan Ros

*Scroll down for English*


Enillydd gwobr Tir na n-Og 2012

Tir na n-Og Award winner 2012.

Dyma bedwaredd nofel Manon Steffan Ros yng nghyfres yr Onnen. Enillodd Trwy'r Tonnau (dilyniant i Trwy'r Darlun) wobr Tir na n-Og 2010. Mae Prism yn dilyn hynt a helynt Twm a Math sy'n dianc o'u cartref ac yn mynd i deithio o amgylch Cymru, gan aros ym Mhwllheli, Aberdaron, Porthmadog, Aberystwyth, Llangrannog a Thyddewi.


Twm and Math are due to visit their father in his Cardiff flat during the summer holidays. Math is disabled and the father is unable to come to terms with that. The father sends his ex-wife an e-mail to eplain that he can't have the children, after all. Twm accidentally finds the message and deletes it before his mother reads it.

 


Crynodeb o’r Cynnwys

Dilynwn antur Twm a Math ar draws Gymru. Mae hanes y ddau frawd yn drist I’w darllen ac o ganlyniad maent eisiau rhoi saib I’w mam iddi gael fynd ar wyliau gyda’i ffrindiau. Mae’r celwyddau yn troi mewn i boen ac yna mewn i reswm i alw’r heddlu. Mae Math yn wahanol i fechgyn eraill ei oedran, yn nadu ac yn llefen ac yn sgrechen nerth ei ben sydd yn cyflwyno her ychwanegol I’w frawd ar ei helynt.


Y Darn Gorau

Fy hoff ran yw pan gwrddodd y bechgyn ffrind ffyddlon yn un o’i cartrefi Newydd yng nghefn gwlad Cymru. Roedd gweld agwedd y bechgyn tuag at y crwt yma yn arbennig oherwydd roedd e’n rhoi amrywiaeth dwfn i’r nofel yma. Mae Llew yn chwarae rhan pwysig yn y nofel ac yn allweddol I ran mwyaf anturus y bechgyn ar eu taith trwy Gymru.

Cymeriadau

Twm yw’r brawd hynaf sydd yn gofalu ar ô lei frawd ac yn cadw llygaid barcud arno. Math yw’r brawd sydd yn denu llawer o sylw atynt ond sydd yn darganfod rhywbeth ar ddiwedd y nofel sydd fel blanced cysur iddo.

I bwy fyddet ti’n argymell y llyfr? Pam?

Os ydych chi yn hoff o antur a drygioni (felly, pob un!) mae’r stori yma i chi. Ac os yw Cymru o ddiddor i chi, darllenwch Prism.


 

Summary


We follow the adventures of Twm and Math across Wales. The histories of both brothers is sad to read about and as a result they want to give their mother a break so she can go on holiday with her friends. The lies turn into pain and then into a reason to call the police. Math is different from the other boys his age, crying and screaming his head off which presents his brother with an additional challenge on their journey.


Best Bit

My favourite part is when the boys met a loyal friend in one of their new homes in rural Wales. Seeing the boys' attitude towards this lad was special because it gave depth to this novel. Llew plays an important role in the novel and is key to the most adventurous part of the boys’ journey through Wales.

Characters

Twm is the eldest brother who cares for his little brother and keeps a watchful eye on him. Math is the one who attracts a lot of attention to them but discovers something at the end of the novel that is like a comfort blanket to him.

Who would you recommend the book to? Why?

If you like adventure and mischief (and more) this is the story for you. If you find Wales interesting, then read Prism.


 
Adolygiad a gyflwynwyd yn wreiddiol i gystadleuaeth Adolygwyr Ifanc CLLC
 


NOFEL NEWYDD I FACHU DYCHYMYG BECHGYN

oddi ar Gwales.com


Mae nofel newydd Manon Steffan Ros, Prism, yn un a ysgrifennwyd mewn ymdrech arbennig i ddenu mwy o fechgyn ifanc i ddarllen nofelau Cymraeg. “’Dwi’n meddwl ei bod hi'n bwysig i lenyddiaeth Cymraeg gael ei ’sgwennu i hogia' yn eu harddegau,” eglura’r awdures boblogaidd, “oherwydd does ’na ddim llawer o nofelau ar eu cyfer.”


Mae’r nofel yn ymgymryd â phwnc heriol, sef y berthynas unigryw a fodolai rhwng bachgen o Gaernarfon, Twm, a’i frawd ieuengaf, Math, sy’n dioddef o anabledd emosiynol difrifol. Yn dilyn anallu tad y brodyr i ddelio ag anabledd Math, mae Twm yn penderfynu rhoi hoe i’w fam sengl, sydd am fynd i Lerpwl yn ystod gwyliau’r haf, drwy ei thwyllo a dianc â’i frawd i wersylla i gorneli Cymru.


Nid oes gan Manon brofiad personol uniongyrchol o blant sy’n dioddef o anabledd emosiynol. Fe wyddai cyn ymchwilio ar gyfer y nofel, serch hynny, pa mor wahanol gall dau frawd fod, a’r elfen amddiffynnol sydd gan bob brawd a chwaer tuag at yr ieuaf yn y nyth. Credai Manon y bydd y nofel yn apelio at oedolion yn ogystal â phlant a phobl ifanc, o ganlyniad i’r amryw haenau sy’n bodoli ym mywyd teuluol y prif gymeriadau yn sgil cyflwr emosiynol y mab ieuengaf.


Fe’i hysbrydolwyd i ysgrifennu’r nofel wrth weld y datblygiad ym mherthynas ei meibion ifanc ei hunan, ac o gofio’r berthynas glos a fodolai rhyngddi hi a’i chwaer, y gantores Lleuwen Steffan, ers yn ifanc. Meddai Manon: “Yn amlwg, mae'r ffaith mai dau o feibion sydd gen i yn ddylanwad ar y nofel… a phan o'n i'n tyfu, roedd fy chwaer a minnau yn agos iawn – ’da ni’n dal i fod, a dweud y gwir - ac mae o'n ddifyr i mi sut ma' gwaed yn clymu pobol wrth ei gilydd. Mae fy chwaer a ’mrawd a minnau yn wahanol iawn i’n gilydd, ac eto ’da ni'n agos iawn.”


Yn deillio o hoffter yr awdures o deithio, ysgogwyd hi i ysgrifennu am ambell un o’i hoff leoliadau yng Nghymru wrth anfon y brodyr ar daith o dros 200 milltir i lawr arfordir gorllewinol Cymru. O Gaernarfon i Bwllheli, Aberdaron i Borthmadog, traeth Tonfannau i Aberystwyth, ac yna i Langrannog cyn cyrraedd Tyddewi.


Ymhelaetha’r awdures: “Ro’n i’n awyddus i ’sgwennu rhywbeth Cymreig yn ogystal â Chymraeg - rhywbeth sy'n gysylltiedig efo’r wlad ei hun. Dyna pam ’dwi'n eu hanfon nhw i rai o’r llefydd ’dwi'n eu caru yn y wlad... Ni fydd llawer o'r bobl ifanc sy'n darllen y llyfr wedi bod yn y llefydd yma, a gall hynny eu hysgogi i ymweld â’r lleoliadau.”


Dyma bedwaredd nofel yr awdures boblogaidd ar gyfer yr arddegau – a’r nofel gorau hyd yma, yn ei thyb hi. Mae’r awdures ifanc o Bennal, ger Machynlleth, eisoes wedi ennill Gwobr Tir na n’Og 2010 am ‘Trwy’r Tonnau’, nofel arall i blant a phobl ifanc, yn ogystal â Gwobr Barn y Bobl 2010 am ei nofel gyntaf i oedolion, ‘Fel Aderyn’.

 

Gwasg/publisher: Y Lolfa

Cyhoeddwyd/released: 2019

Cyfres/series: Yr Onnen

Pris: £5.95

 

bottom of page