*Scroll down for English*
Stori am arwisgo Siarl yn 1969 - a lot o baent!
Story about the Investiture of 1969 - and lots of paint!
Genre: ffuglen hanesyddol / historical fiction
Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◎
Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◎◎
Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎
Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎
Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎
Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎
Hiwmor/humour: ◉◉◉◉◎
Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◎◎
Dyfarniad/Rating: ★★★★☆
Pwy sydd wedi bod yn gwylio Season 3 o ‘The Crown’ ar Netflix? Mae episode 6 yn ffocysu ar hanes Arwisgo Siarl yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon ym 1969. Mae’r rhaglen yn werth i’w weld – am y production value os dim byd arall! Mi faswn i’n gallu ‘sgwennu post jyst am hwnna ond am lyfr dwi isio sôn heddiw!
Fe ddes i ar draws pamffled yn Swyddfa Gwasg Carreg Gwalch oedd yn dangos yr holl nofelau hanesyddol maen nhw wedi eu cyhoeddi. Roedd nifer yn edrych yn ddiddorol ond gan fod yr Arwisgo’n ffresh yn fy meddwl, mi wnes i ddewis ‘Paent’ gan Angharad Tomos. O ystyried yr awdur, ro’n i mewn dwylo saff o’r cychwyn!
Robert Aneurin Jones yw prif gymeriad y stori, sef bachgen ysgol o Gaernarfon. ‘Da ni’n dilyn ei hanes dros gyfnod o ‘chydig fisoedd, lle mae bywyd ‘neis’ y teulu’n cael ei droi wyneb i waered ac mae’r profiad yn newid persbectif Robert am byth.
Stori sy’n trafod digwyddiadau mawr, hanesyddol ond fe welwn y cyfan drwy lygaid plentyn. Prif ffocws y llyfr yw Arwisgiad Charles (sef y Frenhines yn dod i wneud Charles yn Dywysog Cymru yn swyddogol) ac ymgyrch peintio gwyrdd Cymdeithas yr Iaith i gael arwyddion ffordd ddwyieithog. Ar ddechrau’r stori, tydi Robert ddim yn meddwl llawer o’r peth, ond wrth iddo dyfu’n agosach at ei chwaer fawr, mae o’n dod i sylwi arwyddocâd y digwyddiad yma. Un noson, fe gaiff Robert y cyfle i ymuno â hi a’i ffrindiau yn paentio dros yr arwyddion uniaith Saesneg o amgylch Gaernarfon. Arweinia hyn at run-in gyda’r heddlu, a ffrae fawr rhwng y teulu, ar ôl i Megan gael ei harestio am ddifrod troseddol.
Mae’r holl beth yn peri i Robert ddechrau cwestiynu’r drefn. Pam fod ei chwaer wedi colli ei swydd am ateb ffôn yn Gymraeg? Pam mai Saesneg yw iaith y llys? Pam fod rhaid iddo fynd i’r arwisgiad i ddathlu coroni Sais yn dywysog Cymru? Pam fod yr oedolion i gyd mor llwfr? Tydi Robert methu deall pam fod pawb mor hapus i weld hyn yn digwydd – wel, pawb ond cymdeithas yr Iaith! Cyn bo hir, mae Robert yn cael ei dynnu i mewn i ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, ac wrth iddo fynychu rali ar y Maes, aiff pethau’n flêr a chyn hir mae o’n gwrthdaro gyda’i athrawon– pam? Am nad ydi o’n barod bellach i ufuddhau’r drefn - ac mae hyn yn beryglus!
Roedd datblygiad a llais y prif gymeriad yn y nofel yn dda iawn - roedd o fel petawn i’n mynd gyda fo ar ei daith o fod o’n hogyn bach diniwed i fod yn llencyn aeddfed sy’n deall llawer mwy am wleidyddiaeth, cenedlaetholdeb a’r anghyfiawnderau sy’n bodoli. Erbyn diwedd y nofel, mae ‘na rhyw ymwybyddiaeth a balchder cyffrous wedi ‘deffro’ tu mewn iddo ac erbyn y bennod olaf mae o’n dipyn o Welsh Nash ei hun! Grêt! Llwydda’r awdur i ennyn teimladau cryf yn y darllenydd hefyd -roedd darnau o’r llyfr (tud.94/95 er enghraifft) yn fy nghorddi! A rŵan, dwi jest yn gwrando ar ‘Peintio’r Byd yn Wyrdd’ a ‘Carlo’ gan Dafydd Iwan ar repeat! I’r gad!
Stori ar ffurf lyfr nodiadau yw hon, gyda’r prif gymeriad yn siarad yn uniongyrchol â’r darllenydd ar brydia – effeithiol iawn (gweler Pennod 1) Mi wnes i wir fwynhau dull personol, anffurfiol, doniol yr awdur – mae llais y cymeriad yn gryf iawn. Doniol iawn oedd helyntion Robert yn yr ysgol gyda’r athrawon (ma’r ffordd y mae o’n siarad am yr athrawon yn bril!)
O ystyried barn wleidyddol yr awdur, a’i chysylltiad gyda Chymdeithas yr Iaith, mi fase hi’n deg dweud efallai bod y llyfr mymryn yn biased. Ella ei fod o. Dwnim. Ydi o ots? Dim o gwbl achos tydi o ddim wedi amharu ar ei gallu i ‘sgwennu llyfr hynod o ddoniol ac addysgiadol ar yr un pryd. Mi fydd o’n siŵr o roi gwen ar eich wyneb.
Mae negeseuon y llyfr mor berthnasol heddiw ac oedden nhw bryd hynny, gan fod y frwydr i gadw’r iaith yn fyw yn parhau. Dwi ond yn teimlo piti na faswn i wedi clywed mwy am yr hanes yma pan oeddwn i yn yr ysgol.
Who’s been watching Season 3 of ‘The Crown’ on Netflix? Episode 6 focuses on the history of the investiture of the Prince of Wales at Caernarfon Castle in 1969. It’s well worth watching – for the production value if nothing else! I could write a post just about that but this is blog for books!
I came across a pamphlet at the Gwasg Carreg Gwalch office which showed all the historical novels they’ve published. Many looked interesting but as the investiture was fresh in my mind, I picked ‘Paent' by Angharad Tomos (the author of Rala Rwdins). I knew I was in safe hands from the start!
The main character is Robert Aneurin Jones, a school boy from Caernarfon. We follow his story over a period of a couple of months, where the family's nice, peaceful life is turned upside down Robert is forever changed.
A story that discusses major, historical events but all done through a child's eyes. The main focus of the book is Charles’ investiture (where the Queen officially makes him Prince of Wales) and Cymdeithas yr Iaith's green paint campaign for bilingual road signs. At the beginning of the story, Robert doesn't think much of it, but as he grows closer to his big sister, he realises the significance of the event. One night, he ends up joining her and her friends in painting over the English-only signs around Caernarfon. This leads to a run-in with the police, and a big row between the family, after Megan gets arrested for criminal damage.
The whole thing causes Robert to start questioning things. Why did his sister get sacked for answering the phone in Welsh? Why is English the main language of the courts? Why must he go to the ceremony to pay homage to the crowning of a foreign usurper as Prince of Wales? Why are all the adults so obsessed with it? Robert couldn't understand why everyone was so happy to see this happen. He’s soon drawn into the Welsh Language Society's campaigns, and as he attends a rally on the street, things get messy. This puts him at odds with his teachers – why? Because he is no longer prepared to toe the line. He has started thinking for himself – that is what they fear the most!
The development of the main character in the novel was done well- as if I was with him on his journey, watching him evolve from an innocent little boy to a teen who understands much more about politics, nationalism and the injustices that exist. By the end of the novel, an exciting ‘awareness’ and pride has awoken inside him. By the last chapter, he’s become a bit of a Welsh Nash! The author manages to evoke strong feelings in the reader – parts of the book (page 94/95 for example) made me so angry I was shouting at the book! Now I just want to listen to political protest songs 'Peintio’r Byd yn Wyrdd' and 'Carlo' by Dafydd Iwan on repeat!
The story is told through a series of notes, with the main character speaking directly to the reader at times– very effective (see chapter 1) I really enjoyed the writer's personal, informal, humorous approach (along with the childlike handwriting and doodles) Robert's interactions and observations at school about his teachers were particularly funny and amusing!
Given the author's political views, and her association with Cymdeithas yr Iaith, it’s fair to say that the book is perhaps a little biased. Does it even matter? Not at all - it doesn’t detract from what is a genuinely funny and informative book. It’ll definitely put a smile on your face.
Comments