top of page

O'r Tywyllwch - Mair Wynn Hughes

*Scroll down for English*


Mae'r byd yn poethi. Sut mae dynolryw am oroesi?

The world is warming. How will mankind survive?

Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◎

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◎◎

Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◉◎◎◎

Trais, ofn/violence, scary: ◉◉◉◎◎

Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎

Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎

Hiwmor/humour: ◎◎◎◎◎

Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◎◎

Dyfarniad/Rating: ★★★★★

 
Llun gan Iestyn Hughes

ADOLYGIAD GAN MANON STEFFAN ROS


REVIEW BY MANON STEFFAN ROS

 


Un tro, amser maith (maith maith maith) yn ôl, roeddwn i'n ddisgybl deng mlwydd oed yn Ysgol Rhiwlas. Bob dydd cyn amser mynd adref, byddai Miss Hughes yn darllen pennod o nofel i ni. Mae rhai o'r nofelau yma wedi serio ar fy nghof am byth- The Iron Man gan Ted Hughes, a Stig of the Dump gan Clive King ymysg eraill. Ond mae'n rhaid i mi gyfaddef i un o'r nofelau hyfryd yma fynd yn angof tan yn ddiweddar.


Gwelais drydariad gan @grufflovgreen yn sôn am "lyfr sci-fi Cymraeg i bobol ifanc oedd yn sôn am gymuned oedd di mynd i fyw dan y ddaear am ganrifoedd am fod yr haul di mynd rhy boeth". Roedd hyn yn canu cloch, ac fe aeth â fi 'nol i'r cyfnod yna yn Ysgol Rhiwlas. Chwiliais ar y we, a chanfod mai'r nofel oedd O'r Tywyllwch, nofel o 1991 gan yr awdures enwog, Mair Wynn Hughes. Doedd y llyfr ddim ar gael yn newydd, ond cefais afael ar gopi ail-law ar-lein. Fe es ati i'w darllen.


Dwn i ddim sut yn y byd i mi anghofio'r nofel yma, achos wir i chi, mae hi'n wych. Rydw i'n ffan fawr o lyfrau gwyddonias (sci fi), ac yn arbennig o nofelau dystopaidd, ond mi fydda i'n teimlo'n aml eu bod nhw'n gallu bod yn rhy brysur, gormod yn digwydd a'r cymeriadau braidd yn fflat. Dydy O'r Tywyllwch ddim fel hyn o gwbl- y peth cyntaf i'ch tynnu chi i mewn ydy'r cyfeillgarwch rhwng y ddau brif gymeriad, Hywyn a Meilyr. Maen nhw'n byw yn ein byd ni, ond, efallai, yn y dyfodol- mae'r byd wedi poethi, ac mae'n rhaid i bobol wisgo siwtiau arbennig cyn mentro allan. Mae cynlluniau mawr ar droed- Mae pawb yn gorfod mynd i fyw mewn dinas arbennig yn y mynydd, a chau'r byd a'r awyr iach allan am byth. Dim pawb sydd eisiau mynd, ond does dim dewis. A dyna i chi ddechrau'r tensiwn yn y stori.



Mae ail ran i'r stori yma hefyd, am y profiad o fyw yn y ddinas danddaearol genedlaethau ar ôl y mudo mawr. Cefais fy nychryn gan y rhan yma, a hynny achos ei fod yn creu'r byd newydd hunllefus yma mewn ffordd oedd yn teimlo mor real. Roedd 'na rannau ohono yn teimlo fel y byd yn nofel enwog George Orwell, 1984- ond i mi, mae O'r Tywyllwch yn fwy personol, yn fwy cyfarwydd, ac felly ganwaith yn fwy dychrynllyd.


Dwi'n gwneud fy ngorau i beidio rhoi sboilars yma, ond dwi'n meddwl efallai y bydd y diwedd yn teimlo'n rhy benagored i rai. I fi, dwi'n hoffi'r ffaith nad ydy'r nofel yn gorffen gydag ateb pendant i bob cwestiwn. A dweud y gwir, mae'r diweddglo yn teimlo fel her i ni, y darllenydd- be' 'da ni'n mynd i'w wneud nesaf wrth i'r byd boethi?


Âm llaw ar fy nghalon, rydw i'n meddwl y dylai O'r Tywyllwch gael ei hystyried yn glasur. Pe byddai'r nofel wedi cael ei hysgrifennu i oedolion, dwi'n sicr y byddai ar ei chweched argraffiad erbyn hyn, ac y byddai ar bob rhestr o Hoff Lyfrau Cymru. Daeth yr amser i unioni'r cam yma- Mae angen argraffiad newydd, ac yn fwy na dim, mae angen cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Dwi'n siŵr y byddai plant ac oedolion heddiw'n cael yr un wefr a chefais innau 'nol yn Ysgol Rhiwlas ym 1993.


 

, a long (long long time) ago, I was a ten-year-old pupil at Ysgol Rhiwlas. Every day before going home, Miss Hughes would read a chapter of a novel for us. Some of the novels here have been etched in my memory forever- The Iron Man by Ted Hughes, and Stig of the Dump by Clive King among others. But I have to confess that until recently, one of these lovely novels was largely forgotten.


I saw a tweet by @grufflovgreen talking about a "sci-fi book for young people that talked about a community that had gone to live underground for centuries because the sun became too hot". This rang a bell, and took me all the way back to my time at Ysgol Rhiwlas. I searched the web, and found that the novel was O’r Tywyllwch, a 1991 novel by renowned author Mair Wynn Hughes. The book is out of print, but I got hold of a second-hand copy online and started reading.


I don’t know how on earth I forgot about this novel, because I tell you, it's great. I'm a big fan of Sci-Fi books and especially of dystopic novels, but I often feel they can be too busy, with too much happening and the characters fall rather flat. O’r Tywyllwch isn't like this at all- the first thing to draw you in is the friendship between the two main characters, Hywyn and Meilyr. They live in our world, but, perhaps a future one. The earth has warmed, and you have to wear special suits before venturing outside. Big plans are afoot- everyone will have to go and live in a special city in the mountains, and shut out fresh air and the outside world forever. Not everyone wants to go, but they have no choice. This is the start of the tension in the story.



There’s also a second part to the story, about the experience of living in the underground city generations after the great Migration. I was frightened by this part, because this new nightmarish world felt so real. A few parts of it felt like the world in George Orwell's famous novel, 1984- but for me, O’r Tywyllwch is more personal, more familiar, and thus a hundred times more shocking.


I’m doing my best not to put spoilers here, but I think the ending may feel too open to some. For me, I like the fact that the novel doesn't finish with a definite answer to each question. In fact, the ending feels like a challenge for us, the reader – What are we going to do next as the world gets hotter?


Hand on my heart, I think O’r Tywyllwch should be regarded as a classic. If the novel had been written for adults, I'm sure it would be on its sixth edition by now, and that it would be on every list of ‘favourite books’ in Wales. The time has come to rectify this - we need a new edition, and more than anything, we need a new generation of readers. I'm sure the children and adults of today would get the same thrill as I got back at Ysgol Rhiwlas in 1993.

 

Gwasg/publisher: Gomer

Cyhoeddwyd/released: 1991

Pris: £3.25

(allan o brint - ar gael yn ail law neu mewn llyfrgelloedd yn unig)

(Out of print - available second hand or in libraries only)


 

AM YR AWDUR/ABOUT THE AUTHOR:


Awdures plant ydy Mair Wynn Hughes (ganwyd 1 Medi1931). Ganwyd hi ym Mryncir, Eifionydd. Mynychodd Ysgol Gynradd Brynengan cyn mynd i Ysgol Ramadeg Penygroes a Choleg y Normal, Bangor. Bu'n wraig fferm ac yn athrawes yn yr ysgol ym Mhentraeth ar Ynys Môn.


Mair Wynn Hughes is a children's author (born 1 September 1931) . She was born in Bryncir, Eifionydd. She attended Brynengan Primary School before going to to the Grammar School in Penygroes and Coleg Normal, Bangor. She was a farmer's wife as well as a teacher in Pentraeth, Anglesey.


Llyfrau eraill gan yr awdur/ other books by the author:


  • Y Llinyn Arian 1984 (Gwasg Gomer / CBAC)

  • Cyfres Wichiaid Môn: Wichiaid Môn a Lladrad y Banc Ionawr 1989 (Dref Wen)

  • Prins yr Injan Fach Ionawr 1989 (Dref Wen)

  • Prins a Siôn Corn Ionawr 1991 (Dref Wen)

  • Cyfres Morus Mihangel: Morus Mihangel a'r Deisen Ionawr 1991 (Dref Wen)

  • Cyfres Wichiaid Môn: Wichiaid Môn a'r Modur Wich Un Ionawr 1993 (Dref Wen)

  • Coch yw Lliw Hunllef Ionawr 1995 (Gwasg Gomer)

  • Cyfres Morus Mihangel: Gwyliau Morus Mihangel Ionawr 1995 (Dref Wen)

  • Dwyn Afalau Mawrth 1998 (Y Lolfa)

  • Ffrindiau Pennaf Mawrth 1998 (Y Lolfa)

  • Ragsi Ragsan Mawrth 1998 (Y Lolfa)

  • Colli Pêl Mawrth 1998 (Y Lolfa)

  • Brawd Newydd Mawrth 1998 (Y Lolfa)

  • Cyfres Llinynnau: Jan Mehefin 1998 (Dref Wen)

  • Llyfrau Darllen CBAC Cyfnod Allweddol 2 Ail Iaith (Lefelau 2/3): Lladron Sam Gorffennaf 1998 (Uned Iaith / CBAC)

  • Llyfrau Darllen CBAC Cyfnod Allweddol 2 Ail Iaith (Lefelau 2/3): Crystyn Gorffennaf 1998 (Uned Iaith / CBAC)

  • Llyfrau Darllen CBAC Cyfnod Allweddol 2 Ail Iaith (Lefelau 2/3): Beic Ben Gorffennaf 1998 (Uned Iaith / CBAC)

  • Llyfrau Darllen CBAC Cyfnod Allweddol 2 Ail Iaith (Lefelau 3/4): Babi Tŷ Ni Gorffennaf 1998 (Uned Iaith / CBAC)

  • Project Llyfrau Longman Rhan 3 CA2 - Band 3: Sali a'r Enwog Pws Mewn Sgidiau Awst 1998 (Uned Iaith / CBAC)

  • Casetiau CBAC Cyfnod Allweddol 2 Ail Iaith (Lefelau 2/3): Lladron Sam (Casét) Rhagfyr 1998 (Uned Iaith / CBAC)

  • Cyfres Gwaed Oer: Hen Ŵr y Môr Awst 1999 (Gwasg Gomer)

  • Cyfres Sêr: Mi Fydd Bywyd yn Grêt Tachwedd 1999 (Dref Wen)

  • Trip a Hanner Hydref 2001 (Gwasg Pantycelyn)

  • Cyfres Clic 2 - Lefel 1: Diwrnod Mawr Rhagfyr 2002 (CAA)

  • Cyfres Clic 2 - Lefel 2: Bai ar Gam Rhagfyr 2002 (CAA)

  • Cyfres Hoff Straeon: Tipyn o Gamp 1 Mai 2003 (Gwasg Gomer)

  • Waw - Antur! Mai 2003 (Gwasg Pantycelyn)

  • Cyfres Clic - Lefel 2 : Dim Ond Helpu Hydref 2003 (CAA)

  • Cyfres Clic - Lefel 2 : Trysor Pwy? Hydref 2003 (CAA)

  • Cyfres 'Slawer Dydd: Rhyfel y Degwm Tachwedd 2003 (Gwasg Gomer)

  • Y 'Fo' yn y Tŷ Rhagfyr 2003 (Gwasg y Bwthyn)

  • Cyfres 'Slawer Dydd: Rhyfel y Degwm - Llyfryn Athrawon Ionawr 2004 (Gwasg Gomer)

  • Fy Hanes i: Gwas y Stabl - Dyddiadur Sion Dafydd, Plas Creuddyn, 1582-1593 Ebrill 2004 (Gwasg Gomer)

  • Waw! Antur Eto! Ebrill 2004 (Gwasg y Bwthyn)

  • O Na! Antur! Ebrill 2005 (Gwasg y Bwthyn)

  • Cyfres ar Wib: Brysiwch, Dad! Medi 2005 (Gwasg Gomer)

  • Cyfres ar Wib: Ai Ysbryd? Medi 2005 (Gwasg Gomer)

  • Cyfres Dwy-Es - Sgets a Sgwrs: Pecyn 6 - Egwyddorion Hydref 2005 (CAA)

  • Cyfres Dwy-Es - Sgets a Sgwrs: Pecyn 6 - Egwyddorion: Pwy All Farnu? Rhagfyr 2005 (CAA)

  • Cyfres Dwy-Es - Sgets a Sgwrs: Pecyn 6 - Egwyddorion: Y Dewis Rhagfyr 2005 (CAA)

  • Cyfres 'Slawer Dydd: Rhy Ifanc i Ryfel Chwefror 2006 (Gwasg Gomer)

  • Ein Rhyfel Ni Ebrill 2006 (Gwasg y Bwthyn)

  • F'Annwyl Leusa Mawrth 2007 (Gwasg y Bwthyn)

  • Cyfres Lleisiau: Y Ferch ar y Traeth Mai 2007 (CAA)

  • Cyfres Ysbrydion ac Ati: Ewinedd Pwy? Mawrth 2008 (Gwasg y Bwthyn)

  • Cyfres Ysbrydion ac Ati: Dim Ots Pwy! Mawrth 2008 (Gwasg y Bwthyn)

  • Cyfres Ysbrydion ac Ati: B-B-Bwgan Mawrth 2008 (Gwasg y Bwthyn)


Gwobrau/ Awards

  • Gwobr Tir na n-Og 1984 (Cyd-enillydd) - Y Llinyn Arian, (Gwasg Gomer / CBAC)

  • Gwobr Tir na n-Og 1990 - Llygedyn o Heulwen, (Gwasg Gomer / CBAC)

  • Gwobr Tir na n-Og 1996 - Coch yw Lliw Hunllef, (Gwasg Gomer)

  • Gwobr Mary Vaughan Jones 2006

  • Gwobr Tir na n-Og 2007 - Ein Rhyfel Ni, (Gwasg y Bwthyn)


 

174 views0 comments

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page