top of page

Mae gan Bawb Ofidiau / Everybody Worries - Jon Burgerman [addas. Llinos Dafydd]

*Scroll down for English*


Ffordd hwyl, lliwgar o drafod pryderon â phlant ifanc.

A fun, colourful way of discussing worries and stress with children.

 

Dyma fideo o'r e-lyfr yn cael ei ddarllen i chi gael blas. Diolch Rily!

Here's a video of the e-book being read for you to get a peak. Thanks Rily!

 

‘Da ni’n byw mewn cyfnod ansicr iawn. Yn wir, cyfnod na welwyd ei fath o’r blaen. Mewn mater o wythnosau aeth bywyd o fod yn weddol ‘normal’ i gael ei droi wyneb i waered. Aeth y routines sefydledig (pethau ’da ni’n dibynnu arnyn nhw) allan drwy’r ffenest. Dwi’n cofio meddwl nôl ym mis Mawrth 2020, “Duwcs, fydd hyn ddim rhy ddrwg – mi fydd petha nôl fel oedden nhw cyn pen dim.” Pa mor naïf o’n i?!


Un o sgil effeithiau’r pandemig yw’r niwed mae’r cyfnod clo wedi’i gael ar ein hiechyd meddwl yn gyffredinol, ac mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i blant a phobl ifanc yn enwedig. Heb sôn am y diflastod o fod yn gaeth i’r tŷ am fisoedd, mae peidio cael mynd i’r ysgol a gweld ffrindiau wedi bod yn anodd tu hwnt.


Gyda straeon am Covid-19 ar y cyfryngau pob awr o’r dydd, a newid mawr i’r drefn arferol, nid yw’n syndod fod nifer o blant yn bryderus iawn am y sefyllfa. Amserol iawn felly, yw addasiad hynod o liwgar Llinos Dafydd o Everybody Worries gan Jon Burgerman.



I blant ifanc, mae’n bur debyg fod y sefyllfa’n ddryslyd iawn. Pam na cha i fynd allan i chwarae Mam? Pam ga i ddim parti pen-blwydd? Pryd dwi’n cael gweld Nain? Dwi’n siŵr fod nifer o rieni ac athrawon wedi derbyn sawl cwestiwn tebyg gan blant dros y misoedd diwethaf. Mae plant ifanc yn gallu cael trafferth esbonio eu teimladau ar lafar, a’r gobaith yw y bydd y llyfr hwn yn adnodd gwerthfawr i’w helpu i brosesu’r hyn sy’n digwydd yn y byd o’u cwmpas.



Does yna ’run llyfr yn mynd i guro sgwrs iawn efo mam, dad neu aelod o’r teulu, ond gall y llyfr hwn agor y drws i drafodaethau a chwestiynau pellach - sy’n gorfod bod yn beth da. Dyma adnodd defnyddiol sydd ar gael i roi cychwyn ar sgwrs rhwng oedolyn a phlentyn, neu i annog sgwrs bellach. Yn hytrach na dweud fod poeni yn beth drwg ac yn rhywbeth i’w guddio, mae’r llyfr yn annog bod yn agored ac yn cymryd camau tuag at normaleiddio’r teimladau dryslyd yma. Mae pawb yn yr un cwch - weithiau fe gawn ni ddyddiau da, a thro arall cawn ddyddiau sydd ddim cystal.


Dwi’n falch fod y llyfr hefyd yn cynnig strategaethau ar gyfer delio â theimladau o ofid a’i fod yn tynnu sylw at y ffaith fod rhwydwaith o gymorth ar gael i’n helpu pan mae’r felan arnom ni.


Mae’n hollbwysig lledaenu’r neges fod rhannu problem yn llawer gwell na’i guddio. “Down drwyddi gyda’n gilydd,” meddai llinell ola’r llyfr. Amen i hynny.

 

We’re living in very uncertain times, people. The likes of which we have never seen before. In a matter of weeks life went from being fairly 'normal’ to being turned upside down. The established routines (things we rely on deeply) went out the window. I remember thinking back in March 2020, "This won't be too bad – won’t be too long now." How naïve of me!


One of the effects of the pandemic is the toll that lockdown’s taken on our mental health in general, and it's been a very difficult time for children and young people in particular. Not only the boredom of being house-bound for months, but not being allowed to go to school and see friends has been extremely challenging.


With stories about Covid-19 on our screens constantly, and the major disruption to routines, its hardly surprising that many children are very concerned about the situation. This book, a colourful adaptation by Llinos Dafydd of Jon Burgerman’s Everybody Worries, is a timely arrival to our bookshelves.


For young children, the situation is probably very confusing. Why can't I go out to play Mum? Why can't I have a birthday party? When can I see Nain? I'm sure that a number of parents and teachers have received several similar questions from children over the last few months. Young children can struggle to explain their feelings sometimes, and this book will be a valuable resource to help them process what’s happening in the world around them.



No book could ever replace a valuable conversation with Mum, Dad or another family member, but this book can open the door to further discussions and questions - which must be a good thing. This is an useful resource available to start a conversation between adult and child. Instead of saying that worrying is a bad thing and something to hide, the book encourages openness and takes steps towards normalising these confusing feelings. We’re all in the same boat - sometimes we have good days, and other days not so good.


I’m pleased that the book also offers some strategies for dealing with feelings of stress and anxiety and that it highlights the network of support available to help us when we’re a bit down.


It’s vital to spread the message that a problem shared is a problem solved (hopefully!) "We can overcome anything when we’re there for each other.” Couldn’t have said it better myself.


Look at all these colours to help cheer us up!

 

Cyhoeddwr/publisher: Rily

Cyhoeddwyd/published: 2021

Pris: £6.99

ISBN: 9781849675192

 



bottom of page