top of page

Llechi - Manon Steffan Ros

*Scroll down for English*

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◎◎◎

Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◉◉◉◎

Trais, ofn/violence, scary: ◉◉◉◉◎

Iaith gref/language: ◉◉◉◎◎

Rhyw/sex: ◉◉◉◎◎

Hiwmor/humour: ◉◉◉◎◎


Oed diddordeb/interest age: 13+ [addas i oedolion ifanc/oedolion hefyd]

Oed darllen/reading age: 13+ [suitable for teenagers, young adults and adult readers]

 

Cynnwys rhai themau y gall beri gofid i rai.

Contains themes that some may find upsetting.

 

ADOLYGIAD GAN LLIO MAI HUGHES


I chi sy’n gyfarwydd â chyfresi fel The Bridge a The Killing, anghofiwch am Scandi noir achos mae Bethesda noir wedi cyrraedd a dw i isio mwy!


Dw i wastad wedi bod yn hoff o ddarllen ond mi oedd ffeindio llyfr oedd wir yn dal fy sylw ac yn tanio’r diddordeb yna mewn darllen yn ystod fy nghyfnod yn yr ysgol uwchradd yn gallu bod reit anodd ar adegau. O na fyddai Llechi wedi bod o gwmpas bryd hynny!


Rydan ni gyd yn gwybod am ddawn ysgrifennu arbennig Manon Steffan Ros erbyn hyn, ac yn siŵr o fod wedi darllen ambell gampwaith ganddi bellach, neu wedi clywed am rai o’i llyfrau o leiaf. Dydi Llechi yn sicr ddim yn siomi, ac mae gallu Manon i’n tynnu i mewn i fyd ac i fywydau’r cymeriadau nes ein bod wedi ymgolli’n llwyr yn parhau i fod mor gryf ag erioed yn y nofel hon.


Shane ydi’r adroddwr – hogyn ysgol 16 oed. Fo sy’n ein tywys trwy’r holl ddigwyddiadau yn dilyn llofruddiaeth Gwenno, ei gyd-ddisgybl - hogan brydferth, glyfar a chlên, merch y teulu sy’n cyflogi ei fam fel glanhawraig, a’i ffrind pennaf (er nad oes neb arall yn gwybod hynny).



Mae marwolaeth Gwenno yn dipyn o ddirgelwch. Pa reswm yn y byd fyddai gan unrhyw un i fod isio lladd Gwenno o bawb? Mae hi’n gwneud yn dda yn yr ysgol, mae hi’n boblogaidd ac yn perthyn i deulu bach perffaith. Trwy lygaid Shane a’i ffrindiau, fesul dipyn cawn wybod mwy a mwy am y teulu Davies ac am y Gwenno go iawn – Gwenno sy’n wahanol iawn i’r un sy’n cael ei phortreadu ar y newyddion. Daw sawl ffaith a digwyddiad annisgwyl i’r amlwg yn ystod cyfnod ymchwiliad yr heddlu, nes bod mwy nag un person dan amheuaeth gynnon ni.


Fe wnes i fwynhau’r twist ar ddiwedd y nofel, a’r ffaith ein bod ninnau fel darllenwyr yn cael ein twyllo fel yr heddlu a phawb arall yn y pentref trwy ran helaeth o’r nofel. Gawn ni wybod pwy lofruddiodd Gwenno? Fyddwch chi’n gallu dyfalu? Mi fydd yn rhaid i chi gael gafael ar gopi er mwyn cael gwybod!


Er mai nofel drosedd ydi hon yn bennaf, gyda mymryn o ddirgelwch, caiff themâu eraill eu trafod gan yr awdur, fel cam-drin emosiynol, iselder, dial, cyfeillgarwch, teulu, a dosbarth cymdeithasol. Mae cymeriad snobyddlyd a dauwynebog Glain Davies, mam Gwenno, yn cael ei gyfleu i’r dim trwy’r linell hon lle mae hi’n sôn am fam Shane:

‘Bechod. Hi ydi’r cleaner.’


mae'r llyfr yn llawn o 'one liners' ffraeth ac arsylwadau am gymdeithas yma! Ma MSR yn amlwg yn gallu darllen pobl!

Fe gawn ni hefyd sylwebaeth graff gan yr awdur ar sut y caiff Bethesda (ac o bosib Cymru yn gyffredinol) ei bortreadu gan y cyfryngau a gan bobl o’r tu allan i Gymru:


‘Doeddan nhw ddim yn gweld yr holl bethau hyfryd, cynnes, cyfeillgar am Fethesda. Doeddan nhw ddim eisiau gweld hynny. Roeddan nhw o’r farn fod byw mewn lle oedd ddim yn llawn Range Rovers a BMWs yn rhoi rhyw fath o esboniad i’r ffaith fod hogan un ar bymtheg oed wedi cael ei lladd.’

Roedd yr awdur yn dda iawn am daflu goleuni ar y ffaith fod pethau'n gallu edrych mor 'berffaith' ar y tu allan, ond bod y realiti tu ôl i ddrysau caeedig yn wahanol iawn, fel yn achos y teulu'r Davieses'. Da chi byth yn gwybod pa gyfrinachau sydd gan bobl!


Y neges bwysicaf ar ddiwedd y nofel ydi pa mor bwysig ydi hi i ofyn am gymorth os ydach chi eich hun neu rywun rydach chi’n eu hadnabod yn mynd trwy gyfnod o iselder neu mewn sefyllfa anodd yn emosiynol. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r arwyddion ac i edrych allan amdanyn nhw – tydyn nhw ddim bob amser yn amlwg.


Fe wnes i wirioneddol fwynhau darllen Llechi. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n euog am fod â rhagfarn yn erbyn nofelau i bobl ifanc, oherwydd fy anwybodaeth am y ddarpariaeth sydd ar gael erbyn hyn, mae’n siŵr o fod. Doeddwn i ddim yn meddwl y bysan nhw’n apelio ata i fel rhywun sydd o leiaf ddegawd yn hŷn na’r grŵp oedran targed, ond mae’n rhaid i mi ddisgyn ar fy mai. Mae’r nofel yma’n sicr yn un y gellir ei mwynhau’n fawr gan bobl ifanc, ond sy’n rhoi’r un mwynhad i gynulleidfa hŷn hefyd yn fy marn i. Braf ydi gweld mwy a mwy o nofelau fel hyn yn ymddangos yn ddiweddar; nofelau sy’n pontio’r cyfnod hwnnw lle mae rhywun yn raddol dyfu o fod yn berson ifanc i fod yn oedolyn. Mae angen mwy o nofelau fel hyn i sicrhau bod pobl ifanc yn dal ati i ddarllen ac i fwynhau darllen.

 

REVIEW BY LLIO MAI HUGHES



Those of you who are familiar with The Bridge and The Killing, you can forget scandi-noir because Bethesda-noir is here to stay!


I’ve always enjoyed reading from a young age, but I remember finding good books that grabbed my attention was quite a challenge when I was in secondary school. If only Llechi had been around back then!

Most of us are familiar with Manon Steffan Ros's writing abilities by now, and will probably have read at least one, if not several of her many excellent novels. Llechi certainly doesn’t disappoint, and her ability to draw us into the lives of her characters until we are fully engrossed is as strong as ever in this novel.


Our narrator is a 16-year-old boy called Shane, and the story is told entirely from his point of view. He takes us through the events following the murder of his classmate, Gwenno - a beautiful, clever, likeable girl who is the daughter of a well-off family who employs his mother as a cleaner. She’s also his best friend (though nobody else knows that).



Gwenno's untimely death is something of a mystery. What reason would anyone have to kill Gwenno of all people? She was doing well at school, was popular with her peers and has the ‘perfect’ little family. Through Shane and his friends, bit by bit the story unravels about her family life and about the real Gwenno – a very different girl to the one portrayed on the news. During the police investigation, a few mysterious facts come to light, that place several characters under suspicion.


Will we ever get to know why Gwenno was killed and by whom? I’m giving nothing away here!

Although this is primarily a crime novel with some elements of murder mystery, other themes come up such as emotional abuse, depression, revenge, friendship, family, and social class. The snobby, two-faced nature of Glain Davies, Gwenno's mother, is very accurately portrayed when she is caught talking about Shane’s mother in a patronizing manner.


There are some cracking one liners and witty observations of society throughout this book! Manon Steffan Ros definitively has people 'figured out' all right!

There’s also some great social commentary from the author on how Bethesda (and possibly Wales in general) is portrayed by the media and by people from outside Wales. She also makes reference to how well some ‘perfect’ families give the impression that all is well on the outside, but the reality behind closed doors is very different. You never can tell what dirty little secrets people are hiding!


The most important message at the end of the novel is how important it is to ask for help if you yourself or someone you know is going through a tough patch or is struggling emotionally. It’s important to be aware of the signs and to look out for them – they aren’t always so obvious.


I really enjoyed reading Llechi. I have to admit that I was guilty of being a bit sceptical about Young Adult fiction, probably because I hadn’t really given it much thought and I didn’t realize there were so many good titles out there. Initially, I just didn't think they’d appeal to a reader who’s a good decade older than the target age group, but now I realize I was wrong. This is definitely one that will appeal to teenage readers, but equally is a great book for adult readers and learners too.

 

Cyhoeddwr/publisher: Y Lolfa

Cyhoeddwyd/released: 2020

Pris: £6.99

ISBN: 9781784619558

 
 

Here's another great review of this awesome book from Nation.Cymru:


 

*dewis personol yw'r Top 5 - bydd angen i athrawon wneud yn siwr bod y llyfrau'n addas gyntaf.


Recent Posts

See All
bottom of page