top of page

Cymru ar y Map - Elin Meek

*Scroll down for English & comments*


Llyfr sy'n byrstio â ffeithiau am Gymru.

Book bursting with fun facts about Wales.


Gwasg/publisher: Rily Publications

Cyhoeddwyd/released: Hydref 2018

Pris: £12.99

ISBN: 978-1849670548


Lefel her/challenge level:


☆ ☆ Gwreiddiol Cymraeg - Welsh Original ☆ ☆ *Welsh & English versions available*

 

Mi faswn i wedi bod wrth fy modd gyda llyfr fel hwn pan oeddwn yn yr ysgol. Bydd hwn yn apelio at gynulleidfa eang, ond yn enwedig pobl sy’n hoffi darllen llyfrau ffeithiol yn lle rhai stori. Mae Elin Meek yn amlwg wedi bod yn gweithio’n galed ar y prosiect yma, ac mae Cymru ar y Map, ynghyd a’r fersiwn Saesneg, Wales on the Map, wedi bod yn un o werthwyr gorau 2018/19.



Mae o fel encyclopaedia ac atlas wedi cael eu cyfuno ac mae’n byrstio, YN BYRSTIO, gyda ffeithiau diwylliannol, hanesyddol a daearyddol diddorol o bob math am wahanol ardaloedd o Gymru. Cyfle da i rhywun sy’n newydd i Gymru ddysgu ‘chydig am ein gwlad anhygoel! (mae geiriau’r anthem ar y clawr = hynny’n bwysig!) Mae Valériane Leblond hefyd wedi bod yn brysur yn darlunio, ac mae’n llyfr wirioneddol hardd. Tybiaf fod na gymaint o ymdrech wedi mynd i mewn i’r lluniau a sydd wedi bod i ysgrifennu’r llyfr!


Mae’n llyfr mawr, clawr caled sy’n teimlo fel llyfr o ansawdd da ac maen gweddu’r math yma o lyfr ffeithiau. I gychwyn, ceir ffeithiau cyffredinol am Gymru, cyn i’r llyfr symud at dudalen ddwbl o ffeithiau ar gyfer pob Sir yn Nghymru. Yn olaf, mae na adrannau unigol ar gyfer Celfyddydau, Chwaraeon, Byd Natur, bwyd a phethau amgylcheddol o dan deitl gofalu am ein gwlad. Mae’r darn ‘dyddiadau pwysig’ ar ffurf calendr syml yn handi iawn hefyd.



Mae’r nifer o ffeithiau sydd rhwng dau glawr y llyfr yma’n rhyfeddol. Mae’n siŵr y bu’r awdur wrthi am oes yn casglu’r holl wybodaeth. Mae ‘na rai ffeithiau/atyniadau pwysig dwi’n teimlo sydd ar goll mewn ambell i le, ond dwi’n cydnabod fod hi’n amhosib cynnwys pob dim! Oeddech chi’n gwybod mae yn Sir Conwy (lle rwy’n byw) y mae’r canran uchaf yng Nghymru o bobl hŷn, dros 65 oed yn byw?


Bydd pobl yn mwynhau chwilio am y tudalennau am eu hardal nhw, yn mwynhau’r cyfarwydd ond hefyd o bosib yn dysgu ffeithiau newydd am eu milltir sgwâr. Diddorol hefyd yw darllen am ardaloedd gwahanol llai cyfarwydd. Dwi’n gallu gweld sawl teulu yn defnyddio’r llyfr fel sbardun trafodaeth a dwi’n siŵr gall sawl gwyliau neu drip deuluol ddeillio o fynd i weld rhai o’r pethau sydd yn y llyfr yma. Ar ôl gweld Traphont Pontcysyllte (o dan Sir Wrecsam) dwi’n benderfynol fy mod i’n mynd i deithio arno mewn cwch gamlas yn 2020! Dwi hefyd wedi rhoi taith i Pistyll Rhaeadr i mewn yn y dyddiadur!



Mae ‘na oriau o waith darllen yn y llyfr yma a dwi’n siŵr fod na rhywbeth newydd i bawb ddysgu. Hwn yw’r llyfr perffaith i basio’r amser ar siwrneiau car hir! Mae na becyn ar gael sy’n cynnwys y llyfr, yn ogystal â llyfr cwis a lyfr gweithgaredd hefyd! Mae’r amrywiaeth eang o ffeithiau’n siŵr o olygu fod na rhywbeth at ddant pawb. Mae na bosteri a gêm fwrdd cwestiwn ag ateb i gyd fynd â’r llyfr.



Os dwi’n rhoi fy het athro ymlaen, mae ‘na bosibiliadau di-ri i ddefnyddio’r llyfrau yma yn y dosbarth. (mae pecyn ysgolion ar gael sy’n cynnwys mwy nag un copi) ar gyfer gwaith grŵp. Byddai’n llyfr da ar gyfer gwaith darllen grŵp, yn enwedig gyda darllenwyr amharod neu ansicr. Gellir chwarae cystadlaethau chwilio am ffeithiau neu defnyddio’r darn fel sbardun i wneud ymchwil pellach. Mae’n sicr o gyd-fynd a nifer o themâu ysgolion ac mae darganfod mwy am Gymru’n taro nifer o nodweddion y Siarter Iaith/Cymraeg Campus. Mi faswn i’n hoffi gweld copis o’r llyfr yma ym mhob ysgol yng Nghymru. (Llywodraeth Cymru – da chi’n gwrando…?!!?)


Enillydd haeddiannol Gwobr Tir na n-Og 2019! Mi fydd hwn yn lyfr poblogaidd am flynyddoedd i ddod.


 

I’d have been delighted with a book like this when I was at school. This will appeal to a wide audience, but especially to people who prefer to read factual books over storybooks. Elin Meek has clearly been working hard on this project, and Cymru ar y Map, together with the English version, Wales on the map, has been one of the top sellers of 2018/19.


It's like encyclopaedia and Atlas have been combined and it is bursting, I say bursting, with fascinating cultural, historical and geographical facts of all sorts about different areas of Wales. A good opportunity for someone new to Wales to learn about our amazing country! (The national anthem's words are on the cover – very important!) Valériane Leblond has also been busy drawing, and what we get as a result is a truly beautiful book. As much effort has gone into the artwork as there is in writing the book!



It’s a big book, with a hardback cover that feels of good quality and somehow suits this kind of fact book. Initially, there are general facts about Wales, before the book moves to a double page spread of facts about each county in Wales. Finally, there are individual sections for arts, sports, nature, food and environmental things. The ' important dates ' piece in a simple calendar format is also very handy.


The many facts between the two covers of this book are amazing. The author has been busy collecting all the information. There are some important facts/attractions I feel are missing in some places, but I recognise that it is impossible to include everything! Did you know that Conwy County (where I live) has the highest percentage of elderly people, over the age of 65 in Wales?



People will enjoy searching for the pages on their local area, enjoying the familiar but also possibly learning new facts about their own backyard. It is also interesting to read about different, less familiar areas. I can see some families using the book as a stimulus for discussion and I'm sure many family outings could result from this book. Having seen the Pontcysyllte Viaduct (under Wrexham County) I am determined that I’m going to travel over it in a canal boat in 2020! I've also put in a trip to Rhaeadr Pistyll in the diary!


There are hours’ worth of reading in this book and I'm sure there's something new for everyone to learn. This is the perfect book to pass the time on long car journeys! There's a pack which contains the book, as well as a quiz book and activity book too! The wide variety of facts will surely have something to everyone's liking. The book has been accompanied by posters and a Q&A board game.


If I am putting my teacher hat on, there are countless possibilities to use these books in class. (a school’s pack containing multiple copies) is available for group work. It would be a good book for group reading, especially with reluctant or insecure readers. Fact-search competitions can be played or the piece used as a springboard to undertake further research. It is bound to go well with a number of school topics and finding out more about Wales hits a number of targets within Siarter Iaith and Cymraeg Campus. I would like to see copies of this made available to all schools in Wales. (Welsh Government – are you listening?!?)


This highly deserving Tir na n-Og 2019 winner will surely be a popular book for years to come.



45 views0 comments

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page