top of page
Writer's picturesônamlyfra

Criw'r Coed a'r Draenogod - Carys Glyn



(Awgrym) oed diddordeb: 3-7

(awgrym) oed darllen: 6+

 

Mae’n teimlo fel dim ond ddoe pan oedd Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll yn cael ei lansio! Anodd credu fod tair mlynedd wedi mynd heibio. Yn y llyfr hwnnw, daeth gwenynen druenus i ofyn am gymorth criw o anifeiliaid y goedwig. Efallai fod amser wedi mynd heibio, ond mae effaith andwyol dynoliaeth ar fyd natur yn parhau – ac yn gwaethygu os rhywbeth! (jest sbïwch ar Rishi Sunak yn mynd yn ôl ar ei air am y targedau carbon).

Roedd y llyfr cyntaf yn boblogaidd oherwydd ei fod yn taclo pwnc llosg perthnasol iawn, ac yn gwneud hynny mewn cyfrol lliwgar a hwyl. Allan o’r pryfaid i gyd, mae gwenyn yn cael dipyn bach o bad rep, ac mae pawb yn dechrau sgrechian pan mae nhw’n dod rhy agos. Y gwir yw mae nhw’n superstars byd natur! Dyna pam roedd neges y llyfr cyntaf mor bwysig, gan ei fod yn tynnu sylw plant at y rôl hollbwysig mae creaduriaid bach yn chwarae yn ein hecosystemau.


Casgliad digon random o anifeiliaid y goedwig ydi Criw’r Coed. Yn rhan o’r giang, mae ‘na eryr, tylluan, carw, deryn du ac eog. Yn debyg iawn i’r A-Team (dangos fy oed) neu’r Avengers, mae nhw’n dod at ei gilydd i helpu anifeiliaid sydd mewn angen. Ond dim jest anifeiliaid arferol yw’r rhain – heb sôn am fod yn hynod o ddoeth, mae nhw’n gallu rapio hefyd! Cŵl de!


Dim gwenyn sydd angen help y tro hwn, ond y draenogod. Dwi mor falch fod yr awdur wedi dewis yr anifail yma, achos does ‘na ddim hanner digon o sôn amdanynt a’u sefyllfa fregus. Yndi, mae Brian May, gitarydd Queen, yn caru draenogod ac wedi agor hedgehog sanctuary ar ei dir, ond yn anffodus tydi hynny ddim yn ddigon i atal y dirywiad!


Mae rhai ffynonellau yn dweud fod y boblogaeth wedi cwympo hyd at 75%! Mae’r rhesymau dros hyn yn gymhleth iawn, ond mae un peth yn sicr – ‘da ni wedi chwarae rhan yn hyn. Yn aml iawn, mae ein ffensys, ffyrdd a waliau yn rhwystro’r creaduriaid bach ciwt yma rhag teithio o gwmpas y wlad i chwilio am fwyd. Yn fwy na hynny, mae ein gerddi taclus a’n hoffter o slug pellets wedi lleihau’r bwyd sydd ar gael iddynt. Ac os gofiwch chi eiriau cân Crysbas, mae llawer o ddraenogod yn dod i ddiwedd digon anffodus dan deiars ein ceir!



Fel y gwenyn, mae’r draenogod i gyd yn diflannu. Diolch byth felly fod Criw’r Coed ar gael i roi cyngor doeth ac i droi’r trai. Drwy weithio a’u gilydd, daw’r criw o hyd i syniadau i achub y creaduriaid bach hoffus a phigog. Byddai wedi bod yn ddefnyddiol rhoi cwpwl o ‘tips’ yng nghefn y llyfr ar y pethau gallwn ni wneud gartref i helpu draenogod. Dyma linc am rai syniadau:https://www.gardenersworld.com/plants/10-ways-to-help-hedgehogs/



Apêl y gyfres yw’r cyfuniad o negeseuon amgylcheddol bwysig a’r hwyl sy’n deillio o’r cymeriadau cyfoes a chŵl. Dim yn aml welwch chi gwdi hŵ yn gwisgo hwdi! (syniad hawdd ar gyfer gwisg Diwrnod y Llyfr!) Ond yn fwy na’ hyn, gallwch weld fod Carys, awdur y gyfres ac athrawes brofiadol, yn hollol egnïol ac angerddol am achub bywyd gwyllt ac am ledaenu’r negeseuon ymysg plant ifanc. Mae ei brwdfrydedd yn pefrio drwy’r llyfr i gyd. Jest edrychwch ar y lluniau isod o’r lansiad yn ddiweddar – mae’n edrych fel noson gwerth chweil gyda llawer o chwerthin! Mae hi’n fy atgoffa o’r Energizer Bunny -mae ei hangerdd yn contagious!



Sgwn i pa anifeiliaid gwyllt fydd angen help Criw’r Coed tro nesaf?


ADNODDAU DYSGU:

Mae'r awdur, sy'n athrawes brofiadol, wedi bod yn brysur yn creu adnoddau dysgu ar gyfer y meysydd dysgu a phrofiad newydd sy'n cyd-fynd â'r llyfr. Mae hyn mor handi! Dyma'r syniadau gwersi a'r caneuon - dilynwch y lincs isod:




 

Cyhoeddwr: Lolfa

Cyhoeddwyd: 2023

Pris: £6.99

Cyfres: Criw'r Coed

Fformat: Clawr meddal

 

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page