top of page

Cranogwen - Anni Llŷn

Writer: sônamlyfrasônamlyfra

*For English review, please use language toggle switch on top of web page*



(agwrym) oed darllen: 6+

(awgrym) oed diddordeb: 3-6

Lluniau: Rhiannon Parnis http://www.rhiannonparnis.com/

 

ADOLYGIAD GAN LLIO MAI



Dyma gyfrol gyntaf y gyfres ‘Enwogion o Fri’ gan wasg Llyfrau Broga - cyfres sy’n cyflwyno bywydau ysbrydoledig unigolion o Gymru. Dw i wir yn croesawu’r gyfres yma, ac yn falch o weld ymdrech i dynnu sylw ein cenhedlaeth ifanc ni at rai o enwogion anhygoel Cymru, a’r dylanwad y mae eu gwaith arbennig nhw wedi’i gael, yn y wlad yma a thu hwnt.


Pwy well i ganolbwyntio arnyn nhw ar gyfer cyfrol gyntaf y gyfres na Cranogwen, neu Sarah Jane Rees i roi ei henw iawn iddi. Un o Langrannog oedd Sarah, ac yno y dechreuodd ei diddordeb mawr yn y môr ac mewn llongau. Er nad oedd nifer yn credu fod bwrdd llong yn le i ferch ifanc, doedd Sarah ddim am adael i hynny ei hatal rhag gwireddu ei breuddwyd. Fe weithiodd yn galed ac aeth yn ei blaen i ddysgu llawer iawn mwy am longau a rhannu ei diddordeb a’i gwybodaeth gydag eraill trwy gyfrwng ei gwaith fel athrawes.



Roedd Sarah hefyd yn hoff iawn o farddoni, a hi yw’r ferch gyntaf un a enillodd wobr am ysgrifennu’r gerdd orau yn yr Eisteddfod Genedlaethol! Tipyn o gamp ac ysbrydoliaeth i nifer o ferched a ddaeth ar ei hôl yn sicr. A thrwy ei barddoniaeth yr ydym yn ei hadnabod yn well fel Cranogwen erbyn hyn, gan mai dyma’r enw yr oedd hi’n ei defnyddio fel ei ffugenw neu ei henw barddol.


Yn un a fu’n torri stereoteipiau’r dydd ac yn gwthio’n gyson yn erbyn rhagfarnau eraill, fel sy’n cael ei nodi yn y llyfr, roedd Cranogwen yn ‘gwneud beth roedd hi eisiau ei wneud, nid beth roedd pawb arall yn meddwl y dylai hi ei wneud’. Treuliodd lawer o’i hamser yn cefnogi merched eraill, ac mae’r neges honno’n glir iawn ar ddiwedd y llyfr hwn.



Mae bywyd a gwaith ysbrydoledig Cranogwen wedi’i grynhoi’n dda iawn yn y gyfrol hon gan Anni Llŷn, ac mae darluniau hyfryd Rhiannon Parnis yn gymorth i’n tywys yn ôl ac i’w dychmygu hi wrth ei gwaith.


Mae Cranogwen yn rhywun y dylai pob plentyn a pherson ifanc fod yn ymwybodol ohoni. Mae hi’n enghraifft arbennig o rywun a lwyddodd i oresgyn rhwystrau er mwyn dilyn ei breuddwydion, ac a ddefnyddiodd ei llwyddiant i helpu eraill. Prynwch gopi - mi fyddwch chi’n siŵr o fod wedi’ch ysbrydoli ar ôl darllen y gyfrol hon, ac yn barod i fynd i’r afael â’ch breuddwydion chi!
 

Gwasg: Broga

Cyhoeddwyd: 2021

Pris: £5.99

 

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page