top of page

Cors Caron- Meleri Wyn James

*For English review, see language toggle switch*


♥Llyfr y Mis i Blant: Mehefin 2022♥


(awgrym) oed darllen: 11-14+

(awgrym) oed diddordeb:11+


Disgrifiad:

Nofel ddirgelwch sy'n symud yn gyflym rhwng dau fyd, ac am berthyn, cariad a'r newid yn ein hagwedd at yr amgylchedd.

 


ADOLYGIAD ELIN WILLIAMS (14 oed)


Nofel fyrlymus yw hon, sy'n adrodd stori merch bymtheg oed o'r enw Caron a aiff ar goll ar Gors Caron yng Ngheredigion. Mae hi'n dioddef o epilepsi ond nid yw hi'n gweld hyn fel gwendid. I'r gwrthwyneb – mae'n rhywbeth sy'n ei diffinio hi ac yn ei gwneud hi'n arbennig.


Y gors yw dihangfa Caron pan nad yw bywyd yn ei thrin hi'n garedig, ac mae'n adnabod pob rhan o'r tir fel cledr ei llaw. Dyma sy'n achosi'r penbleth mwyaf i'w thad, Rhys, pan nad yw Caron yn dychwelyd adre ar gyfer ei swper na chwaith yn ateb ei ffôn fach. Mae Rhys yn gweithio ar y gors ac yn rhannu'r un agwedd â'i ferch amdani. Ar y pwynt hwn yn y stori cawn wybod bod corff wedi ei ddarganfod ar dir y gors, corff sydd wedi bod yno ers canrifoedd lawer.


Wrth i'r stori fynd yn ei blaen, a Caron yn dal ar goll, ry'n ni'n dysgu am fywyd y ferch yn ei harddegau trwy gyfrwng dryswch ei theulu a'i ffrindiau, a'u hymdrechion nhw i ddod o hyd iddi. Yma, mae'r nofel yn ymrin ag agweddau o fywyd bob dydd sy'n cael effaith ar bawb – ffrindiau, yr ysgol, cariadon, tyfu i fyny ag un rhiant, y cyflwr epilepsi a'i heriau, yn ogystal â'r broblem o newid hinsawdd a'r angen i ddiogelu natur ac amddiffyn Cors Caron.



Yn y cyfamser, mae Caron ar antur. Cliwiau yn unig sy'n awgrymu ei bod hi wedi teithio yn ôl mewn amser – i gyfnod diwedd y 19eg ganrif pan oedd bwriad i osod rheilffordd yn ardal Tregaron a fyddai'n golygu dinistrio'r gors. Yn y byd rhyfedd, cyfochrog yma mae Caron yn cwrdd â Twm, bachgen gweithgar a thriw sy'n anghytuno'n chwyrn â'r datblygiadau, a daw tensiwn i'r stori am fod y bobl leol yn dibynnu ar y gwaith a ddaw wrth adeiladu'r lein am eu bywoliaeth.


Wrth i Twm a'i deulu gynnig llety iddi a gofalu amdani, sylweddola Caron mai eu dyletswydd nhw yw achub y gors a newid cwrs y dyfodol ... ond ai hunllef yw'r cyfan, a beth yw rôl y corff ddarganfuwyd yn y gors yn hyn i gyd?


Rwy'n hoff iawn o ddyluniad clawr y llyfr, ac mae'r lluniau a'r delweddau lliwgar yn cyfleu bywyd gwyllt y gors ond hefyd dryswch Caron. Heb os, mae'r awdur wedi llwyddo i adrodd stori dda, amlhaenog – mae'n hwylus i'w darllen, mae'n gafael o'r dudalen gyntaf, ac mae'r ddeialog yn cynnwys iaith lafar ardal Tregaron sy'n gwneud y cymeriadau yn rhai realistig. Gyda'r Eisteddfod yn dod i ardal y stori, darllenwch hon, da chi!


Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.



 

Gwasg: Y Lolfa

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £7.99

 


Recent Posts

See All
bottom of page