*For English review see language toggle switch*
(awgrym) oed darllen: 6-9+
(llyfr i blant sy'n newydd i ddarllen yn annibynnol,
neu sy'n pontio rhwng llyfrau llun a llyfrau pennod)
(awgrym) oed diddordeb: 5+
Adolygiad gan Siân Vaughan, Athrawes Ymgynghorol y Gymraeg Sir Conwy
Stori arall am anturiaethau Cadi a Mabon wrth iddyn nhw gael gwyliau bach ym mwthyn mam-gu yn Sir Benfro dros y Pasg. Gan fod Mam a Nain yn brysur yn yr ardd mae Cadi a Mabon yn mynd lawr at y traeth i chwarae. Wrth gloddio am drysor ar y traeth maent yn dod ar draws cist drysor ac yn cael eu cipio gan fôr leidr. Down i gwrdd â chymeriadau lliwgar awn ar fwrdd llong y Môr-leidr Byrti Biws.
Eto cawn nifer o negeseuon pwysig o fewn y stori, ac nad ydy o'n iawn i ddwyn oddi ar eraill. Mae Cadi a Mabon yn cael sawl antur ar fwrdd y llong a chawn ddysgu tipyn am fywyd bob dydd mor ladron drwy lygaid criw llong Y Blodwen.
Stori arall wedi ei hysgrifennu mewn iaith hawdd i blant ei darllen a' deall. Cawn gip ar dafodieithoedd y de a'r gogledd ac fel mae ambell enw gwahanol ar bethau yn dibynnu ar eich tafodiaith. Bydd plant wrth eu bodd yn trafod bywyd Môr ladron - pwnc sydd wastad yn apelio at blant o'r oedran yma.
Gwasg: Y Lolfa
Cyhoeddwyd: 2022
Pris: £6.99
Fformat: Clawr Caled
Adolygiad o Golwg
Dwi bob amser wedi hoffi'r llyfrau yma a chymeriad drygionus ond annwyl Cadi [...] Dydi llyfrau'r gyfres hon byth yn siomi – cyfuniad perffaith o destun a lluniau lliwgar.- Gwenan Mared, Golwg
Comentários