top of page

Asiant A - Anni Llŷn

*Scroll down for English*


Antur gyda'r ysbïwr 14 oed!

A 14 year old spy's first mission!



Genre: ffuglen, antur ysbïo / spy adventure, fiction

Gwerth addysgiadol/educational value: ◎◎◎

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◎◎

Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎

Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎

Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎

Rhyw/sex: ◎◎◎◎

Hiwmor/humour: ◉◉◉◎

Her darllen/reading difficulty::◉◎

Dyfarniad/Rating: ★★★

 

Dod ar draws y llyfr yn eistedd ar fy silff lyfrau yn y study wnes i gyntaf. Dim syniad o ble ddaeth o na phwy pia hi! Wel - fi rŵan!



Doedd y clawr ddim wir yn apelio ataf – ddim yn siŵr pam. Mae ‘na rhyw edrychiad mymryn yn dated arno erbyn hyn efallai. Ond, chwedl y Sais; ‘don’t judge a book by it’s cover!’ felly mi rois i gynnig ar y llyfr.


A dwi’n falch fy mod i wedi, a dweud y gwir. Stori am ferch 14 oed yw hon, ond nid merch gyffredin, o na! Mae gan Alys Phillips gyfrinach, a set o sgiliau arbennig iawn achos mae hi’n ysbïwr proffesiynol. Mae hi wedi cael ei hyfforddi mewn spy skills gan ei mam a nawr mae hi’n barod am ei mission gyntaf. Mae’r stori’n fy atgoffa o’r ffilmiau poblogaidd Spy Kids yn y 2000au cynnar!



Mae rhywbeth mawr o’i le yn Ysgol Breifat ‘hynod lewyrchus’ Pen y Rhych – sydd â chanlyniadau anhygoel a ffynhonnell incwm amheus. Rhywbeth arall sy’n od iawn yw fod y plant fel robotiaid a does NEB yn chwerthin yno. O gwbl!


Gwaith Alys ydi mynd undercover yn yr ysgol gyda’i theclynnau ysbïo ffansi er mwyn datgelu cyfrinach Miss Glein, y brifathrawes. Wedi i Alys ddechrau chwilota yn yr ysgol, mae Miss Glein a’i dirprwy, Mr Bylbs yn ceisio rhwystro Alys wrth iddi geisio darganfod y gwir.


Gyda help ei ffrindiau newydd – ei ffrindiau cyntaf erioed – mae Alys yn gorfod rhoi ei hun mewn perygl o gael ei dal, er mwyn casglu tystiolaeth am y digwyddiadau od yn yr ysgol breifat cyn bod hi’n rhy hwyr. Tybed fydd hi’n llwyddo mewn amser?



Yn ddibynnol ar allu darllen wrth gwrs, tybiwn i fod y llyfr yn addas ar gyfer plant 9+ oed, ond byddai hefyd yn gweithio hyd at 14 oed. Dyma lyfr sy’n addas i fechgyn a merched, ond dwi’n meddwl y bydd merched yn eu harddegau cynnar yn gwerthfawrogi merch gref fel prif gymeriad. Yn wahanol i’r ffilmiau James Bond, tydi Alys ddim yn damsel in distress o bell ffordd ac mae hi’n fwy na abl i ofalu am ei hun. Dwi’n meddwl fod cymeriad cryf, annibynnol fel hyn yn gosod esiampl dda ac yn cael gwared â stereotypes o gymeriadau benywaidd mewn ffilmiau spy.


Flynyddoedd yn ôl, cyhoeddwyd llyfr gan Gomer o’r enw ‘Taro’r Targed’ gan John Townsend (addas.Elin Meek) am fachgen ifanc oedd hefyd yn ysbïwr. Roedd hon yn llyfr mymryn yn dywyllach/gritty ac mae Asiant A yn teimlo braidd yn light-hearted o gymharu - sydd ddim yn syndod o ystyried yr awdur. Dibynnu beth mae’r darllenydd yn hoffi – mae gwefan y Lolfa yn ei disgrifio fel ‘yr Alex Rider Cymraeg’ - ond tydi Asiant A ddim fel y gyfres Alex Rider (mae llawer mwy o drais yn rheina yn un peth) Mae na fwy o hiwmor yn Asiant A ac roedd 'na ddigon o jôcs i roi gwên ar fy ngwyneb - hon dwi’n licio:


“Twm Ffrancs? Roedd o’n edrych yn debycach i Twm Ffat!”


Yn bersonol, roeddwn i’n gweld rhai agweddau o’r plot ac ambell gymeriad braidd yn arwynebol neu’n rhy obvious, a byddwn i wedi hoffi gweld Alys mewn mwy o ‘berygl’, ond mae’r stori’n dal i weithio. Cryfder y nofel yw’r prif gymeriad, Alys. Mae hi’n bersonoliaeth gref gyda thipyn o ‘sbarc’ - roedd hi’n ffraeth iawn ar brydiau e.e. tud 62 - dwi’n siŵr fydd plant yn gwerthfawrogi hi’n ateb y pennaeth yn ôl!


Mae llyfr arall bellach ar gael yn y gyfres.

 

The cover didn't really appeal to me – not sure why. It’s beginning to look a bit dated, but as they say, don’t judge and book by its cover! So, I decided to give it a try.



This is a story about a 14-year-old girl, but no ordinary girl, oh no! Alys Phillips has a secret, and a very special set of skills because she is actually a professional spy. She has been trained in espionage by her mother and is now ready for her first mission. The story reminds me of the popular Spy Kids movies in the early 2000s!


There is something very wrong in Ysgol Breifat ‘hynod lewyrchus’ Pen y Rhych – [private school] which has incredible grades and a dubious source of income. The children who attend have all lost the ability to laugh.


Alys goes undercover at the school with high-tech spy gear in order to reveal the secrets of Miss Glein, the headmistress. After Alys begins looking for clues, Miss Glein and her deputy, Mr Bylbs try to block her at every turn to stop her getting to the truth.


With the help of her new friends – the first she’s ever had – Alys risks being caught, in order to gather evidence about the strange goings-on at the private school. Will she will succeed in time?



Dependent on reading ability of course, I thought the book was suitable for children aged 9 +, but it would also work up to the age of 14. This is a book that suits boys and girls, but I think girls in their early teens will appreciate a strong female lead. Unlike the James Bond movies, Alys is no damsel in distress and is more than capable of looking after herself. I think a strong, independent, resourceful character like this sets a good example and eliminates the usual stereotypes of female characters in spy movies.


Years ago, Gomer published a book called ‘Taro’r Targed' by John Townsend (adapted by Elin Meek) about a young boy who was also a spy. This was a slightly darker and grittier novel and Asiant A feels rather light-hearted compared with it, which is not surprising given the author. I guess it depends on the reader’s preferences. The Lolfa describes it on their website as ‘the Welsh Alex Rider’, however it is not like Alex rider. (for one thing, there’s a lot more violence in that series) There are plenty of jokes in this one that will make you laugh.


Personally, I thought some aspects of the plot were a bit superficial or too obvious, and I would have liked to see Alys in more danger, but overall, the story still works. The strength of the novel is the main character, Alys. She is a strong personality with a wry sense of humour. For example, page 62. I'm sure readers will appreciate her answering the headteacher back!

Another book is now available in the series.

 

Cyhoeddwr/publisher: Y Lolfa

Cyhoeddwyd/released: 2014

Pris: £3.95

Cyfres: Pen Dafad

 

67 views0 comments
bottom of page