top of page

Yr Ardd Anweledig - Valérie Picard [addas. Luned Aaron]

Finalist at the Prix des Libraires Jeunesses 2018 - Category 0-5 years old. Lux Prize 2018 - CHILDREN'S BOOK



(awgrym) oed darllen: 5+

(awgrym) oed diddordeb: 3-7+

 


Rhywbeth bach gwahanol


Fel y rhan fwyaf ohona ni sydd ynghlwm â’r diwydiant llyfrau yng Nghymru mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ‘da ni’n neud o am ein bod ni’n caru llyfrau ac yn angerddol am gael pobl yn darllen- yn sicr dydan ni ddim yn neud o am y pres!


Yn ddiweddar, mi ddes i ar draws rhyfeddod bach rhyngwladol ar y silff lyfrau. Dim yn aml y gwelwch lyfr cloth bound y dyddiau yma. Yn dipyn o curiosity, dwi’m yn rhagweld y bydd y llyfr yma’n gwerthu cannoedd o gopïau, ond mae’n llyfr bach diddorol ac yn ychwanegu at yr amrywiaeth o lyfrau gwahanol sydd ar gael.

Mae’n dda bod gweisg fel Llyfrau Broga yn fodlon cymryd risg bob hyn a hyn, a chyhoeddi llyfrau sydd ychydig yn wahanol, a rheiny yn deillio o wledydd eraill heblaw Lloegr. Dwi’n meddwl mai yn Ffrangeg gafodd y llyfr ei chyhoeddi gynta, o dan y teitl Le Jardin Invisible.


Am eich £12.99 rydych chi’n cael llyfr o safon uchel, sy’n sicr o bara am flynyddoedd i ddod. Wedi deud hynny, mewn cost of living crisis, mae pob ceiniog yn cyfri. Os yw’r gost yn broblem, cofiwch am eich llyfrgelloedd lleol sy’n fwy na pharod i helpu.


Oes angen geiriau?


Gan mai Luned a Huw Aaron sy’n rhedeg gwasg Llyfrau Broga, dwi’n siŵr mai gwaith celf hyfryd Marianne Ferrer apeliodd atynt yn y lle cyntaf wrth benderfynu cyfieithu’r llyfr i’r Gymraeg.


Wrth drafeilio o’r ddinas mewn car, hola ferch fach  “ydyn ni bron yna?” wrth iddi nesáu at goedwig fawreddog. Mewn llannerch yn y coed, mae tŷ bach coch yn sefyll allan. Tŷ Nain ydi hwn, ac mae’n ben-blwydd arni. Wedi diflasu a sgyrsiau diflas yr oedolion (gweld dim bai arni) mae Elsi’n cael ei hel i’r ardd allan o’r ffordd. Mewn ffordd, mae’r ferch fach yn anweledig i’r oedolion yn y parti.







I gychwyn, mae hi wedi diflasu yna hefyd. Ond pan mae carreg fechan yn mynd a’i sylw, mae hyn yn agor y drws i antur ryfeddol, sy’n mynd a hi dros y mynyddoedd, o dan y dŵr, i hedfan gyda phryfaid anferthol. Y pryfaid sy’n fawr neu’r ferch sy’n fach erbyn hyn? Pwy a ŵyr? Ydi hi yn yr ardd yntau breuddwyd yw’r cyfan? Dim ots -mae’r cyfan yn teimlo fel breuddwyd gyffrous sy’n gwibio o un sefyllfa ryfeddol i’r llall. Ydi hi wedi mynd yn ôl mewn amser? Nid yw’n glir. Bosib. Mae’r dinosoriaid yn awgrymu ei bod hi. Mae llawer o’r golygfeydd yn agored i ddehongliad, ac mae’n debygol y bydd pob darllenydd yn gweld rhywbeth gwahanol.


Mae’r llyfr yn ein tywys ar siwrne i feddwl plentyn. Unwaith mae hi yn yr ardd, a’i dychymyg yn rhydd i grwydro, mae’r posibiliadau yn ddi-ri. Yn wir, mae’r stori yn gallu teimlo dipyn yn ddryslyd ar brydiau gan ei fod o’n symud o un peth anghredadwy i’r llall, ddim yn rhy annhebyg i Alice in Wonderland! Y tric yw i beidio â gor-feddwl pethau, a jest go with it, gan adael i ddychymyg Elsi fynd a chi ar antur.



Wrth ddarllen, cefais fy atgoffa o fynd i dŷ fy hen nain yn Llanrwst. Dros y blynyddoedd, roedd yr ardd wedi tyfu yn rhyw anghenfil mawr, ac roeddwn i wrth fy modd yn mynd yno i archwilio. Un diwrnod, yng nghanol y deiliant, mi ffeindiais fan Austin Maestro, a hen doiled ‘tu allan’ ym mhen draw’r ardd wedi eu gorchuddio mewn iorwg. Am hwyl – doedd dim xbox na playstation ar fy nghyfyl diolch byth!



Prin iawn yw’r ysgrifen yn y llyfr. Dim mwy na ryw 30 gair tybiwn i, jest digon i wthio’r ‘stori’ yn ei flaen. Hyn yw cryfder y llyfr, a rhan o’i wendid hefyd, yn dibynnu pa ochr o’r ffens ‘da chi’n sefyll. Dwi’n meddwl fod hwn yn llyfr sy’n debygol o hollti barn. I’r rhai creadigol, dychmygol sy’n licio’r math yma o lyfrau, mae’r testun prin yn gadael i’r lluniau wneud y siarad, ac mae’r stori mor agored, y bydd yn darllen yn wahanol bob tro, yn dibynnu ar y darllenydd. Yn sicr mae’r amwysedd yn gadael digon o le i gael sgyrsiau lu am wahanol bethau megis y cyferbyniad rhwng bywyd y ddinas a bywyd cefn gwlad neu sut mae goresgyn diflastod. Un cwestiwn fyddwn i’n gofyn i ddarllenwr ifanc er mwyn ennyn sgwrs yw ‘ai breuddwyd oedd y cyfan?’ Does dim ateb cywir nac anghywir i hyn, cofiwch.


Wrth gwrs, mi fydd rhai yn teimlo nad oes digon o strwythur i’r stori na chwaith digon o gig ar yr asgwrn. Debyg fod hyn yn dibynnu os ydych chi wedi arfer hefo llyfrau di-air (wordless picturebooks). Mae ffans ohonynt yn gwybod eu bod yn gallu bod yn adnoddau defnyddiol, pwerus a hyblyg tu hwnt.


 

Gwasg: Broga

Cyhoeddwyd: Medi 2023

Pris: £12.99

Fformat: Clawr caled (defnydd)

 

12 views0 comments
bottom of page