For English review, see language toggle switch*
(agwrym) oed darllen: 5+
(awgrgym) oed diddordeb: 3-7
Genre: #ffuglen #dwyieithog #empathi
♥Llyfr y Mis i Blant: Medi 2022♥
Dyma stori annwyl am ferch ifanc sy’n llwyddo i wneud un o’r pethau anodda’ sy’n bosib: gwahaniaeth.
Mae Erin yn gweld eira’r gaeaf yn hardd iawn, ond mae hi hefyd yn teimlo’r oerni. Mae hynny oherwydd nad oes gan ei rhieni ddigon o bres i gynhesu’r tŷ. Er nad oes ganddyn nhw lawer, mae digon o gariad yn y tŷ (ac mae hynny’n bwysicach na dim dydi!) Ond, yn anffodus, fel y mae’r teulu’n prysur ddarganfod, tydi cariad ddim yn talu’r biliau, ac mae’n rhaid i’r teulu adael eu cartref a symud i ben arall y ddinas i dŵr o fflatiau.
Mae’r newid yn dipyn o sioc i Erin, ac mae hi’n isel ei hysbryd am hir. Teimla mor anobeithiol - fel ei bod hi’n diflannu o flaen ein llygaid. Dyna pryd mae hi’n sylweddoli ar yr holl bobl eraill anweledig sydd o gwmpas ei chartref newydd.
Yr Anweledig rai
Ond pwy yw’r bobl anweledig yma? Nhw yw’r bobl sydd wedi cael eu gwthio i ymylon ein cymdeithas – y tlawd, yr henoed, mewnfudwyr, y digartref. Unrhyw un sydd ddim yn ‘perthyn’. Cânt eu hanwybyddu a’u hanghofio.
Dyma pam mae syniad Tom Percival o droi’n anweledig yn gweithio mor dda i gyfleu sut ‘da ni methu gweld rhai pethau, neu’n dewis peidio sylwi, neu troi ein cefnau arnynt. Meddyliwch- faint o weithiau ydach chi wedi cerdded heibio person sy’n cysgu o flaen drws siop? Wnaethoch chi stopio i’w gyfarch neu cerdded yn eich blaenau?
Harddwch ymhobman
Er bod ei chartref newydd yn ymddangos yn llwm ar yr arwyneb, llwydda Erin i ddarganfod harddwch ymhobman o’i chwmpas. Penderfyna ei bod hi’n mynd i helpu, felly fe aiff ati i blannu blodau ac i wneud cymwynasau o amgylch y lle.
Mae’r gwaith celf yn arbennig. Dechreua’n oer ac yn llwydaidd, ac fe ddaw’r lliw yn ôl wrth i’r gymuned ddod yn fyw, nes bod y tudalennau olaf yn disgleirio â lliw a chynhesrwydd. Mae ymdrechion Erin i wella ei hardal leol yn heintus, a buan iawn y daw’r gymuned at ei gilydd.
Gwneud gwahaniaeth
Mae neges y llyfr yn bwerus -nid oes raid gwneud pethau mawr, ond mae gweithrediadau bach fel gwneud cymwynas yn gallu cael effaith fawr. Gobeithio y bydd y llyfr yn dangos i blant nad yw arian a chyfoeth yn fesur o’u gwerth, ond fod caredigrwydd a thosturi yn llawer pwysicach.
Profiadau’r awdur
Daw sbardun y stori o brofiadau uniongyrchol yr awdur o orfod byw ar ddim mewn carafán pan oedd yn ifanc. Rhanna ei brofiadau o dlodi mewn nodyn yng nghefn y llyfr. Mae o’n awyddus – ac wedi llwyddo yn fy nhyb i – i dynnu sylw at y rheiny sydd yn llai ffodus na ni yn y gymdeithas, ond sydd ddim llai pwysig.
Yn ôl y Joseph Rowntree Foundation, mae bron i 15 miliwn o oedolion yn byw mewn tlodi yn y DU, gan gynnwys 4.3 miliwn o blant. Gyda chostau a biliau yn cynyddu pob dydd, nid yw hyn yn rhywbeth sy’n mynd i ddiflannu ac mae’n bur debyg y bydd yr anghyfartaledd yn cynyddu. Yn aml rydym ni’n osgoi trafod y peth, efallai oherwydd diffyg dealltwriaeth neu embaras, ond mae’r llyfr yn caniatáu i gychwyn sgwrs, mewn ffordd empathetig, gyda’r plant lleiaf.
Rhaid i ni ddangos cariad a pharch at ein gilydd, gan gynnig cymorth i’r rhai sy’n profi cyfnod anodd– dydach chi byth yn gwybod pryd fyddwch chi angen help llaw eich hun...
Comments