top of page

Ti...You... Emma Dodd [Addas. Eurig Salisbury]

*Scroll down for English*


Mwnci bach sy'n cael ei garu mwy a mwy bob dydd.

A monkey who is loved more and more each day.

Dyma addasiad Eurig Salisbury o You... gan Emma Dodd. Dwi’n falch o weld fod Ti… wedi cael ei gyhoeddi fel llyfr dwyieithog sy’n golygu fod ganddo fwy o apêl i deuluoedd iaith gymysg. O ran llyfrau i blant ifanc, mae Atebol yn cyhoeddi mwy a mwy o lyfrau sydd unai yn llyfrau dwyieithog neu sy’n cynnwys y geiriau Saesneg yng nghefn y llyfr. Syniad da.



Llyfr cynnes, llawn cariad yw hwn sy’n darllen fel rhiant yn siarad â phlentyn gan ddweud wrtho gymaint mae hi’n ei garu. Am ryw reswm fe wnes i gymryd yn ganiataol mai mam oedd yn siarad yma, ond wrth gwrs fe all fod yn dad, yn nain, yn daid, yn warcheidwad neu'n unrhyw aelod o’r teulu mewn gwirionedd.


Mae’n gallu bod yn anodd cyfieithu llyfrau sy’n odli, ond dwi’n meddwl fod Eurig Salisbury wedi gwneud job dda yma. Fe welwch fod y testun Cymraeg yn adlewyrchu’r gwreiddiol ond yn sefyll ar ei draed ei hun hefyd.


O ran edrychiad y llyfr, mae’r lluniau yn drawiadol iawn, ac mae eu symlrwydd yn golygu y bydd hyd yn oed y plant lleiaf yn mwynhau edrych ar y lluniau, hyd yn oed os ydyn nhw’n trio cnoi’r tudalennau o dro i dro! Touch bach neis oedd y gold leaf ar ambell dudalen sy’n gwneud i’r lluniau sefyll allan ac yn gwneud y llyfr ’chydig bach yn fwy arbennig na’r arfer. Edrycha’r tudalennau rheiny’n drawiadol iawn pan gawn nhw eu hadlewyrchu mewn golau ac mae hyn yn ychwanegu at brofiad gweledol a synhwyraidd y llyfr.


ok dydi'r gold effect ddim yn dangos ar y pc... ond mae o yna!

Dyma lyfr da i ddarllen gyda’ch plentyn amser gwely i rannu neges o gariad. Mae’n bosib y bydd rhai yn meddwl nad oes digon o ‘blot’ i’r stori a’i fod braidd yn schmaltzy (ddim yn siŵr sut i esbonio hyn yn Gymraeg... cyfoglyd ella?) ond ar y cyfan, dyma stori sy’n dathlu holl agweddau’r unigolyn, a bod cariad rhwng rhiant a phlentyn yn rhywbeth cwbl ddiamod.


 

This is Eurig Salisbury's adaptation of You... by Emma Dodd. I am pleased to see that Ti/You... has been published as a bilingual book which means that it has greater appeal to mixed language families. In terms of books for young children, Atebol seems to be publishing more books that are either bilingual or contain the English text in the back, which has got to be a good idea.


This is a warm, loving book that reads like a parent talking to a child telling them how much they are loved. For some reason I assumed that it was a mother talking here, but of course it could be a father, grandparent or guardian.


It can be difficult to translate rhyming books, but I think Eurig Salisbury has done a good job here. You will see that the Welsh text reflects the original but also stands on its own two feet.


ok so the gold leaf doesn't show so well on the pc, but its there!

In terms of its appearance, the book contains bold illustrations and their simplicity means that even the youngest toddlers will enjoy looking at the pictures, even if they do try to chew the pages from time to time! The gold leaf on a few pages was a nice little touch that makes the pictures stand out and gives the book that special vibe. Those pages look good when reflected in light and this adds to the visual/sensory experience of the book.


This is a good book to read with your child at bedtime to share a message of love. Some may think there’s not enough 'plot' to the story and it is rather schmaltzy at times, but on the whole, this is a story that celebrates all the aspects of the individual, and shows that the love between parent and child is unconditional.

 

Cyhoeddwr/publisher: Atebol

Cyhoeddwyd/released: 2020

Pris: £6.99

ISBN: 9781913245092

 

bottom of page