top of page
Writer's picturesônamlyfra

Supertaten - Sue Hendra a Paul Linnet (addas. Elin Meek)

*Scroll down for English & comments*


Y Da yn erbyn y drwg - Taten vs Y bysen!

Good vs Evil - potato against the pea!



Genre: ffuglen, doniol / fiction, humour Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◎◎◎

Negeseuon positif/positive messages: ◎◎◎◎ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◉◎◎◎◎ Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◎◎◎


Dyfarniad/Rating: ★★★★☆

 

Dwi wrth fy modd efo’r llyfr yma – Taten (potato) vs Y Bysen!! Mae’r ffordd y mae’r awdur yn rhoi ‘twist’ bywyd go iawn i’r syniad o arch-arwyr (superheroes) yn syniad gwych. Bydd plant ifanc yn deall y syniad o da vs drwg yn syth! Mae ‘na hanner ohonof i’n teimlo bechod dros y bysen druan, sy’n hollol demonized!



Y stori’n syml – mae un o fwydydd y rhewgell wedi dianc o’r oerni ac wedi dechrau creu difrod o amgylch y siop! Mae’n rhaid i’r arwr, Supertaten geisio achub y dydd rhag direidi Y Bysen! Stori syml da yn erbyn y drwg gyda digon o hwyl i’w gael wrth i’r daten geisio rhoi stop ar yr helynt! Roedd y ffaith fod y bysen wedi dechrau ymladd yn ôl gyda stwnsiwr (sy’n beryg bywyd i daten, wrth gwrs) yn hileriys! Rhywbeth bach arall i’w nodi yw mai merch yw Supertaten a dwi’n meddwl fod hyn yn eithaf gwahanol.


Fish singer security guards!!!

Mae hwn yn stori entertaining iawn, sy’n sicr yn mynd i fod o ddefnydd i athrawon. Byddai’n berffaith yn nosbarthiadau’r cyfnod sylfaen fel rhan o uned o waith ar fwyd a/neu bwyta’n iach.

Rhai tasgau posib oddi ar top fy mhen:


· Celf – creu arch arwr newydd llysieuol – pwyso llysiau go iawn efo paent.

· Gwyddoniaeth – trafod yr ‘eatwell plate’ a’r 5-y-dydd!

· Coginio – Creu bwydydd amrywiol iachus

· Iaith – Creu dilyniant i’r stori (bwrdd stori) neu diweddglo newydd.



Mae gwaith arlunio Paul Linnet yn hynod o lliwgar, gan ddefnyddio lliwiau sylfaenol ac ddim yn rhy annhebyg i gomig (sy’n gweddu’r thema o arwyr a dihirod i’r dim). Mae digon o gyfleoedd addysgu â all ddeillio o’r llyfr ond yn fwy na hyn, mae’n lyfr doniol y gall blant ifanc ei fwynhau fel ac y mae (hynny yw, ei ddarllen er pleser yn unig!) Mi fyddwn yn tybio y byddai gwen ar wyneb unrhyw oedolyn â fyddai’n ei ddarllen hefyd. Efallai fod yr addasiad wedi cael ei frysio mymryn a byddai mwy o fireinio wedi bod o fudd. Er enghraifft, mae 'na gamgymeriad gramadegol ar y dudalen gyntaf. Efallai fod fersiwn newydd 2019 wedi cywiro hyn... Fe fyddwch yn hapus i wybod fod na fwy o lyfrau yn y gyfres yma! Addas ar gyfer y cyfnod sylfaen isaf. (meithrin a derbyn) Gallwch gyfri ar y dudalen olaf sawl pysen sydd yna!


Efallai fod Supertaten wedi achub y dydd a wedi gyrru’r bysen yn ôl i fyd y rhewgell am y tro, ond i mi, mae pys yn dal i fod yn ych-a fi! Rhowch i mi sweetcorn unrhyw ddiwrnod!

 

I love this book – Taten (potato) vs The Frozen Pea!! Giving a real life ' twist ' to the age-old idea of superheroes is a great idea. Young children will understand the idea of good vs evil straight away! Half of me feels sorry for the poor pea – he’s been totally demonized!



The story is simple – one of the frozen foods has escaped from the icy cold and has gone on a rampage around the shop causing all sorts of havoc and mischief! This is our bad guy – The Pea. Who’s trying to save the day? None other than Supertaten-(supertato), the ' goodie '! There’s plenty of fun to be had as our loveable plump superhero tries to put a stop to the trouble! The bit where the pea chases the potato with a masher is really funny (naturally, a masher would be a spud’s worse nightmare!) Just thought I’d also point out that our superhero, is in fact a she – this is a refreshing change.


This is a very entertaining story, which is certainly going to be of use to teachers. It would be perfect in the foundation phase classes as part of a unit of work on food and/or healthy eating.

Some possible tasks off top of my head:


1. Art – Creating a new veg based superhero – using real vegetable stamps with paint.

2. Science – Discuss the Eatwell plate and the 5-day!

3. Cooking – creating healthy, varied foods

4. Language – Create a follow-up to the story (storyboard) or an alternative ending.



Paul Linnet's drawing work is remarkably colourful, using the primary colours to give an effect which is not too dissimilar to comics (which fits in with the whole theme of heroes and villains). There are plenty of teaching opportunities that can be derived from the book but more than this, it is just a straight-up funny book that young children can enjoy as it is. I reckon there will be a smile on the face of any adult who ends up reading it too! You’ll be happy to know that there are more books in this series! Suitable for the early years foundation phase. (Nursery and Reception) You can even count on the last page how many little peas are hiding!


Supertaten may have saved the day and driven the Pea back to the freezer, but for me, peas are still gross!! Give me sweetcorn any day!


 

Cyhoeddwyd/released: 2016, 2020

Gwasg/publisher: Dref Wen

Pris: £5.99

 

57 views0 comments

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page