top of page

Straeon Nos Da Sali Mali - Amrywiol/Various

*Scroll down for English & Comments*


Llyfr i ddathlu pen-blwydd Sali Mali yn 50!

Book celebrating Sali Mali's 50th Birthday!



Genre: straeon byrion/short stories

Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◎

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◉◎

Themau trist,anodd/upsetting,tough themes: ◎◎◎◎◎

Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎

Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎

Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎

Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◎◎◎

Dyfarniad/verdict: ★ ★ ★ ★ ☆

 

Adolygiad gan/review by: Mererid Haf Roberts


Mae’r rhestr o awduron sydd wedi cyfrannu at y gyfrol hon yn amrywiol iawn, o Mererid Hopwood i Tudur Owen, o Eigra Lewis Roberts i Rhys Ifans, a llawer mwy. Ac mae gweld yr enwau cyfarwydd ar y clawr yn denu oedolion at y gyfrol yn sicr, gan wneud hwn yn anrheg berffaith i blant a'u teuluoedd.



A beth am ddechrau gyda’r clawr? Mae’n wahanol i’r arfer am ei fod yn glawr realiti estynedig (augmented reality), sy’n golygu bod golygfa fach wedi ei hanimeiddio yn ymddangos pan fyddwch chi’n sganio’r clawr ar eich ffôn neu dabled trwy ap o’r enw Zappar – am ddechrau gwych i blant bach, cael gweld Sali Mali a Jac Do, cymeriadau hoffus a chyfarwydd, cyn agor y llyfr a darllen yr un gair, hyd yn oed! Ac er nad oes modd rhyngweithio â nhw, mae’n ychwanegiad bach difyr a deniadol i’r gyfrol.

Rhwng y ddau glawr ceir amrywiaeth o straeon sydd yn wahanol yn eu harddull i’r llyfrau Sali Mali gwreiddiol a thraddodiadol, gan mai straeon i’w darllen i blant bach ydi’r rhain, yn hytrach na llyfrau i blant ddechrau dysgu darllen ar eu pen eu hunain. Serch hynny, mae hanfodion y cymeriadau rydyn ni wedi dod i’w hadnabod a’u caru’r un peth: Jac y Jwc a’i droeon trwstan ond â chalon fawr, Sali Mali drefnus a charedig, y Pry Bach Tew drygionus, ac mae’r criw i gyd yn ymddangos yn eu tro.



Wrth gwrs, gall plant hŷn a darllenwyr iau hyderus ddarllen y rhain, ond teimlaf efallai fod rhai o'r straeon yn rhy syml neu'n blentynnaidd iddyn nhw, o bosib. Fel sy’n nodweddiadol o straeon i blant bach, mae neges syml i bob stori unigol wrth iddyn nhw drafod themâu megis cyfeillgarwch, caredigrwydd, dewrder a chydweithio. Roeddwn i’n falch iawn bod hiwmor yn elfen amlwg yn y rhan fwyaf o’r straeon hefyd, a chredaf y bydd plant yn mwynhau’r sefyllfaoedd sy’n codi ac yn chwerthin yn uchel ar rai o’r straeon.

Fy hoff straeon i oedd 'Swigod a Sgorio' gan Gruffudd Owen, 'Y Picnic' gan Elen Pencwm, 'Triciau’r Pry Bach Tew' gan Bethan Gwanas ac 'Anrheg Jac y Jwc' gan Aneirin Karadog. Ond mae yma ddigon o amrywiaeth gan lu o awduron gwych, a bydd gan bob aelod o’r teulu ei ffefryn, yn bendant!



Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

 

The list of contributing authors is vast, from Mererid Hopwood to Tudur Owen, from Eigra Lewis Roberts to Rhys Ifans, and much more. Seeing familiar, well known names will surely appeal to adults who will be buying. It makes it a perfect gift for children and their families.


How about starting with the cover? It's different to the usual because it contains augmented reality, which means an animated scene can be displayed as you scan it with your phone or tablet using the free Zappar app. What a great start to see all the favourite characters brought to life before even opening and reading a word! Despite not being able to interact with them, it's an interesting and attractive little bonus.


Between the two covers you get a variety of stories that are different in style to the original and traditional Sali Mali tales. This is because these stories are for young children, and not necessarily 'learning to read independently' resources. The things we know and love are present: Jac y Jwc and his clumsiness but big heart, the organized yet kind Sali Mali, the mischievous Pry Bach Tew. The whole crew turns up eventually!

Of course, older children and more confident younger children can enjoy these, but perhaps some of the tales are too simple and childish for older readers. As is expected in stories for young children, each tale has a simple moral message as they discuss themes like friendship, kindness, bravery and cooperation. I was pleased that humour is employed in most of the stories, and I believe that kids will enjoy some of the situations that arise and will be laughing out loud!

My favourites were 'Swigod a Sgorio' by Gruffudd Owen, 'Y Picnic' by Elen Pencwm, 'Triciau’r Pry Bach Tew' by Bethan Gwanas and 'Anrheg Jac y Jwc' by Aneirin Karadog. There's plenty of variety by the brilliant authors and each member of the family will have their own favourite stories for sure!


A review from www.gwales.com, with the permission of the Books Council of Wales.

 

Gwasg/publisher: Gomer

Cyhoeddwyd/released: 2019

Pris: £12.99

34 views0 comments
bottom of page