top of page

Pysgodyn y Tasgu - Dref Wen

*Scroll down for English & comments*


Llyfr gwrth-ddŵr gyda thasgwr!

Waterproof book with built-in squirter!

Pris: £5.99

Cyhoeddwyd/released: 2019


Ar gael:



 

Ydych chi’n chwilio am ffordd i wneud amser bath yn fwy o hwyl a llai o strach?


Os felly, wel hwn yw’r llyfr perffaith i chi a’ch baban.

Dyma lyfr llawn lluniau lliwgar o hoff greaduriaid y môr sy’n denu sylw plant ifanc iawn. Mae yna fymryn o odl a stori fer hefyd i chi ddarllen i’ch plentyn. Pwy fasa’n meddwl fod amser bath yn gallu bod yn addysgiadol ac yn hwyl ar yr un pryd?

Mae’n holl bwysig cael plant ifanc iawn (babis hyd yn oed) i arfer gyda llyfrau. Does dim yn bod gyda jest troi tudalennau, gafael mewn llyfr neu hyd yn oed ei gnoi! Y peth pwysig yw eu bod yn arfer gweld llyfrau o’u cwmpas. Mae’r llyfr yma’n ideal achos mae’r defnydd plastig gwydn yn sicr o oroesi cael ei drochi ym mybls y bath - mae o’n 100% waterproof. Mi allwch ei sychu gyda chadach yn rhwydd i’w gadw’n lân.


Y prif beth sy’n gwneud y llyfr yma’n gymaint o hwyl yw’r ‘built-in squirter’ neu’r tasgwr yn Gymraeg. Mi fydd ‘na ddigon o hwyl i’w gadael yn sblasio yn y bath - digon i ddiddanu eich plentyn. Bonws yw bod y llyfr yn ddwyieithog felly fe gewch chi ymarfer yr iaith a bydd eich plentyn yn clywed y Gymraeg o’r crud.

Mae’r llyfr yma’n cael marciau llawn gan rieni sydd wedi ei ddefnyddio!

Mae 'na un arall yn y gyfres hefyd...



 

Are you looking for a way to make bath time more fun and less stressful?

If so, well this is the perfect book for you and your baby.

We have here a book full of colourful pictures of our favourite sea creatures that attracts and keeps the attention of very young children. There’s also a bit of light rhyme too and a short story for you to read to your child. Who’d have thought bath time could be so educational and fun at the same time?


It’s vital that very young children (even babies) get used to books. There's nothing wrong with simply turning pages, holding a book or even giving it a chew! The important thing is that they get used to seeing books around them – even before they start properly reading. This book is ideal because the durable plastic material is sure to withstand being immersed in bathwater – yes, it’s 100% waterproof. You can even wipe it with a cloth to keep it clean.

The main attraction with this book is definitely the built-in squirter. Bath time will be plenty of fun and should keep your little one entertained. An added bonus with the book is that it’s bilingual so you can practice your Welsh and your child will get used to hearing Welsh from the cradle.

This book gets full marks from parents who have used it! Plenty of giggles to be had.

If you liked this one, there's another book in the series…



 

18 views0 comments
bottom of page