(awgrym) oed diddordeb: 3+
(awgrym) oed darllen: 7+
Lluniau: Valériane Leblond https://www.valeriane-leblond.eu/home.html
Bob blwyddyn mae sawl llyfr Nadolig yn ymddangos, ond hwn yw’r un sydd wedi tynnu fy sylw eleni, ac mae’n un o’r rheiny fedrwch chi fynd yn ôl ato dro ar ôl tro, blwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn sicr mae’n un i’w gadw.
Yntydi o’n llyfr hardd? Mae o’n haeddu bod ar ffurf clawr caled. Mae’r bartneriaeth rhwng Caryl Lewis (awdur) a Valériane Leblond (darlunydd) wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol, gan roi i ni berlau fel Sgleinio'r Lleuad a Merch y Mêl. Mae rhywun yn gallu adnabod steil Valériane yn syth, ac mae paru ei lluniau â geiriau Caryl yn gweithio’n dda iawn. Dwi’n hoffi’r cyferbyniad clir rhwng oerni’r nos a chynhesrwydd tŷ Mari/Mrs Cloch. Mae’r Nadolig gwyn ar y clawr yn rhoi delwedd o Nadolig traddodiadol, hen ffasiwn - fel sut mae rhywun yn dychmygu sut oedd ‘Dolig ers sdalwm. Dwi’n dal i groesi bysedd gawn ni ‘Ddolig gwyn rhywbryd, ond dwi wedi bod yn gwneud hynny ers 2010!
Yn brysur yn pobi mins peis ar noswyl Nadolig mae Mari a’i Mam, ac wrth i’r ferch fach syllu drwy'r ffenest, mai’n sylwi ar fwthyn bach rhyfedd iawn drws nesaf, gyda waliau igam-ogam, to whimil-whamal a ffenestri wili-nili! (Dwi wrth fy modd gyda’r holl ansoddeiriau bendigedig ‘ma – gawn ni ddefnyddio nhw’n fwy aml plîs?)
Mae hen ddynes, Mrs Cloch, yn byw yn y tŷ, ond dydi Mari ‘rioed wedi gweld neb yn galw yno i’w gweld. Gyda’r tŷ bach yn edrych yn unig ac mewn tywyllwch, mae hyn yn llenwi’r ferch fach â thristwch. Mae hyn yn thema berthnasol iawn yn yr oes sydd ohoni. Faint ohona ni sy’n gallu deud bod ni’n nabod ein cymdogion? Fyddwch chi’n galw heibio yna dros y Nadolig? Dwi’n cyfri fy hun yn hynod o lwcus fod gen i deulu o fy nghwmpas, a’n bod ni gyd yn dod at ein gilydd dros yr ŵyl. Ond tydi pawb ddim yn cael yr un fraint, a dwi’n siŵr y bydd nifer yn unig dros y Nadolig, yn enwedig ymysg yr henoed.
O ran y stori, dwi’m cweit yn siŵr os dwi’n credu’r syniad y byddai plentyn mor ifanc yn cael mynd allan i’r nos ar ben eu hunain gan ei rieni, ond dwi’n deall fod hyn yn bwysig ar gyfer y naratif felly dwi’n fodlon anghofio am hyn!
Pan mae Mari’n cyrraedd y bwthyn, a hithau’n oer ac yn dywyll tu allan, mae hi’n cael y croeso mwyaf gan Mrs Cloch, sy’n hynod falch o’i gweld. Dwi’n meddwl hynny am fy Nain a Taid fy hun weithiau. Gyda'r dyddiau’n gallu bod yn hir a diflas yn y tŷ drwy’r dydd, mae cael cwmni ni’r wyrion/wyresau yn llonni eu diwrnod. Ac wrth i mi fynd yn hŷn, nid yr anrhegion sy’n bwysig i mi bellach, ond treulio amser hefo’r bobl fwyaf pwysig yn fy mywyd.
Wrth i Mrs Cloch fwynhau cwmnïaeth y ferch fach, a Mari’n mwynhau cael helpu i addurno, disgwyl maen nhw am ymweliad gan fab Mrs Cloch. Pwy all hwnnw fod tybed? Wel, mae o’n hwyr yn cyrraedd – a hynny am ei fod o’n brysur iawn yn ei waith ar Noswyl Nadolig, ac yn gorfod gwneud dipyn o deithio! You work it out!
Mae ‘na dipyn o lyfrau Nadolig i blant yn cael eu rhyddhau bob blwyddyn, ac mae Mari a Mrs Cloch ymysg y goreuon. I mi, neges amlwg y stori yw carwch eich cymydog, a byddwch garedig. Os ydych chi’n gwybod am rywun sy’n fregus, yn fethedig, neu’n unig, ewch draw i’w gweld o dro i dro, yn enwedig adeg Y Nadolig. Bydd eich cwmpeini yn ddigon dwi’n siŵr – ond fasa mins pei deu ddwy yn syniad da hefyd!
Credaf fod gan hwn y potensial i ddod yn un o’r clasuron Nadoligaidd, fatha The Snowman gan Raymond Brigg yn Saesneg. Mi gaiff le ar y silff yn Sôn am Lyfra HQ am flynyddoedd i ddod, a dwi’n edrych ymlaen at ei rannu gyda fy mab mewn ychydig flynyddoedd.
Nodyn:
Y dyddiad wrth i mi bostio’r adolygiad yma ydi Ionawr 15 (nes i anghofio gwneud cyn ‘Dolig! Wps) – efallai fod Dolig 2023 wedi hen fynd a dod, ond cofiwch tydi hi byth rhy fuan i ddechrau prynu llyfrau Nadolig. Bachwch gopi ar gyfer ‘Dolig nesaf!
Comments