top of page

Mae ein tŷ ni ar dân - Jeanette Winter (addas. Elin Meek)

*Scroll down for English & comments*


Cri Greta Thunberg i achub y blaned,

Greta Thunberg's call to save the planet.


♥♥Llyfr y Mis i Blant Mawrth 2020♥♥

♥♥Children's Book of the Month March 2020♥♥

Genre: ffeithiol, amgylcheddol / non-fiction, environmental

Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◎

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◎◎

Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◉◎◎◎

Trais, ofn/violence, scary: ◉◉◎◎

Iaith gref/language: ◎◎◎◎

Rhyw/sex: ◎◎◎◎

Hiwmor/humour: ◎◎◎◎◎

Her darllen/reading difficulty::◎◎

Dyfarniad/Rating: ★★★☆☆

 

Cyn i’r pandemig coronafeirws ’ma sgubo ar draws y byd, yr amgylchedd oedd y pwnc llosg mawr dan sylw, a does neb wedi codi cymaint o ymwybyddiaeth ohono ymysg pobl ifanc â Greta Thunberg. Mae Greta, 17, sy’n wreiddiol o Sweden, yn enwog am ei barn gref am yr argyfwng amgylcheddol sy’n wynebu ein byd. Tynna sylw cyson at y pwnc, drwy areithiau cyhoeddus ac ymgyrchoedd, gan feirniadu nifer o arweinwyr y byd (fel Donald Trump) am eu diffyg gweithredu. Yn dilyn un o’i phrotestiadau, trefnwyd ‘Streiciau Ysgol Dros yr Amgylchedd’ ledled y byd gan bobl ifanc angerddol. Dangosodd hyn i’r byd fod pobl ifanc yn barod i leisio’u barn ac na ellir eu hanwybyddu.



Gan ei bod hi mor adnabyddus ac mor ddylanwadol, does dim rhyfedd fod llyfr wedi’i seilio arni. Mae hi’n amlwg wedi taro nodyn gyda nifer o bobl a dywedodd Jeanette Winter, yr awdur: “pan glywais i ei hareithiau hi, ro’n i’n teimlo bod Greta’n siarad drosta i. Ac rwy’n wyth deg oed.”



Adrodda’r llyfr hanes siwrne Greta. Trafoda sut yr oedd yn teimlo fel merch ‘anweledig’ yn yr ysgol - cyfnod eithaf anhapus yn ei bywyd. Bellach, rydym yn deall fod gan Greta ddiagnosis o Aspergers Syndrome, cyflwr a achosodd cryn drafferth iddi yn ystod ei phlentyndod. Roedd hi’n cael cyfnodau digalon gyda phyliau o iselder, ac arweiniodd hyn ati’n peidio â bwyta rhyw lawer. Mae Greta eisoes wedi siarad yn gyhoeddus am ei chyflwr, gan gyfaddef “ei fod o’n ei gwneud hi'n wahanol,” ond ei bod hi’n ystyried y peth fel “superpower.” Mae Greta’n esiampl dda o rywun sydd heb adael i'r ffaith eu bod nhw fymryn yn wahanol gyfyngu ar eu potensial i lwyddo.


Yn ogystal â hanes Greta, trafoda’r llyfr nifer o’r argyfyngau amgylcheddol sy’n effeithio ar ein byd fel llifogydd, tannau coedwig, diffeithdiro a llygredd ymysg eraill. Er bod y llyfr yn trafod hyn mewn ffordd sensitif, dwi’n credu y byddai rhai darnau’n anaddas i blant ifanc y Cyfnod Sylfaen. Yn wreiddiol, nodwyd fod y llyfr yn addas i blant 3-8 oed, ond teimlaf y byddai rhai rhannau yn peri gofid a chynnwrf i blant ifanc e.e. anifeiliaid yn brwydro i aros yn fyw. Mae gan y teitl ei hun (er yn drawiadol) y potensial i greu pryder diangen. Yng ngeiriau Greta ei hun: “dwi eisiau i chi gael panig. Dwi eisiau i chi deimlo’r ofn.”



Dwi ddim yn credu y byddai plant hŷn yn cymryd y neges mor llythrennol felly byddai’r llyfr yn fwy addas i blant yng Nghyfnod Allweddol 2. Sonia’r llyfr am danwydd ffosil a phrotestiadau gan blant a byddai hyn yn fan cychwyn da ar gyfer tasgau trafodaeth mewn uned o waith daearyddol/amgylcheddol/thematig. Mae’n sicr yn llyfr y dylid ystyried ei ddarllen gydag oedolyn, gan ei fod yn siŵr o arwain at fwy o gwestiynau.


Yn ôl y llyfr, un o athrawon Greta a daniodd ei hangerdd a’i brwdfrydedd am yr amgylchedd – prawf fod gwersi diddorol, effeithiol yn gallu tanio dychymyg ac ennyn chwilfrydedd pobl ifanc. Prif neges y llyfr yw bod rhaid gweithredu dros yr amgylchedd, ac os nad yw oedolion am wneud hynny, mae plant a phobl ifanc yn barod iawn i gymryd yr awenau.


Gorffenna’r llyfr gyda her i’r darllenydd: “Be wnei di nawr?”


Cwestiwn da iawn.


 

Before this coronavirus pandemic swept across the world, apart from Brexit, the environment was probably the other hot topic, and no-one has raised so much awareness of it among young people as Greta Thunberg. Greta, 17, originally from Sweden, is renowned for her strong views on the environmental crisis facing our world. She draws constant attention to the subject, through public speeches and campaigns, criticizing several world leaders (such as Donald Trump) for their inaction. Following one of her protests, “school strikes for the environment" were organized around the world by passionate young people. This showed the world that young people are willing to voice their opinions and cannot be overlooked.



This book recounts Greta’s journey to fame, so far. It discusses how she felt like an ' invisible ' girl in school- quite an unhappy time in her life. We now understand that Greta has a diagnosis of Aspergers syndrome, a condition that caused her considerable issues during her childhood. She had periods of depression which led to her not eating much. Greta has already spoken publicly about her condition, admitting that although it makes her different, she considers it a "superpower." Greta is a good example of someone who has not let the fact that they are slightly different limit their potential for success.



As well as Greta’s story, the book discusses many of the environmental crises affecting our world such as floods, forest fires, desertification and pollution amongst others. Although the book discusses these sensitively, I think some bits would be unsuitable for young children in the foundation phase. Originally, it was noted that the book was suitable for children aged 3-8, but I feel that some areas would be distressing and upsetting for young children e.g. animals struggling to stay alive. The title itself (though impactful) has the potential to create unnecessary anxiety. In Greta's own words: "I want you to panic. I want you to feel the fear. "


I don't think older children would take the message quite so literally therefore the book would be more suitable for children in Key Stage 2. The book mentions fossil fuels and child protests and this would be a good starting point for discussion tasks in an unit of geographical/environmental/thematic work. It is certainly a book that should be considered for reading with an adult, as it is bound to lead to more questions.


According to the book, it was one of Greta's teachers who fostered her enthusiasm for the environment – proof that interesting, effective lessons can ignite passion in young people. The book’s main message is that we must act to save the environment, and if adults aren’t willing to do so, children and young people will happily take the lead.


The book finishes with a provocative challenge: "What will you do now?”


A very good question.


 

Gwasg/publisher: Rily

Cyhoeddwyd/released: 2020

Pris: £6.99

 

85 views0 comments
bottom of page