*Scroll down for English*
Allwch chi drechu'r feirws felltith?
Are you going to be a hand washing hero?
Oed diddordeb/interest age: 1+
Oed darllen/reading age: 5/6+
Lluniau/illustrations: Kasia Dudziuk
Os oes ’na ddau ddywediad fydd yn aros yn y cof yn dilyn y flwyddyn ddiwethaf, “cofia dy fasg,” a “golcha dy ddwylo,” ydi’r rheiny! Yn sicr, rydan ni wedi cael dipyn o wake up call am ein harferion hylendid personol, ac wedi cael ein hatgoffa o ba mor bwysig ydi gweithred syml fel golchi’n dwylo’n iawn (sy’n fwy o sgil nag ydach chi’n feddwl!).
Dyma lyfr lliwgar a hwyliog fydd yn dysgu’r plant lleiaf i gadw eu hunain ac eraill yn saff drwy fod yn archarwyr golchi dwylo!
’Da ni gyd yn cymryd golchi dwylo yn ganiataol braidd, a dwi’n euog fy hun weithiau o fod yn frysiog a jest eu sticio nhw o dan y tap am gwpwl o eiliadau. Na. Na. Na! Mae’r llyfr hwn yn ein hatgoffa o’r camau sydd angen eu cymryd i wneud y dasg yn iawn, sydd hefyd yn dilyn canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. Oeddech chi’n gwybod fod 20 eiliad o olchi’n drwyadl yn well na 2 funud o’i wneud yn anghywir?
Rhywbeth unigryw yr oeddwn i’n ei hoffi am y llyfr ydi’r feirws anferth sydd ar y clawr. Drwy ddarllen y llyfr a dilyn y camau, gall y darllenydd weld y feirws yn lleihau ac yn diflannu. Mae’r ffaith fod y feirws yn cael ei bortreadu fel ‘y baddie’ sydd angen ei drechu yn ychwanegu elfen o hwyl at y darllen, sy’n siŵr o apelio at ddarllenwyr iau.
Bydd y llyfr yma’n hynod o ddefnyddiol yn y cartref yn ogystal â’r ysgol, ac mae digonedd o gyfleoedd i wneud y darllen yn rhyngweithiol, wrth i un person ddarllen a phawb arall efelychu’r symudiadau a dysgu’r grefft o olchi dwylo’n iawn. Allwch chi gael gwared â phob gronyn o’r feirws felltith?
Dyma lyfr dwyieithog cardfwrdd cadarn sydd â negeseuon pwysig iawn nid yn unig ar gyfer pandemig byd eang, ond ar gyfer unrhyw adeg.
Gwyliwch y fideo yma sy’n dangos arbrawf gyda golau uwchfioled (dim trio eich dychryn ydi’r nod, ond eich cael i sylweddoli pa mor bwysig ydi’r wybodaeth sydd yn y llyfr yma!):
If there’s two things that have been drilled into me this year, that’s "remember your mask," and "wash your hands!” I think we’ve all had a bit of a wake-up call about our personal hygiene habits, and perhaps a bit of a reminder about the importance of washing our hands properly (which take a bit more skill than you think!)
This colourful and fun book that will teach the smallest of children to keep themselves and others safe by being hand-washing, bug-busting superheroes!
We all take hand washing a little bit for granted. You do it almost without thinking and tend to trust that other people have done the same. To be honest, pre-pandemic, I was probably guilty myself of rushing about, just sticking them under the tap for a few seconds and hoping for the best. No. No. No! This book reminds us all of the steps that need to be taken to do it properly, in line with World Health Organisation guidelines. For instance, did you know that 20 seconds of correct and thorough washing is better than 2 minutes of doing it wrong?
Something that was unique about this book is the huge cut-out virus on the cover and throughout the book. Whilst reading and following the instructions, the reader can visibly see the virus shrinking before disappearing altogether. The portrayal of the virus as ‘the baddie’ in need of defeating brings an element of fun to the reading experience, which is bound to appeal to younger readers.
This book will be extremely useful at home as well as school, and there are plenty of opportunities to make the reading interactive, with one person reading and everyone else copying the movements. Will you be able to blast away that pesky virus?
This bilingual boardbook contains lots of handwashing tips that are useful for everyday life, not just during a pandemic.
Watch this video which shows an experiment using ultraviolet light (the aim is not to try to scare you, but get you to realise how important the information in this book is!)
Comments