top of page

Llyfr adar mawr y plant - Onwy Gower

Updated: Mar 30, 2020

*Scroll down for English & comments*


Llyfr adar lliwgar i blant!

Colourful bird book for children!


♥♥Llyfr y Mis Chwefror- February Book of the Month♥♥

✦✦Cymraeg gwreiddiol - Welsh Original ✦✦



Genre: ffeithiol, natur / factual, nature

Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◎

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◎◎◎

Themau trist,anodd/upsetting,tough themes: ◎◎◎◎◎

Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎

Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎

Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎

Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◎◎

Dyfarniad/verdict: ★ ★ ★ ★ ☆

 

Yr hen lyfr adar - bach yn ddiflas erbyn rwan!

Hwn yw’r llyfr mae PAWB wedi bod yn siarad amdano’n ddiweddar! Llyfr adar mawr y plant gan Onwy Gower. Dyma lyfr arbennig nid yn unig am y ffaith mai hwn yw’r un cyntaf o’i fath ar gyfer plant yn y Gymraeg ers blynyddoedd, ond hefyd achos fod yr awdur yn blentyn ei hun!

Mi oedd na lyfr tebyg gan GCG yn y 90au - ond roedd hi'n hen bryd i gael un newydd! (llun chwith)



Mae ‘na dudalen ddwbl ar gyfer 50, ia, 50 o adar sydd i’w gweld yng Nghymru ac mae pob un yn cynnwys ffotograffau a ffeithiau diddorol. Crëwyd y lluniau adar yn arbennig ar gyfer y gyfrol hon. Mewn sawl ffordd, mae’r llyfr yn debyg iawn i Lyfr Adar Iolo Williams,ond mae hwn yn llawer mwy deniadol ac addas i blant. Mae’r ffeithiau diddorol hawdd-i’w-deall yn cynnwys disgrifiadau, gwybodaeth am eu maint, eu cynefin a’u bwyd. Ffordd syml a gweledol o ddangos pryd mae’r adar i’w gweld o amgylch ein gwlad oedd cynnwys mis-o-metr ar gyfer pob un.



Dwi’n hoff iawn o’r ‘Ffaith Ffab!’ sy’n dewis un ffaith ddiddorol i gael sylw ychwanegol ar y dudalen. Er enghraifft, oeddech chi’n gwybod fod y Brenin Siôr V a’i fêts wedi torri record drwy saethu 3,937 o ffesantod... mewn un diwrnod!! Ffaith hynod o ddiddorol i ni, ond ddim mor dda i’r ffesantod druan! I'r rhai ohonoch sy’n hoffi barddoniaeth, mae Onwy wedi dewis cerddi byr i gyd-fynd â’r adar. Mae’r holl eiriau a lluniau ar y tudalennau’n rhoi i ni lyfr hynod o ddiddorol a fydd yn cadw naturiaethwyr brwd yn brysur am hir! Gallaf weld y llyfr yma’n cael ei ddefnyddio’n ymarferol wrth fynd allan gyda’r binocs a’r clipfwrdd i chwilio am adar! Sgwn i p'run yw’r mwyaf cyffredin neu’r mwyaf prin?



Mewn cyfnod lle mae enwau Saesneg yn cymryd drosodd ac yn ailosod ein termau Cymraeg hardd, mae’n bwysicach nac erioed cael adnodd sy’n ein haddysgu a’n hatgoffa o’r enwau gwych Cymraeg sydd i’w cael. Yn bersonol, dwi wrth fy modd gyda’r enw Sigl-di-gwt! Am un da! Wedi dweud hyn, dwi’n andros o falch fod yr enwau Saesneg yn cael eu cynnwys hefyd, fydd yn gwneud hi’n llawer haws i rai darllenwyr adnabod yr adar. Mae hefyd ystyriaeth i ddysgwyr (dwi’n falch o weld) gan iddo gynnwys rhestr eirfa yng nghefn y llyfr.


Mae’r llyfr ei hun yn derbyn sêl bendith neb arall ond Iolo Williams, un o arwyr byd natur Cymru gan iddo ‘sgwennu rhagair hyfryd ar ei gyfer. Roeddwn yn falch o weld fod y llyfr wedi cael ei argraffu ar bapur o goedwigoedd cynaliadwy – touch bach neis. Mae’n anhygoel i feddwl fod yr awdur mor ifanc, ac wedi clywed Onwy’n siarad yn dda ar raglenni megis ‘Heno’ ar S4C, dwi’n gallu gweld ei bod hi’n angerddol iawn dros amddiffyn a hyrwyddo bywyd gwyllt Cymru.


O ganlyniad i waith caled y wasg a’r awdur, rydym wedi cael adnodd hardd a gwerthfawr yn y Gymraeg. Dylai pob ysgol yng Nghymru gael copi o’r llyfr yma, gan fod 'na bosibiliadau lu gyda hwn. Gallai sawl tasg ddeillio o’r llyfr, gan gynnwys gwaith llythrennedd ysgrifennu cerddi am adar, neu hyd yn oed gwaith rhifedd trin data drwy wneud graffiau amlder. Beth am drip teuluol i safle RSPB?


Yn ogystal â gwerthu pob un copi ar ei rediad gyntaf, mae’r llyfr hefyd wedi bod yn Llyfr y Mis, mis Chwefror. Dwi’n gwybod y bydd hwn yn boblogaidd am flynyddoedd i ddod.


Onwy on S4C's 'Heno

 

This is the book EVERYONE’S been talking about lately! Llyfr Mawr Adar y Plant by Onwy Gower. This is a special book not only due to the fact that this is the first book about birds for children in Welsh since the 90s, but also because the author is a child herself! The old one, published by GCG was in need of an update!



There’s a double page spread for 50, yes, 50 birds that can be found throughout Wales and each one contains photographs and interesting facts. The bird illustrations were created especially for this volume. In many ways, the book is similar to Iolo Williams's book, but this is child-friendlier. The easy-to-understand facts include descriptions, information about their size, habitat and food. We also get a simple and visual way of showing when the birds are generally to be seen with the inclusion of a month-o-meter.


I like the ‘Fab Facts!' bit which gives one interesting fact for each bird a bit of special attention. For example, did you know that King George V and his mates once broke a record by shooting 3,937 Pheasants... In one day!? A fascinating fact no doubt, but not so good for the poor pheasants! For those of you who love poetry, Onwy has selected short poems to accompany each bird. All the words and pictures give us a fascinating book that will keep keen nature lovers busy for long! I can see this book being taken outside with the binoculars and clipboard birdwatching! I wonder which bird is the most common and which is the rarest?



At a time when English names are taking over and replacing our beautiful Welsh terms, it is more important than ever to have a resource that teaches and reminds us of the wonderful Welsh names. Personally, I love the name Sigl-di-gwt! Having said this, I am very pleased that the English names are also included, which will make it easier for some readers to identify the birds. There is also consideration for learners as it includes a glossary at the back of the book.


The book itself has the blessing of none other than Welsh wildlife legend, Iolo Williams, who writes a fitting foreword. I was pleased to see that the book had been printed on paper sourced from sustainable forests – a nice touch. It's incredible to think the author’s so young, and having heard her talk so well recently on various programs such as 'Heno' (S4C’s version of The One Show), I can see that she is very passionate about protecting and promoting Welsh wildlife.


The hard work of the author and publisher clearly pays off and what we get is a beautiful, valuable and useful Welsh resource. Every school in Wales should have a copy of this book. Several tasks could result from the book, including literacy work bird poetry writing or even some numeracy data collection work. You could even work in some family outings to various RSPB reserves.

As well as selling every single copy during its first print run, the book has also been named February’s Book of the Month. I know this will be a popular one for years to come.


Onwy talking about her new book

 

Gwasg/publisher: Y Lolfa

Cyhoeddwyd/released: 2019

Pris: £7.99


125 views0 comments
bottom of page