top of page

Gall Merched Wneud Popeth - Caryl Hart/Ali Pye [Addas. Mari George]

*Scroll down for English*


Mae 'na ferched o bob math - a gallen nhw wneud unrhywbeth!

There are all kind of girls- and they can do anything!


♥Llyfr y Mis i blant Awst 2018♥

♥Book of the Month for Children Aug 2018♥


Ydych chi erioed wedi clywed eich merch ifanc yn dweud ‘fedra i ddim gwneud hynny siŵr’ neu ‘thing bechgyn ydi hwnna?’ Wel, dyna ddiwedd ar siarad fel ‘na! Gobeithio bydd y llyfr yma’n troi’r hen syniad yna ar ei ben, a phwysleisio neges glir - gall merched wneud UNRHYW BETH! #girlpower


Beth sydd yn y llyfr?

Dyma lyfr lliwgar a llachar sy’n dangos genod o bob lliw a llun yn gwneud pob math o weithgareddau difyr a chyffrous. Mae’r hen syniadau traddodiadol o be ‘ddylia’ merched fod yn gwneud, a sut dylen nhw ymddwyn wedi mynd allan drwy’r ffenestr, diolch byth! Yn y llyfr yma, mae’r gennod yn dilyn pob math o ddiddordebau amrywiol ac yn ymfalchïo yn hynny.



Mae rhai yn hoffi crefftau, eraill yn hoffi gwyddoniaeth. Mae rhai yn hoffi chwaraeon tra bod well gan eraill ddarllen a ‘sgwennu. Y peth yw, mae gan bawb ddiddordebau, sgiliau a thalentau gwahanol ac mae hynny’n hollol fine!

Be oedd yn dda am y llyfr?

Ar lawes fewnol y clawr, fe gychwynna’r llyfr gyda nifer o swyddi gwahanol i ferched, sy’n dangos y cyfleoedd posib. Syniad da oedd cynnwys rhestr o swyddi gwych, sy’n agor llygaid ein plant i’r hyn sydd o’u blaen, ac i ystyried swyddi mwy uchelgeisiol a chyffrous. Gall ferched fod yn beirianwyr, yn filfeddygon, yn anturwyr neu beth bynnag maen nhw eisiau - does ‘na ddim limits yw’r neges.



Mae’r ysgrifen wedi ei leoli o amgylch y lluniau mewn patrymau difyr ac mae’r brawddegau yn odli hefyd. Roeddwn i’n falch iawn o weld cyfeiriad at rhai o ferched arloesol y gorffennol – byddai modd gwneud lot o waith ymchwil yma. Biti nad oedd lle i gynnwys Amelia Earhart, ond ta waeth, mae ‘na ddigonedd o ferched ysbrydoledig eraill wedi eu cynnwys.


Un o fy hoff ddarnau oedd y dudalen gyda’r bws melyn. Da oedd gweld fod yr awdur yn gwrthdroi’r syniad fod merched yn gorfod bod yn dainty ac yn daclus a dim ond y bechgyn sy’n gallu bod yn ddrewllyd neu’n flêr! Mae’r dudalen olaf hefyd yn annog y darllenwyr i ddilyn eu breuddwydion.


Dyfarniad

Peidiwch da chi a gwneud y camgymeriad o feddwl fod y llyfr yma ar gyfer merched yn unig. Bydd y llyfr yn siŵr o fod yn sbardun ar gyfer trafodaethau ystyrlon gyda bechgyn a merched am gyfleoedd cyfartal. Os ydym ni am gael cymdeithas lle mae bechgyn a merched yn parchu ei gilydd, mae angen dechrau’r sgyrsiau hyn mor fuan â phosib - a does unlle gwell nac amser stori ar y mat!


Byddai’r llyfr yn gwneud anrheg Nadolig gwych i unrhyw ferch, ac a gobeithio y bydd yn ysbrydoli merched mentrus y dyfodol i anelu am y sêr! Dyma lyfr hollol empowering! (sori, do’n i ddim yn gallu meddwl am y gair cyfatebol perffaith Gymraeg i gyfleu hynna!)

 

Have you ever heard your little girl say things like ‘oh, I can’t do that’ or 'no, that's a boy thing?' Well, it’s time to put an end to talk like that and turn that ‘can’t’ into a CAN-DO attitude! I think this book successfully gets across it’s core message - girls, you can do absolutely ANYTHING! #girlpower



What’s the book about?

This bright and colourful picture book shows lots of girls of all shapes, colours and sizes doing all kinds of exciting activities. The old traditional ideas of what girls should be doing and how they should behave has gone out the window, and it’s about time! All the girls have diverse hobbies and interests and they take pride in that. We shouldn’t all be the same – that would be super boring! Some like crafts, others like science. Some go for the sports while others prefer to read and write. The thing is, everyone has different interests, skills and talents and that's absolutely fine!


What did you like about it?

On the inner sleeve, the book starts with a gallery of girls doing different jobs, showing the potential career opportunities. It was a good idea to include a list of cool jobs, which opens their eyes to the types of things they’ll be able to do in the future. It’s about inspiring them to think big and dream of ambitious, exciting things to come. Women can be engineers, vets, adventurers or whatever they want to be – no limits is the general message.


The writing is placed around the pictures in funky patterns and the sentences also rhyme. Lots of history’s great women are also featured – this could open the door for lots of classroom research work. It’s a shame that there was no room to include Amelia Earhart, but never mind, there’s plenty to be getting on with.

Another book, 'Genod gwych a Merched Medrus' by Medi Jones-Jackson has also been published, and that has even more inspirational women but also has a Welsh slant to it. Check out our review of that one too.


One of my favourite bits was the page with the yellow bus. It was good to see that the author has flipped the idea that girls have to be dainty whilst the boys get to be smelly and messy on it’s head! The final page is inspirational as it encourages readers to follow their dreams and think about what they can do.



Verdict

Don't make the mistake of thinking that this book is just for girls. The book will no doubt act as a springboard for meaningful discussions with boys and girls alike about equal opportunities. If we want a future society where boys and girls truly respect each other, and are treated as absolute equals, then these conversations need to be started as soon as possible – there’s no better time/place than on the mat!

The book would make a great Christmas present for young girls, say aged between 5-8, and I hope that it will inspire them to aim for the stars! What an empowering book.

 

Gwasg/publisher: Rily

Cyhoeddwyd/released: 2018

Pris: £5.99

 

Comentários

Avaliado com 0 de 5 estrelas.
Ainda sem avaliações

Adicione uma avaliação
bottom of page