*Scroll down for English*
Bachgen a'r Ffwlbart mwyaf drewllyd erioed!
A boy and the smelliest polecat - ever!
Genre: llyfr lluniau, doniol / picture book, humour Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◎◎◎ Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◎◎◎ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎ Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Hiwmor/humour: ◉◉◉◉◎ Her darllen/reading difficulty: ◉◉◎◎◎ Dyfarniad/Rating: ★★★★☆
“Anodd tynnu cast o hen geffyl”
“Mae e'n cadw draenog yn ei boced”
“Prynu cath mewn cwd”
Ac fy ffefryn personol...
“Dio’m yn werth cnec mochyn coron!”
Mae’r iaith Gymraeg yn llawn dywediadau diddorol – nifer ohonynt yn cynnwys anifeiliaid. Mae ‘na ormodedd yn bodoli i un person eu cofio i gyd, ac mae’n bechod fod na ddim un cyfeiriadur sy’n eu casglu i gyd gydag esboniad. Byddai’n bechod petai’r dywediadau quirky yma’n diflannu. Dwi wrth fy modd gyda theitl y llyfr yma, ‘Ffwlbart Ffred: Drewi fel ffwlbart,’ am ddau reswm. Un, achos mae o’n tynnu sylw at ddywediad Cymraeg rhyfedd gan sicrhau fod y genhedlaeth nesaf yn ei chlywed. Yn ail, dyma i chi deitl sy’n siŵr o apelio at blant ifanc. Teitl bachog – perffaith ar gyfer gwerthu llyfrau! Mi fydd o'n sicr yn un o'r llyfrau "Maaam, plîîîs gawn ni brynu hwn?" yna!
Mi fedra i feddwl am sawl bachgen bach ifanc (ac ambell i ferch!) fydd wrth eu bodd yn darllen am hanes y ffwlbart drewllyd ac mi fyddai’n postio fy nghopi draw at fy nghefndryd ar ôl mi orffen ‘sgwennu hwn!
Fel mae’r teitl yn awgrymu, mae gan Ffred ffwlbart (polecat ydi hyn – oedd, roedd rhaid i mi Googleio!) ac mae’r creadur bach YN DREWI! Doedd o ddim, ond un bore mi ddechreuodd wynto!
Mae’r arogl ddrwg yn llenwi’r lle a chyn bo hir mae hyd yn oed Anti Gyrti drws nesa’n cwyno! Ar ôl derbyn ordors i llnau’r ffwlbart drewllyd, mae Ffred a’r creadur yn cael syniad glyfar. Cyn hir, mae’r pentref i gyd yn drewi i’r uchel nefoedd!
Mae llyfrau Cymraeg wedi datblygu cymaint ers oeddwn i’n blentyn, ac mae’r safon yn uchel iawn ac yn gwella o hyd. Mae gwasg Atebol wedi arwain y ffordd ers blynyddoedd wrth argraffu llyfrau o safon uchel. Dwi’n gwybod fod hyn braidd yn bedantig ond mae’r llyfr yn teimlo fel un o ansawdd da wrth afael ynddo. Mae hyd yn oed pethau bach fel y clawr matt efo darnau gloss yn gwneud gwahaniaeth. Am £6.99, bosib ei fod o'n ddrytach na rhai llyfrau o'i fath, ond bydd hwn yn lyfr fydd yn gallu handlo cael ei fyseddu a'i fwynhau droeon!
Dwi’n adnabod arlunwaith Bethan Mai yn syth (dwi’n cofio’r steil o lyfrau cyfres Halibalŵ) ac mae nhw’n gweddu llyfr doniol i’r dim ac yn ychwanegu at yr hiwmor. Bonws am y llyfr yw ei fod ar ffurf mydr ac odl sy’n cyflwyno’r syniad o frawddegau rhythmig, cwpledi a synau i blant. Mae ‘na rhywbeth satisfying am ddarllen brawddeg sy’n odli does?
Mae’r awdur yn brofiadol iawn ym maes plant, ac yn gwybod yn iawn beth sy’n mynd i apelio at y gynulleidfa darged! Prin iawn yw’r plant sydd ddim yn mwynhau dipyn o toilet humour a sôn am ddrewdod ac ati! Dwi’n siŵr i mi brynu ambell stink bomb fy hun yn fy mhlentyndod! Does dim o’i le gyda ‘chydig o ddireidi diniwed wir!
Dwi’n falch o glywed mai cyfres fydd hon, nid one-off, felly bydd mwy ar y ffordd…
The Welsh language is full of interesting sayings – many of which include animals. There are way too many for one person to remember them all, and it’s a shame that there isn’t a single directory that collects them all with an explanation. It would be a shame if these quirky sayings were to disappear. I love the title of this book, 'Ffwlbart Ffred – Drewi fel Ffwlbart,’ for two reasons. Firstly, because it draws attention to a quirky Welsh saying thus ensuring it’s future by introducing it to the next generation. Secondly, because this is a title that is bound to appeal to young children. A catchy title – exactly what will sell books! It’s definitely a “Muuum, I want that one, please can we read that one?” kind of book!
I can think of several young boys (and a few girls!) who will love reading about the foul-smelling Ffwlbart and I will be posting my copy over to my young cousins as soon as I’ve finished this!
As the title suggests, Ffred has a Ffwlbart (this means polecat as I discovered, and yes, I had to Google it!) and this cute little creature ABSOLUTELY STINKS! Initially, he didn’t smell, but one morning things suddenly changed…
The bad smell fills the place and eventually even next-door neighbour, Anti Gyrti, is complaining! After receiving orders to wash the stinky creature, Ffred and his pet get a very clever idea. Before long, the whole village stinks to high heaven!
Welsh books have come a long way since I was a child, and the standard is very high and improving still. Atebol has been leading the way with the printing of high-quality books. I know this is a bit pedantic but the book feels nice to hold as has a quality ‘feel’ to it. Even small things like the matt cover with glossy bits make a difference. At £6.99, it's a bit pricier than similar books from competitors, but it will certainly cope with being thumbed and enjoyed for many years.
I instantly recognize Bethan Mai’s artwork (I remember them from the Halibalŵ book series) and they complement this book and add to the humour. A bonus about the book is that it’s in the form of rhyming couplets, which is a good opportunity to introduce the concept of rhyme. Don’t you think there’s something satisfying about reading a sentence that rhymes?
The author is very experienced in producing things for children, and knows full well what is going to appeal to the target audience! There are few children who wouldn’t enjoy some toilet humour and talk of smelly things. I'm sure I bought a few stink bombs myself when I was a kid! Nothing wrong with a bit of harmless mischief!
I'm glad to hear that this will be a series, not a one-off, so there will be more on the way...
Cyhoeddwr/publisher: Atebol
Rhyddhawyd/released: 2020
Pris: £6.99
Am yr awdur:
Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, mae Sioned yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Ar hyn o bryd mae'n Gomisiynydd Cynnwys Plant yn S4C ac yn gyfrifol yn olygyddol am Cyw a Stwnsh. Cyn hynny, bu'n cynhyrchu ac uwch-gynhyrchu rhaglenni plant gyda'r BBC. Dewiswyd Sioned fel un o awduron cwrs Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru (Tŷ Newydd Chwefror 2019). Dyma lle datblygodd ei syniad ar gyfer y gyfres hon o lyfrau. Credai Sioned fod creu cynnwys safonol yn y Gymraeg sy'n tanio dychymyg plant ac sy'n helpu caffael iaith yn hanfodol.
Comments