top of page

Dyma Ni: Sut i Fyw ar y Ddaear - Oliver Jeffers

Updated: Feb 2, 2020

*Scroll down for English & comments*


Pecyn croeso i'r ddaear i bobl bach newydd!

Welcome pack to earth for new humans!

♥ Llyfr y Mis Ionawr 2020, January Book of the month ♥


Gwasg/publisher: Atebol

Cyhoeddwyd/released: 2019

Addasiad/adaptation: Eurig Salisbury

ISBN: 978-1912261987

Pris: £12.99

 

Yn ôl sôn, mae’r awdur yn Dad newydd, ac ar ddychwelyd o’r Ysbyty gyda’i fab newydd fe aeth a fo ar daith o gwmpas y tŷ yn cyflwyno’r amgylchedd newydd. Mae’r stori yma yn estyniad o’r syniad hwnnw, sef cyflwyno ein byd anhygoel i blentyn ifanc sy’n ceisio gwneud synnwyr o bopeth.



Dim wir yn stori, ond mae hwn fwy fel rhyw fath o becyn groeso i bobl sy’n newydd i’r ddaear! Yn wir, ‘sa chi’n gallu rhoi copi o hwn i aliens wrth iddyn nhw lanio ar y ddaear am y tro cyntaf! (gan gymryd yn ganiataol fod nhw’n darllen Cymraeg, wrth gwrs!)


Pwy sydd erioed wedi cael amser i eistedd yn ôl a jest meddwl pa mor anhygoel ac eang yw ein byd? Wel, mae’r llyfr yn gwneud hyn. Mae’r blaned yn ein hamddiffyn ni ac yn ein cynnal ni. Weithiau, dydyn ni, ddynol ryw, ddim bob amser yn parchu ein cartref cynnes saff. Mae’r llyfr yma’n cynnwys nifer o negeseuon sy’n annog pobl ifanc i barchu a gwarchod eu cartref. Mae’r ddaear yn llawn o systemau cymhleth a bregus, sy’n gweithio’n dda ac yn dibynnu ar ei gilydd. Rhaid sicrhau fod o’n cael ei amddiffyn. Mae 'na negeseuon hefyd am barchu ein gilydd a derbyn a dathlu ein gwahaniaethau. Diddorol oedd clywed fod yr awdur bellach yn byw yn Brooklyn - efallai y byddai Mr Trump yn hoffi copi o’r llyfr yma ‘Dolig nesa!



Mae’r llyfr yn mynd a’r darllenydd ar wibdaith o amgylch y glôb, gan gyflwyno nifer o syniadau newydd ond heb fynd i ormodedd o fanylder. Wedi dweud hyn, dwi’n falch fod 'na fwy o fanylion gwyddonol yno na sydd wir ei angen ar blant ifanc iawn, achos wedyn, mae’r llyfr hefyd yn addas i blant ‘chydig yn hyn hefyd.


Yn sicr dwi’n meddwl fod hwn yn llyfr sy’n gweddu’n well i’w gyd-ddarllen. Gan ddibynnu ar oed y plentyn, ond mae’r cysyniadau yn siŵr o sbarduno llwyth o gwestiynau eraill. Dwi’n hoff iawn o lyfrau sy’n tanio dychymyg a chwilfrydedd plant ac yn eu hannog i ofyn cwestiynau am y byd o’u cwmpas. Dwi’n siŵr fydd 'na oedolion fydd yn darllen y llyfr yma ac yn dysgu rhywbeth newydd hefyd (fel fi!)


Mae geiriau’r awdur yn addfwyn ac yn dyner, ac mae’n siarad yn uniongyrchol gyda’r plentyn ifanc sy’n darllen. Yr awdur sydd hefyd wedi gwneud y lluniau, a dwi’n gwybod y byddwch yn cytuno, maen nhw’n brydferth iawn. Dwi’n hoff iawn o’r llong, y bont a skyline Efrog Newydd.

Petai gennyf blant, mi fyddai’r llyfr hwn yn sicr ar fy rhestr siopa, gan fod ynddo gymaint o wyddoniaeth a daearyddiaeth a mwy. Yn wir, mae’n byrlymu â ffeithiau diddorol thu hwnt.


fy hoff lun o'r llyfr

Llyfr dwyieithog yw hwn, ac er bod ambell dudalen braidd yn brysur gyda’r ddwy iaith, mae’n syniad gwych i rieni sydd un ai’n dysgu, neu sydd eisiau cefnogi eu plant wrth ddarllen. Clawr caled, tudalennau o ansawdd da.




 

The author, reportedly a new Dad, who upon returning from the hospital with his new son went on a tour of the house; introducing his son to his new environment. and F oar a tour of the house introducing the new environment. This book is an extension of that idea, which presents our incredible world to a young child trying to sense of everything.



Not so much a story, but more of a ‘welcome to Earth pack’ for new residents! I’m sure you could hand out copies of this book to newly arriving aliens on their first visit! (assuming they read Welsh, of course!)


Who has ever had time to sit back and think just how incredible and vast our world is? Well, the book does just this. The planet protects us and sustains us. Sometimes we humans, do not always respect our warm, safe home. This book contains a number of messages that encourages young minds to respect and protect our home. The earth is full of complex, delicate and fragile systems, that work well and depend on each other. It must be protected. There are also messages about respecting each other and tolerating and celebrating our differences. It was interesting to hear that the author now lives in Brooklyn – perhaps Mr. Trump could do with a copy of this book next Christmas!



The book takes the reader on a tour of the globe, introducing a number of new ideas but not going into ridiculous detail. Having said this, I am pleased that there is still a certain level of scientific detail (probably beyond a younger child’s understanding), but it makes the book also appropriate for older children, say up to about 7-9.


I certainly think that this book is better-suited to read with an adult. Depending on the age of the child, some of the concepts are bound to trigger a whole load of further questions. How exciting – parent and child could search together for answers not found in the book! I love anything that sparks children's imagination and curiosity; encouraging them to ask questions about the world around them. I'm sure there will also be adults who will read this book and pick up something new (like me!)


My favourite picture

The author's words are warm and gentle, he speaks as a father would, directly with the young child. The author is also responsible for the artwork, and I am sure you will agree, they are beautiful. I particularly love the ship, the bridge and the New York skyline!


If I had children, this book would certainly be on my book-shopping list, as it has so much science and geography going on. Never mind the kids, it interests me! Indeed, it is bursting with interesting facts.


This is a bilingual book, and although a few pages are rather busy with both languages, it’s a great idea for parents who are learning, or just want to support their children in reading. The book is hardcover, solid with good quality pages.



101 views0 comments

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page