top of page

Dosbarth Miss Prydderch [3] a Lleidr y Lleisiau - Mererid Hopwood

Updated: Mar 13, 2020

*Scroll down for English & comments*


Brwydr yn y goedwig - diweddglo'r drioleg!

All out war in the forest - last in the trilogy!



Genre: ffuglen, antur / fiction, adventure

Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◎◎ Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◎

Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎

Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎

Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎

Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎

Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◎◎


Dyfarniad/verdict: ★★★☆☆

 

Hwn yw’r trydydd llyfr yn nhrioleg gychwynnol Dosbarth Miss Prydderch. Mae Mererid Hopwood yn cynnwys tudalen sy’n crynhoi’r hyn a ddigwyddodd yn llyfr 1 a 2. Er bod hyn yn handi fel reminder, tydi hyn ddim yn golygu y gallwch hepgor darllen y llyfrau blaenorol - mi fydd popeth yn gwneud llawer mwy o synnwyr os ddarllenwch chi’r tri llyfr, yn y drefn gywir!



Mae rhywbeth mawr o’i le yn y goedwig! Mae’r tylluanod a’r defaid yn paratoi i ryfela yn erbyn ei gilydd. Yn waeth fyth, mae Mr Cnoc wedi bod yn creu arfau ar eu cyfer. Pam fod anifeiliaid sydd fel arfer yn cyd-fyw’n heddychlon ar fin ymladd? Fe rof i un cliw i chi - Dr Wg ab Lin!! Mae o wedi bod yn creu drygioni yn y goedwig, gan droi pawb yn erbyn ei gilydd. Ond pam? Tybed fydd Alfred, ei ffrindiau a’i athrawes yn gallu stopio’r ymladd a dod a heddwch yn ôl i’r goedwig? (a’r lleisiau coll!)


Mae yna ddwy frwydr ar y gweill yn y llyfr- y rhyfel yn y goedwig, a’r ymgais i atal yr awdurdodau rhag cau Ysgol y Garn. Dwi’n hoffi sut mae’r ddwy stori yn cyd-blethu o fewn yr un llyfr. Mae hanner cyntaf y llyfr yn y goedwig, ac yno fe ddown yn ôl i’r Garn i weld sut lwyddiant fu i’r ymgyrch ‘creu gwaith.’

A fydd yr ysgol yn cau? Dwi ddim am sbwylio hynny i chi – rhaid i chi ddarllen i gael gwybod!



Dwi’n hoff o’r gyfres achos mae’r iaith yn syml ar y cyfan, ond nid yw’r awdur yn ofn cyflwyno geiriau ac ymadroddion Cymraeg mwy heriol. Dyma lle mae’r squiggles yn ddefnyddiol. Mae’r saethau yn dod allan o rai geiriau anghyfarwydd ac yn cynnig esboniad neu aside o beth yw’r ystyr. Dwi’n meddwl fod y syniad o roi glossary [rhestr/esboniad o’r gair] yn y llyfr yn syniad bril - mor dda mod i’n gwneud PhD ar y peth!!



Does dim gormod o ysgrifen ar bob tudalen ac felly mae hyn yn ymestyn maint y llyfr sy’n rhoi teimlad sylweddol iddo. Mae effeithiau cartŵn ar y ffont yn gwneud y darllen yn fwy diddorol- dwi’n meddwl fod angen mwy o hyn mewn llyfrau eraill. Byddwn i’n dweud mai darllenwyr hyderus bl.3 a 4 fyddai’n hoffi’r llyfrau yma fwyaf, ond byddai hefyd yn gwneud deunydd darllen annibynnol i blant hŷn sy’n dysgu Cymraeg.


Mae’r llyfr yma’n dod a’r rhan gyntaf o antur Dosbarth Miss Prydderch i ben yn daclus, ond mae’n gadael y drws yn agored ar gyfer mwy o anturiaethau. Erbyn hyn, mae gennym ni lyfrau 4,5 a 6 i’w mwynhau!!


 

This is the third and last book in the initial trilogy of Dosbarth Miss Prydderch, the story about a teacher with magical powers! Mererid Hopwood includes a page summarizing what happened in Books 1 and 2. Although this is a handy reminder, this doesn't mean you can skip reading the previous books – everything will make a lot more sense if you read the three books, in the right order!



There is something very wrong in the forest! The Owls and sheep are preparing to go to war against each other. Worse still, Mr. Cnoc has been arming both sides with weapons. Why are animals that normally live peacefully together about to fight? I'll give you one clue- Dr. Wg Ab Lin! (The bad guy snake) He has been creating mischief in the woods, turning everyone against each other. But why? I wonder whether Alfred, his friends and their teacher will be able to stop the fighting and bring peace back to the woods? (and return the missing voices!)


There are two battles under way in the book- firstly, the impending war in the magical forest, and secondly, the attempt to stop the authorities from closing Ysgol y Garn. I like how the two stories are entwined within the same book. The first half of the book is set in the woods, and then we come back to Y Garn village to see if the job creation campaign has been successful.

Will the school be forced to close? I’m not going to spoil that for you – you’ll have to read to find out!



I like this series because the language is simple enough, however the author is not afraid to introduce more challenging Welsh words and phrases. This is where the squiggles are useful. The arrows come out of some unfamiliar words and offer an explanation or an aside of what the word meaning is. I think the idea of having a funkier glossary [list/definition of the word] in the book is a great idea- so good I'm doing a PhD on it!!


There’s not too much writing on each page and so this bulks up the size of the book which gives it a substantial feeling. It feels like a “proper book.” The cartoon text effects on the font make the reading more interesting- I think more of this is needed in other books. I would say that confident readers in yrs.3 and 4 would like these books the most, but it would also make good independent reading material for older children who are learning Welsh.


This book brings the first part of the Miss Prydderch adventure to a tidy and satisfactory end, but leaves the door open for more adventures. We now have books 4, 5 and 6 to enjoy!



 

Gwasg/publisher: Gomer

Cyhoeddwyd/released: 2017

 


45 views0 comments
bottom of page