top of page

Diwrnod y Sioe / Show Day - Llenwedd Lawlor a Jessica Wise

*For English review, see language toggle switch on top of webpage*



(awgrym) oed darllen: 6+

(awgrym) oed diddordeb: 3-7

NEGESEUON: cymryd rhan sy'n bwysig, hunan-hyder, nerfusrwydd, dyfalbarhad, ceisio, dewrder,

♥Llyfr y Mis i blant: Gorffennaf 2022♥

 

Barn Sôn am Lyfra


Mae’n dda gweld amrywiaeth o lyfrau yn cyrraedd y farchnad, ac mi fydd hwn yn sicr o apelio at y darllenwyr hynny sy’n hoff o anifeiliaid, ceffylau, amaeth a marchogaeth. Does dim prinder o sioeau gwledig gennym ni yn yr ardal yma - Sioe Llanrwst, Sioe Eglwysbach, Sioe Cerrigydrudion i enwi ond rhai! Mae darllen y llyfr yma’n codi hiraeth arnaf am ddyddiau’r haf yn mwynhau gwylio’r anifeiliaid a’u perchnogion yn cystadlu.


Mae Ladi, y ceffyl Shetland, yn poeni’n ofnadwy am ei sioe gyntaf. ‘Da ni gyd yn gyfarwydd efo’r teimlad annifyr yn ein boliau pan da ni ar fin gwneud rhywbeth newydd, a tydi ceffylau ddim yn eithriad! I wneud pethau’n waeth, ar ôl profiad anffodus gydag un o’r cyd-gystadleuwyr, mae Ladi’n barod i roi’r ffidil yn y to a’i heglu hi am adref.


Ond, er y nerfau a’r ansicrwydd a’r diffyg hyder ar y cychwyn, mae Ladi (a Cit) yn dyfalbarhau ac yn cael modd i fyw. Tybed wnaethon nhw ennill? Bydd rhaid i chi brynu neu fenthyg y llyfr i gael gwybod...


Y mae’n stori wreiddiol, sydd wedi cael ei gyhoeddi yn ddwyieithog. Dwi’n hapus i weld cyflenwad da o lyfrau fel hyn, achos maen nhw’n boblogaidd gyda rhieni sy’n awyddus i gefnogi darllen Cymraeg eu plant. Dwbl y llyfr am yr un pris! Fy unig criticism (a hynny ond am fy mod yn gwneud ymchwil ar lyfrau dwyieithog ar hyn o bryd) yw bod angen gwahaniaethu'r ieithoedd yn well - mae nhw'n rhy agos, yn rhy debyg, sy'n achosi ddryswch i'r llygaid, yn enwedig i ddarllenwyr ifanc.

Stori annwyl sy’n dangos fod dyfalbarhau yn bwysig ac, yndi, mae o’n neges cliche, ond yn un hollbwysig – rhoi cynnig arni a chymryd rhan sy’n bwysig – nid ennill!



 

PEIDIWCH A CHYMRYD EIN GAIR NI, 'DRYCHWCH AR BETH SYDD GAN GWALES I'W DDWEUD:


ADOLYGIAD GWALES


Fel gyda phob llyfr stori-a-llun, mae cael clawr deniadol yn hanfodol, ac mae clawr chwareus y llyfr hwn yn sicr o ddenu’r llygad, gyda dwy lygad daer Ladi’r ceffyl sioe wedi’u hoelio’n sgleiniog arnoch chi. Mae’r stori wedyn yn ein cyflwyno i nifer o anifeiliaid bach eraill wrth i Cit, perchennog Ladi, ddechrau ar y paratoadau ar gyfer y sioe lle bydd hi’n cystadlu. Cyflwyna’r stori safbwynt Ladi wrth fynd i’r sioe - ei chyffro, ond wedyn ei phryder a’i hansicrwydd hefyd wrth gyrraedd cae’r sioe a gweld cymaint o bobl a chreaduriaid yno. Ac os oeddech chi’n meddwl bod yna gythraul ym myd y canu, mae’r un peth yn wir hefyd ym myd y ceffylau, gydag ymddangosiad y ceffyl hynod fawreddog, Concyr, sy’n ddigon i godi braw ar unrhyw geffyl bach diniwed arall. Drwy lwc, gan y beirniad mae’r gair olaf, a heb ddatgelu gormod, mae Ladi a Cit yn gwneud sioe dda iawn ohoni. Mae yna foeswers fach wedi’i gwau i mewn i’r stori, wrth gwrs, ond mae honno’n ddigon cynnil yn y stori.

Dyma lyfr stori-a-llun gwreiddiol hyfryd o waith yr awdur Llanwedd Lawlor a’r arlunydd Jessica Wise sy’n rhoi tipyn bach o bopeth i chi – stori ddifyr, lluniau lliwgar a thestun dwyieithog ar yr un pryd. Rhywbeth ar gyfer pawb, felly!

Mae gosodiad y testun yn y llyfr yn ddigon creadigol, gyda chwarae â ffontiau o ran lliw, math a maint. Erbyn hyn, mae’r gynulleidfa yng Nghymru’n ddigon cyfarwydd â chael llyfrau dwyieithog, gyda’r testun Saesneg yn ymddangos mewn ffont llai ar yr un dudalen â’r fersiwn Gymraeg. Does dim rhaid i chi sylwi o gwbl ar y fersiwn Saesneg os nad ydych chi’n dymuno, ond gall weithio fel arf hynod ddefnyddiol ar gyfer rhieni di-Gymraeg a dysgwyr, yn ôl yr angen. Efallai y buaswn i wedi ffafrio gweld y ffont Saesneg mewn italig, er mwyn dangos mwy o wahaniaeth fyth rhyngddo â’r testun Cymraeg, rhag i’r llygaid gael eu tynnu’n ormodol ato.


Yn naturiol, denu’r llygad yw diben y lluniau mewn llyfr stori-a-llun hefyd, ac yn sicr mae’r defnydd o liwiau trawiadol a chyferbyniol ar wahanol dudalennau’n hybu diddordeb. Mae lluniau Jessica Wise yn dwt a glân ac yn ychwanegu’r diddordeb disgwyliadwy.


Llyfr gwreiddiol gwerth chweil, er y gallai’r pris gwerthu fod ychydig yn heriol i ambell gadw-mi-gei.


Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

 

Gwasg: Atebol

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £7.99

 


Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page