*Scroll down for English*
Llyfr chwilio lliwgar a hwyl!
Fun and colourful search book!
💙 Llyfr y mis i blant Rhagfyr 2018 💙
💙 Children's Book of the Month December 2018 💙
Genre: llyfr chwilio, comig / search book, comic Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◎◎◎ Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◎◎◎ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎ Iaith gref/foul language: ◎◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Hiwmor/humour: ◉◉◉◎◎ Her darllen/reading difficulty:: ◉◎◎◎◎ Dyfarniad/Rating: ★★★★☆
Adolygiad gan Mari Siôn
Llyfr lliwgar 24 tudalen, maint A4, addas ar gyfer plant ac oedolion, yn cynnwys 10 llun tudalen ddwbl. Bydd pob taenlen yn dangos golygfa lawn dop, gyda'r nod o ddod o hyd i Boc, y ddraig fach goch, sy'n cuddio ym mhob llun. Mae cyfle i chwilio am bethau eraill yn y lluniau hefyd, yn ogystal â thrafod a holi cwestiynau rhwng plant â'i gilydd, a rhwng rhiant a phlentyn.
Mae’r llyfr lliwgar Ble Mae Boc? yn herio plant ac oedolion Cymru i ganfod draig fach goch sydd byth a beunydd ar goll mewn lleoliadau amrywiol o Fôn i Fynwy. Fe ymddangosodd Boc y ddraig gyntaf yn y comic Mellten. Ers deor o wy rhyfedd ar gopa’r Wyddfa, mae’n chwilio am ei mam.
Yn y gyfrol mae Boc ar goll o fewn deg golygfa tudalen ddwbl. Mae taith y ddraig fach o amgylch Cymru yn un ryfeddol, sy’n arwain y darllenydd o Gastell Caerffili i Stadiwm y Mileniwn, o ffwlbri ar y fferm i ddiwrnod ar lan y môr. Mae pob tudalen wedi ei llenwi i’r ymylon â chymeriadau lliwgar a sefyllfaoedd doniol a fydd yn sicr o godi gwên. Mae yma gŵn yn torheulo, darnau mawr o gaws yn crwydro, dau Ddewi Sant yn gorymdeithio, heb sôn am ddreigiau yn bwyta tsili a chewri concyrs yn y coed!
Drwy ei luniau gwych, llwydda Huw Aaron nid yn unig i gyflwyno tirwedd a rhai o ryfeddodau Cymru, ond i ddal ysbryd a chymeriad y genedl i’r dim. Mae’r cartwnau hefyd yn gyforiog o gyfeiriadaeth Gymraeg a Chymreig. O edrych yn ofalus fe ddewch o hyd, er enghraifft, i fochyn yn glynu poster Jaci Soch, Jini o gyfrolau Mary Vaughan Jones ar goll yn y goedwig, yn ogystal â baner seren wen ar gefndir gwyn ym Mhortmeirion.
Wedi i’r darllenwyr ganfod Boc, mae cyfle hefyd i ganfod wyau ei fam, ynghyd â Barri a Blodwen, casglwyr dreigiau cas sydd yn stelcian ymysg y delweddau. Mae yna restr o bethau a phobl ychwanegol i’w canfod yng nghefn y gyfrol wedi hynny. Fe fydd darllenwyr mwyaf selog Mellten yn siŵr o ganfod cymeriadau fel Gwil Garw, Capten Clonc, Gari Pêl a Bloben yn cuddio hefyd.
Dyma lyfr a fydd yn bendant yn hudo plant ac oedolion o bob oed i dreulio oriau yn craffu a chwerthin am yn ail. Mae’n gyfrol berffaith ar gyfer taith hir ar y trên, wrth eistedd yn nerbynfa'r feddygfa neu wrth ddiddanu plant llwglyd mewn caffi. Ac am £4.99 yn unig, dyma fargen y flwyddyn!
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Review by Mari Siôn
A colourful 24-page, A4 sized book, suitable for children and adults, containing 10 double-page picture spreads. Each spreadsheet will display a scene that’s filled to the brim, with the aim of finding Boc, the small red Dragon, which hides in every picture. There is also the opportunity to search for other things in the pictures, as well as to discuss and ask questions between children and each other, and between parent and child.
The colourful Ble mae Boc? book challenges children and adults to find a small red dragon that is always lost in various locations across Wales. Boc the Dragon first appeared in the Welsh language comic Mellten. Since hatching from a strange egg on the summit of Snowdon, she is looking for her mother.
In this volume Boc is missing within ten double-page scenes. The Little Dragon’s journey around Wales is amazing, leading the reader from Caerphilly Castle to the Principality Stadium, from a farm to a day on the seafront. Each page has been filled to the brim with colourful characters and funny situations that will inevitably raise a smile. There are sunbathing dogs, large chunks of cheese wandering, two St Davids marching, not to mention Dragons eating chilli and conker giants in the woods!
Through his brilliant paintings, Huw Aaron is not only able to present the landscape and some of the wonders of Wales, but captures the spirit and character of the nation. The cartoons are also rich in Welsh-language references. If you look carefully you will see, for example, a pig putting up a Jaci Soch poster, Jini from Mary Vaughan Jones's books lost in the woods, as well as a white star flag on a white background at Portmeirion.
Once the readers have found a Boc, there is also an opportunity to find her mother’s eggs, along with Barry and Blodwen, nasty dragon hunters who stalk among the images. There are lists of additional things and people to find at the back of the book upon completion. Mellten's most avid readers will no doubt notice characters such as Gwil Garw, Captain Clonc, Gari Pêl and Bloben also hiding.
This is a book that will definitely appeal to children and adults of all ages who will spend hours scrutinizing and laughing. It is a perfect volume for a long journey on the train, sitting in the reception area of the GP surgery or entertaining hungry children in a café. And for only £4.99, this is the deal of the year!
A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Komentarze