top of page

Arhosfan ym mhen draw'r byd - Dan Anthony

*Scroll down for English & comments*


Adolygiad Cymraeg gan Awen Schiavone

English review by Helen Perdikis.

[Both refer to the Welsh version of the novel.]


Antur gyffrous... mewn bus stop!

Crazy adventure... that starts in a bus stop!


Gwasg/publisher: Gomer

Cyhoeddwyd/released: 2019

Addasiad/adaptation: Ioan Kidd

ISBN: 978-1-78562-258-8

Pris: £5.99

Lefel her/reading challenge level: ❖ ❖


◤ ◤ Fersiwn Cymraeg a Saesneg ar gael-

Welsh and English editions available ◢ ◢

 

Wrth yr arhosfan bws, hanner ffordd rhwng ei gartref newydd a'i ysgol, mae Rhys yn digwydd dod ar draws yr union fan lle mae byd chwedlau a helyntion y byd go iawn yn cwrdd. Cowbois yn canu, creadur gwyrdd o'r cloddiau, y ferch gyflymaf ar ddwy olwyn, ymhlith eraill - a fydd y criw brith yma'n ddigon i'w achub rhag y gelyn peryclaf y gwyddon ni amdano?



Yr hyn sy’n taro rhywun ar unwaith am y gyfrol hon yw’r clawr deniadol. Mae yma grafanc enfawr du fel pe’n anelu at fachgen sy’n eistedd mewn arhosfan bws, tra bo degau o barau o lygaid yn gwylio o’r cysgodion. Mae’r darlun, ynghyd â’r teitl anarferol – Arhosfan ym Mhen Draw’r Byd – yn denu sylw unrhyw ddarllenydd sy’n chwilio am stori unigryw ac annisgwyl. Ni chaiff darllenydd o’r fath ei siomi!

Cawn ein cyflwyno i fachgen ifanc o’r enw Rhys, sy’n byw gerllaw’r arhosfan bws gyda’i dad, Siôn, sy’n methu â gweithio oherwydd anabledd. Mae Rhys yn gymeriad hoffus, ond nid yw’n cael llawer o fwynhad o fywyd ar hyn o bryd – mae’n cael trafferth darllen, nid yw’n adnabod llawer o bobl, ac mae pawb yn chwerthin ar ei ben yn yr ysgol. Mae Rhys yn teimlo’n arbennig – ond arbennig o anobeithiol yw hynny, gan ei fod yn arbennig o dda am wneud pethau’n anghywir.



Ond, daw tro ar fyd gyda dyfodiad cyfres o ddieithriaid i’r dref a’r ardal gyfagos, ac yn benodol i’r arhosfan! Gydag ymddangosiad llond llaw o gymeriadau unigryw a rhyfedd, mae bywyd Rhys yn datblygu’n fywyd diddorol tu hwnt! Dywedir wrtho fod ganddo bwerau arbennig, sef y gallu i weld bydoedd eraill – bydoedd sy’n bodoli yn yr un gofod â’r dimensiwn dynol. Ni all Rhys gredu ei glustiau, ond mae’n gwybod fod rhywbeth rhyfeddol ar droed pan mae’n cyfarfod cymeriadau mor amrywiol â Doc Penfro a Kid Welly – sy’n gwisgo fel cowbois; Mrs Prydderch a Rhiannon, sy’n ymhel â dewiniaeth ddu gwrachod; Beth, y ddraig sy’n groes rhwng Lamborghini a roced; dyn bach gwyrdd o’r enw Wdig; y Wraig Wlanog; dafad ddu o’r enw Dafi; ellyllon; coblynnod; ysbrydion; a brân fusneslyd!



O fewn cloriau’r gyfrol hon, cewch fynd ar antur dra gwahanol – i fyd ffantasi a mytholeg – ymysg cymysgedd o gymeriadau a digwyddiadau difyr a gwallgof. Mae yma hud a lledrith, gyda’r cwbl yn canolbwyntio ar bŵer honedig carreg arbennig. Mae’r awdur yn llwyddo i ddal sylw’r darllenydd hyd y diwedd, gan gadw’r datgeliad am ddirgelwch y garreg a’r holl gymeriadau rhyfedd nes y tudalennau olaf.

Dyma stori llawn cyffro a dirgel, gyda’r arddull ysgrifennu’n caniatáu i’r stori lifo’n gyflym o bennod i bennod – y llinyn storïol yw elfen gryfaf y nofel. Nid eir i fanylder gyda’r disgrifiadau – sy’n caniatáu rhyddid i ddychymyg y darllenydd – tra bo’r darluniau difyr hwnt ac yma’n cynorthwyo’r dychymyg. Os ydych am ddianc i fyd anturus, llawn dirgel a ffantasi, bachwch y gyfrol hon.


Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.


 

The novel begins with a red sweet and ends with a rice pudding, or at least the image of one. What lies in between is a veritable roller coaster of a bus ride with Rhys, the rather reflective hero and all round sensitive 12-year-old facing the challenges of secondary school and being a “one off”.



Set in Pembrokeshire with a deep sense of nature and landscape, the novel explores Rhys’s life with his wounded veteran father, Jamie, a single parent. Despite loving his father deeply, the emptiness at the centre of his life draws Rhys to many solitary hours at the bus stop arranging stones into imaginary armies, his own Camp Bastion. At this “intersection”, Rhys is not alone: “the bus stop ... had chosen him.”

Here Rhys's adventures begin with a host of vivid characters, including supportive bus drivers and dubious cowboys, Woody the woodland creature and rampant spanner men. Naturally there are witches. Anwen “Bike” is a worthy and feisty heroine although never quite evocative enough to upstage Rhys.



Rhys’s encounters at the bus stop will appeal to readers in the middle years and are rather more engaging than the slightly stereotypical and less finely drawn school scenes. It is the imagination which triumphs here and a special effort has been made to appeal to boys with plenty of pace, excitement and humour. The themes of otherness, loneliness and bullying are offset by a lively and tantalising glimpse into other worlds where time and place can be turned upside down. Rhys's trials, the build up to the last battle and the promise of a mysterious King ensure the reader is never bored.

There is much to enjoy in the novel although some adult characters feel overly predictable and a little flat at times. With an all-knowing crow and a brooding black sheep keeping an eye on proceedings, however, readers will find much fun to focus on here.


A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Parents! If your child is reading the Welsh copy in school and you'd also like to join in, then grab yourself an English copy and read along too.

31 views0 comments
bottom of page