Dim adolygiadau
Teitl:
Chwedl Calaffate
Awdur:
Lleucu Gwenllian
Darlunydd:
Lleucu Gwenllian
Synopsis:

Os ei di i’r Wladfa, rwyt ti’n siŵr o gael cynnig jam ffrwyth y Calaffate, ac rwyt ti’n sicr o weld y blodau aur tlws yn tyfu dros y paith. Yn ôl y sôn, caiff pawb sy’n blasu’r ffrwyth eu swyno i ddod yn ôl i Batagonia – wyt ti eisiau clywed pam?

Genres:

Books for Children Under 7

Cyhoeddwr:
Gwasg Carreg Gwalch
Cyhoeddwyd:
April 2021
Fformat:
Clawr Meddal, 50 tudalennau

Mae Sôn am Lyfra’n dweud...

Dyma yn bendant un o’r llyfrau harddaf i gael eu cyhoeddi yn 2021 ac mae’n un o fy ffefrynnau personol.

Dwi wedi gwirioni gyda hwn, mae o wirioneddol yn wych – y stori, y lluniau – popeth. Gwaith arbennig Lleucu. Yn ôl ei blog, mae Bethan Gwanas hefyd yn ffan o’r llyfr.

Dwi mor falch o weld stori â dimensiwn rhyngwladol yn dod i’r farchnad – mi fasa’n braf gweld mwy a dweud y gwir, yn enwedig os ydyn nhw o’r un safon â Chwedl Calaffate.

Mae’r gwaith arlunio yn ardderchog. Mae ’na nifer o artistiaid talentog yng Nghymru sy’n darlunio llyfrau plant, ond mae hwn yn enghraifft o’r goreuon yn fy marn i – lliwiau cynnes oren, melyn a choch, sy’n cyfleu caledi bywyd ar y paith.

Fel sy’n amlwg o’r teitl, chwedl yw hon, yn wreiddiol o Batagonia, sy’n sôn am goeden ffrwythau’r Calaffate, a’r stori drist tu ôl iddi. Doeddwn i ddim yn gyfarwydd gyda’r goeden, ei ffrwyth na’r chwedl, mae’n rhaid i mi gyfaddef.

Daw’r chwedl o’r dywediad “El que come Calafate siempre vuelve.” Hynny yw, os flaswch chi ffrwyth y Calaffate, rydych chi’n siŵr o ddychwelyd i’r Wladfa. Mae ’na rywbeth rhamantus iawn tu ôl i’r dywediad yna yn does, yn debyg iawn i’r syniad o ‘hiraeth’ sydd gennym ni yng Nghymru – y cysylltiad pwerus rhwng y pobl a’r tir.

Ac mae ’na ramant yn y chwedl hefyd, sydd yng ngeiriau’r awdur, yn ymdebygu i stori Blodeuwedd. Mae’r ddau yn sôn am barau ifanc sy’n disgyn mewn cariad, ond cariad sydd ddim i fod. Fedrwch chi ddim helpu ond meddwl ei bod hi’n bechod na fyddai’r dynion hŷn wedi meindio eu busnes yn y chwedlau yma a gadael i’r cyplau ifanc fod!

Dwi’n meddwl y basa’r chwedl yma’n un dda i’w haddasu fel ‘animated short’ ar gyfer y teledu, petai na bres i wneud hynny.

Yn ogystal â’r stori ei hun, ar ddiwedd y llyfr cawn fwy fyth o wybodaeth am darddiad y chwedl, a thipyn o wybodaeth am y broses o greu’r gyfrol hefyd. Dwi’m yn gwybod am bawb arall, ond dwi’n fascinated efo manylion behind the scenes fel hyn. Roedd y rhestr eirfa yn syniad da hefyd.

Dim ond un peth sydd ar ôl i’w wneud – gwneud yn siŵr mod i’n mynd i Batagonia fy hun rhyw ddiwrnod, i gael trio ffrwyth y calaffante.