Dim adolygiadau
Teitl:
Ni a Nhw
Awdur:
Sioned Wyn Roberts
Darlunydd:
Eric Heyman
Synopsis:

Ni ‘dyn ni… a nhw ‘dyn nhw. A s’mo ni’n gwneud dim ‘da nhw. Pwy yw’r nhw brawychus sy’n codi ofn ar bawb? Mae’r twrch daear yn tyllu i fyny drwy’r pridd a’r wiwer goch yn dringo i lawr y goeden i chwilio am y nhw. Ac yn darganfod bod nhw yn eitha tebyg i ni!

Genres:

Books for Children Under 7

Children's Books (Stories, Poems)

Cyhoeddwr:
Atebol
Cyhoeddwyd:
February 2024
Fformat:
Clawr Meddal, 32 tudalennau

Mae Sôn am Lyfra’n dweud...

Gyda fy nghyfnod wedi dod i ben wedi treulio tair blynedd ar banel y beirniaid Gwobrau Tir na n-Og, mae wastad yn gyffrous gwylio’r cyhoeddiad er mwyn gweld pa lyfrau mae panel eleni wedi dewis. Wrth reswm, mae pob panel mymryn yn wahanol, gan fod diddordebau a mympwyon gwahanol gan bawb. Eleni, yn wahanol i’r arfer, doeddwn i ddim wedi darllen pob llyfr wnaeth neud hi i’r rhestr, felly mae hynny yn dasg dros y misoedd nesaf.

Fodd bynnag, oherwydd fy mab ifanc, roedd hwn yn lyfr roeddwn i wedi ei ddarllen yn barod, ac felly’n falch iawn o’i weld yn cymryd ei le ar rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2025. Mae cyrraedd y safle honno yn dipyn o gamp yn ei hun dydi, chwarae teg!

Os nad ydych chi’n gyfarwydd a’r awdur, mae hi wedi gweithio ym myd y cyfryngau ers blynyddoedd, gan arbenigo mewn rhaglenni ac adnoddau i blant. Ar ben hynny, mae hi’n gyn-enillydd y Gwobrau Tir na n-Og, achos fe enillodd gyda Gwag y Nos yn 2021. Hi ysgrifennodd cyfres o lyfrau doniol o’r enw Ffwlbart Ffred hefyd, ac os ‘da chi’n hoffi llyfrau llun doniol, ewch i chwilio am rheiny. Saff i ddweud felly, ei bod hi’n gwybod yn union beth sydd at ddaint plant.

2 am bris 1 – Bargen!

Y peth cyntaf sylwch chi am y llyfr, heblaw arlunwaith lliwgar a chwareus Eric Heyman, yw fod dau glawr ar gyfer y llyfr – os trowch chi’r llyfr drosodd a wyneb i waered, mae fersiwn arall o’r stori. Mewn dyddiau lle mae costau byw yn brathu, mi gewch chi ddwy stori mewn un yma – bargen!

Stori a geir yma o ddau safbwynt, y twrch sydd yn byw ym mherfeddion y ddaear, a’r wiwer sydd yn treulio’i bywyd fyny fry yng nghanghennau uchel y coed. Mae’r ddau greadur ifanc yn chwilfrydig am y byd o’u cwmpas, wrth i’r twrch bendroni ‘beth sy’ lan fynna?’ a’r wiwer holi ‘be sy’ lawr fanna?’

Ar ôl cael atebion digon swta gan eu rheini, mae’r ddau greadur yn penderfynu sleifio i ffwrdd yn ddistaw bach a mynd ar antur er mwyn atebion y cwestiynau mawr sy’n eu poeni! Lot gwell ‘na hel cnau diflas neu gysgu!

Gobaith am ddyfodol gwell

Er fod y ddau greadur yn amheus iawn o’u gilydd i gychwyn, buan iawn daw’r ddau yn ffrindiau mawr a chant hwyl a sbri hefo’i gilydd yn chwarae tan machlud yr haul! Er fod y stori yn cael ei hadrodd ar lefel syml, mae syniadau cymhleth yn y cefndir. Er enghraifft, ,mae’n dangos i blant bach nad oes angen ofni’r hyn nad ydym yn ei ddeall, ac mae’n iach i fod yn chwilfrydig am bobl neu lefydd gwahanol. Beth sy’n fy nharo i’n syth ydi sut mae’r oedolion yn y stori mor gaeedig wrth sôn am y “ni” a’r “nhw” ond mae plant y stori yn llawer mwy meddwl agored a goddefgar o bobl newydd. Efallai fod hi’n rhy hwyr i fy nghenhedlaeth i, ond o bosib, mae llygedyn o obaith yma y bydd ein pobl ifanc, sef y genhedlaeth nesaf, yn llawer mwy tebygol o gyd dynnu a chyd-fyw a’i gilydd.

Dyma stori unigryw a gwahanol, a dwi’n falch o weld buddsoddiad mewn llyfrau llun gwreiddiol o safon. Pob hwyl i’r awdur a’r wasg yng ngwobrau eleni – bydd rhaid disgwyl tan Steddfod yr Urdd i ffeindio allan!