Dim adolygiadau
Teitl:
Madi
Awdur:
Dewi Wyn Williams
Darlunydd:
Niki Pilkington
Synopsis:

Nofel am gymeriad sy’n byw gydag anorecsia a bwlimia ac sy’n cuddio’r salwch. Nofel heriol i’n cymdeithas gyfoes, a’i harddull a’i themâu anghonfensiynol yn torri cwys newydd.

Genres:

Children's Books (Novels and Short Stories)

Novels and Stories For Young Adults

Cyhoeddwr:
Atebol
Cyhoeddwyd:
March 2019
Fformat:
Clawr Meddal, 200 tudalennau

Mae Sôn am Lyfra’n dweud...

Madi ydi nofel gyntaf yr awdur Dewi Wyn Williams. Dyma nofel sy’n trafod bywyd merch ifanc wrth iddi ddatblygu a delio efo’r anhwylderau bwyta (eating disorders) anorexia a bulimia.

O oedran ifanc iawn mae Madelyn wedi poeni am bwysau ac am sut mae hi’n edrych. Mae ganddi hefyd ddychymyg byw iawn, ac wrth geisio cofio ei hatgof cyntaf un, mae hi’n mynd yn ôl i’r adeg pan oedd hi’n ffoetws yn y groth. Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i’n hollol siŵr o’r nofel ar y pwynt yma, ond fe wnes i ddal ati i ddarllen ac fe ddaeth pethau’n gliriach.

Llwydda’r awdur i gyfleu’r anhwylderau bwyta yn effeithiol iawn yn y nofel, a hynny trwy eu gwneud yn gymeriad – Llais. Llais ydi’r ffrind dychmygol sydd gan Madi ers pan oedd hi’n blentyn bach. Llais sy’n gwneud sylwadau beirniadol am bwysau Madi, am sut mae hi’n edrych ac am bob rhan o’i bywyd hi. Mae Madi’n credu fod Llais yn ffrind, ond dydi’r cyfeillgarwch yn gwneud dim lles iddi.

Nid yr anhwylderau bwyta yn unig sy’n cael eu trafod yn y nofel yma gan Dewi Wyn Williams. Mae’n plethu nifer o themâu eraill i’r stori fel rhyw, unigrwydd, perthnasau, cymhlethdodau teulu a galar. Perthynas Madi efo’i rhieni ydi’r brif thema arall, ar wahân i’r anorexia a’r bulimia, ac mae ei pherthynas efo’i rhieni yn bendant wedi cyfrannu at ei anhwylderau bwyta. Mae ei thad i ffwrdd am ddyddiau neu wythnosau gyda’i waith, does gan Madi ddim perthynas dda iawn efo’i mam, mae perthynas ei mam a’i thad yn amlwg dan straen ac mae’n amlwg fod rhywbeth wedi digwydd ar ryw adeg gan fod ei mam yn amlwg yn anhapus iawn, yn yfed gormod a phrin yn gadael y tŷ.

Gwaethygu mae anorexia Madi, gan wedyn ddatblygu’n bulimia. Wrth i’r bobl o’i hamgylch wneud eu gorau i’w helpu i wella cawn wybod mwy am yr hyn sydd y tu ôl i berthynas gymhleth ei rhieni.

Mae’r nofel yn bendant yn rhoi mewnwelediad effeithiol iawn i fywyd rhywun sy’n byw efo anhwylder bwyta. Daw’n amlwg fod yr awdur wedi gwneud gwaith ymchwil manwl, ac mae’n cyflwyno rhai o nodweddion ac elfennau’r cyflwr yn dda iawn. Yn bersonol, byddwn i’n teimlo’n hapusach petai ryw fath o rybudd wedi’i gynnwys ar ddechrau’r nofel ynglŷn â’r cynnwys. I rywun sydd wedi profi anhwylder bwyta, dw i’n siŵr y byddai rhai darnau o’r nofel yn gallu bod yn anodd iawn i’w darllen, ac mae darn sy’n disgrifio hunan-niweidio hefyd, y dylid tynnu sylw ato ar y dechrau. Yn ogystal, dw i’n teimlo nad ydi rhai o’r cyfeiriadau a pheth o iaith y nofel yn gweddu i ferch ifanc yn ei harddegau. Fyddai merch ifanc heddiw yn cofio’r rhaglen deledu Fat Friends ac wrth restru rhai o fodelau prydferthaf y byd yn enwi Heidi Klum cyn Kendall Jenner? Wedi dweud hynny, dydi hyn ddim yn amharu ar y stori o gwbl mewn gwirionedd.

Mae’n bwysig bod nofelau ar gael sy’n trafod ac yn addysgu pobl am anhwylderau bwyta, ac mae Madi yn sicr yn gwneud hynny. Mi fyddwn i wedi hoffi darllen mwy am y broses o wella a delio efo bywyd ar ôl byw efo anhwylderau bwyta – deunydd am ail nofel ella?