Children's Books (Novels and Short Stories)
Novels and Stories For Young Adults
Dod ar draws y llyfr yn eistedd ar fy silff lyfrau yn y study wnes i gyntaf. Dim syniad o ble ddaeth o na phwy pia hi! Wel – fi rŵan!
Doedd y clawr ddim wir yn apelio ataf – ddim yn siŵr pam. Mae ‘na rhyw edrychiad mymryn yn dated arno erbyn hyn efallai. Ond, chwedl y Sais; ‘don’t judge a book by it’s cover!’ felly mi rois i gynnig ar y llyfr.
A dwi’n falch fy mod i wedi, a dweud y gwir. Stori am ferch 14 oed yw hon, ond nid merch gyffredin, o na! Mae gan Alys Phillips gyfrinach, a set o sgiliau arbennig iawn achos mae hi’n ysbïwr proffesiynol. Mae hi wedi cael ei hyfforddi mewn spy skills gan ei mam a nawr mae hi’n barod am ei mission gyntaf. Mae’r stori’n fy atgoffa o’r ffilmiau poblogaidd Spy Kids yn y 2000au cynnar!
Mae rhywbeth mawr o’i le yn Ysgol Breifat ‘hynod lewyrchus’ Pen y Rhych – sydd â chanlyniadau anhygoel a ffynhonnell incwm amheus. Rhywbeth arall sy’n od iawn yw fod y plant fel robotiaid a does NEB yn chwerthin yno. O gwbl!
Gwaith Alys ydi mynd undercover yn yr ysgol gyda’i theclynnau ysbïo ffansi er mwyn datgelu cyfrinach Miss Glein, y brifathrawes. Wedi i Alys ddechrau chwilota yn yr ysgol, mae Miss Glein a’i dirprwy, Mr Bylbs yn ceisio rhwystro Alys wrth iddi geisio darganfod y gwir.
Gyda help ei ffrindiau newydd – ei ffrindiau cyntaf erioed – mae Alys yn gorfod rhoi ei hun mewn perygl o gael ei dal, er mwyn casglu tystiolaeth am y digwyddiadau od yn yr ysgol breifat cyn bod hi’n rhy hwyr. Tybed fydd hi’n llwyddo mewn amser?
Yn ddibynnol ar allu darllen wrth gwrs, tybiwn i fod y llyfr yn addas ar gyfer plant 9+ oed, ond byddai hefyd yn gweithio hyd at 14 oed. Dyma lyfr sy’n addas i fechgyn a merched, ond dwi’n meddwl y bydd merched yn eu harddegau cynnar yn gwerthfawrogi merch gref fel prif gymeriad. Yn wahanol i’r ffilmiau James Bond, tydi Alys ddim yn damsel in distress o bell ffordd ac mae hi’n fwy na abl i ofalu am ei hun. Dwi’n meddwl fod cymeriad cryf, annibynnol fel hyn yn gosod esiampl dda ac yn cael gwared â stereotypes o gymeriadau benywaidd mewn ffilmiau spy.
Flynyddoedd yn ôl, cyhoeddwyd llyfr gan Gomer o’r enw ‘Taro’r Targed’ gan John Townsend (addas.Elin Meek) am fachgen ifanc oedd hefyd yn ysbïwr. Roedd hon yn llyfr mymryn yn dywyllach/gritty ac mae Asiant A yn teimlo braidd yn light-hearted o gymharu – sydd ddim yn syndod o ystyried yr awdur. Dibynnu beth mae’r darllenydd yn hoffi – mae gwefan y Lolfa yn ei disgrifio fel ‘yr Alex Rider Cymraeg’ – ond tydi Asiant A ddim fel y gyfres Alex Rider (mae llawer mwy o drais yn rheina yn un peth) Mae na fwy o hiwmor yn Asiant A ac roedd ‘na ddigon o jôcs i roi gwên ar fy ngwyneb – hon dwi’n licio:
“Twm Ffrancs? Roedd o’n edrych yn debycach i Twm Ffat!”
Yn bersonol, roeddwn i’n gweld rhai agweddau o’r plot ac ambell gymeriad braidd yn arwynebol neu’n rhy obvious, a byddwn i wedi hoffi gweld Alys mewn mwy o ‘berygl’, ond mae’r stori’n dal i weithio. Cryfder y nofel yw’r prif gymeriad, Alys. Mae hi’n bersonoliaeth gref gyda thipyn o ‘sbarc’ – roedd hi’n ffraeth iawn ar brydiau e.e. tud 62 – dwi’n siŵr fydd plant yn gwerthfawrogi hi’n ateb y pennaeth yn ôl!
Mae llyfr arall bellach ar gael yn y gyfres.